Gwahardd disgyblion: canllawiau8
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw rai o swyddogaethau —
a
y pennaeth neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir,
b
awdurdod addysg lleol, neu
c
panel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen,
o dan adran 52(1) o Ddeddf 2002 neu o dan y Rheoliadau hyn.
2
Wrth gyflawni unrhyw swyddogaeth o'r fath, rhaid i'r cyfryw berson neu gorff roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o dro i dro gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.