Apelau yn erbyn gwahardd disgyblion yn barhaol7

1

Rhaid i awdurdod addysg lleol wneud trefniadau i alluogi'r person perthnasol i apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad gan y corff llywodraethu o dan reoliad 5 i beidio â derbyn disgybl sydd wedi'i wahardd yn barhaol yn ôl i ysgol a gynhelir gan yr awdurdod.

2

Mae'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn effeithiol mewn perthynas â gwneud a gwrando ar apelau yn unol â'r trefniadau a wnaed o dan baragraff (1); ac ym mharagraffau (3) i (5) ystyr “panel apêl” yw panel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen.

3

Nid yw panel apêl i benderfynu bod disgybl i'w dderbyn yn ôl i'r ysgol ddim ond oherwydd methiant i gydymffurfio ag unrhyw ofynion gweithdrefnol a osodwyd gan neu o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r canlynol —

a

penderfyniad o dan reoliad 6 y mae'r apêl yn cael ei dwyn odano, neu

b

y gwaharddiad neu benderfyniad gan y pennaeth y mae'r penderfyniad hwnnw'n berthnasol iddo.

4

Bydd penderfyniad panel apêl ar apêl yn unol â threfniadau a wnaed o dan baragraff (1) yn rhwymol ar y person perthnasol, y corff llywodraethu, y pennaeth a'r awdurdod addysg lleol.

5

Ar apêl o'r fath caiff y panel apêl —

a

cadarnhau'r gwaharddiad;

b

cyfarwyddo bod y disgybl i gael ei dderbyn yn ôl (naill ai ar unwaith neu erbyn dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd), neu

c

penderfynu oherwydd amgylchiadau eithriadol neu am resymau eraill nad yw'n ymarferol i roi cyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol i'w dderbyn yn ôl, ond y byddai fel arall wedi bod yn briodol i roi cyfarwyddyd o'r fath.