Swyddogaethau'r corff llywodraethu mewn perthynas â disgyblion sydd wedi'u gwahardd6
1
Mae paragraffau (2) i (6) yn gymwys os hysbysir corff llywodraethu ysgol a gynhelir o dan reoliad 4(4) —
a
o waharddiad parhaol disgybl,
b
o benderfyniad y dylai unrhyw waharddiad ar ddisgybl gael ei wneud yn barhaol,
c
o wahardd unrhyw ddisgybl, a bod yr amgylchiadau yn golygu y byddai'r disgybl, yn sgil y gwaharddiad —
i
yn cael ei wahardd o'r ysgol am gyfanswm o fwy na 15 diwrnod ysgol mewn unrhyw dymor unigol, neu
ii
yn colli cyfle i sefyll arholiad cyhoeddus, neu
ch
o wahardd unrhyw ddisgybl os byddai'r disgybl yn sgil y gwaharddiad wedi'i wahardd o'r ysgol am gyfanswm o fwy na 5 diwrnod ysgol mewn unrhyw dymor unigol a bod y person perthnasol yn mynegi dymuniad i roi sylwadau yn unol â rheoliad 4(1)(c).
2
Ym mhob achos o'r fath rhaid i'r corff llywodraethu —
a
ystyried o dan ba amgylchiadau y cafodd y disgybl ei wahardd;
b
ystyried unrhyw sylwadau am y gwaharddiad sy'n cael eu rhoi i'r corff llywodraethu —
i
gan y person perthnasol yn unol â rheoliad 4(1)(c),
ii
gan y disgybl sydd wedi'i wahardd os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw yn unol â rheoliad 4(1)(c),
iii
gan y pennaeth, a
iv
gan yr awdurdod addysg lleol;
c
cynnull cyfarfod a chaniatáu i'r canlynol, sef —
i
y person perthnasol,
ii
y disgybl sydd wedi'i wahardd os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw,
iii
y pennaeth, a
iv
swyddog o'r awdurdod addysg lleol a enwebwyd gan yr awdurdod addysg lleol,
i fynd i'r cyfarfod hwnnw a rhoi sylwadau llafar am y gwaharddiad; ac
ch
ystyried unrhyw sylwadau llafar sy'n cael eu rhoi felly.
3
Rhaid i'r corff llywodraethu ystyried a ddylid derbyn y disgybl yn ôl neu beidio, ac os yw'n ystyried y dylid derbyn y disgybl yn ôl, rhaid iddo'n ychwanegol ystyried a ddylid ei dderbyn yn ôl ar unwaith, neu a ddylid ei dderbyn yn ôl erbyn ddyddiad penodol.
4
Os bydd y corff llywodraethu'n penderfynu na ddylid derbyn disgybl yn ôl, rhaid iddo yn ddi-oed —
a
rhoi'r cyfarwyddyd priodol i'r pennaeth, a
b
hysbysu'r person perthnasol a'r awdurdod addysg lleol o'i benderfyniad.
5
Rhaid i'r pennaeth gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd gan y corff llywodraethu i dderbyn disgybl a gafodd ei wahardd yn ôl i'r ysgol.
6
Os bydd y corff llywodraethu'n penderfynu y dylid derbyn disgybl yn ôl, rhaid iddo yn ddi-oed —
a
hysbysu'r person perthnasol, y pennaeth a'r awdurdod addysg lleol o'i benderfyniad, a
b
yn ychwanegol, yn achos disgybl sydd wedi'i wahardd yn barhaol, rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r person perthnasol sy'n cyfeirio at y penderfyniad hwnnw ac sy'n datgan y materion canlynol —
i
y rhesymau dros y penderfyniad,
ii
ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad,
iii
y person y dylai roi unrhyw hysbysiad apêl iddo,
iv
bod yn rhaid i unrhyw hysbysiad apêl gynnwys seiliau'r apêl, a
v
y dyddiad olaf y caniateir gwneud yr apêl.
7
Os digwydd y canlynol—
a
bod pennaeth ysgol a gynhelir yn gwahardd disgybl mewn achos nad yw paragraffau (2) i (6) yn gymwys, a
b
bod y corff llywodraethu yn cael unrhyw sylwadau sydd wedi'u rhoi yn unol â rheoliad 4(1)(c) gan y person perthnasol ynghylch y gwaharddiad,
rhaid iddynt ystyried y sylwadau hynny.
8
Yn ddarostyngedig i baragraff (9), rhaid i'r corff llywodraethu gymryd pob un o'r camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) —
a
dim cynharach na chwe diwrnod ysgol; a
b
dim hwyrach na 15 diwrnod ysgol, yn achos gwaharddiad parhaol neu waharddiad am gyfnod penodedig o fwy na 15 diwrnod ysgol; neu
c
dim hwyrach na 50 diwrnod ysgol, yn achos gwaharddiad am gyfnod penodedig o 15 diwrnod ysgol neu lai;
ar ôl y dyddiad yr hysbyswyd ef o'r materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 4(4).
9
Os yw disgybl wedi'i wahardd mewn amgylchiadau lle byddai, yn sgil y gwaharddiad, yn colli cyfle i sefyll arholiad cyhoeddus, rhaid i'r corff llywodraethu (i'r graddau y mae'n ymarferol iddo wneud hynny) gymryd pob un o'r camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) cyn y dyddiad y mae'r disgybl i sefyll yr arholiad a beth bynnag dim hwyrach na'r hyn sy'n ofynnol gan baragraff (8).
10
Nid yw'r corff llywodraethu i gael ei ryddhau o'r ddyletswydd i gymryd unrhyw gam y cyfeirir ato ym mharagraff (2) am na chafodd ei gymryd o fewn y cyfnodau a bennir ym mharagraffau (8) a (9).
11
Ceir rhoi'r hysbysiad ysgrifenedig y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b) naill ai —
a
drwy ei draddodi â llaw i gyfeiriad hysbys diwethaf y person perthnasol, neu
b
drwy ei anfon drwy bost dosbarth cyntaf mewn amlen sydd wedi'i chyfeirio'n briodol ac y mae wedi talu ymlaen llaw amdani i gyfeiriad hysbys diwethaf y person perthnasol.