- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6.—(1) Mae paragraffau (2) i (6) yn gymwys os hysbysir corff llywodraethu ysgol a gynhelir o dan reoliad 4(4) —
(a)o waharddiad parhaol disgybl,
(b)o benderfyniad y dylai unrhyw waharddiad ar ddisgybl gael ei wneud yn barhaol,
(c)o wahardd unrhyw ddisgybl, a bod yr amgylchiadau yn golygu y byddai'r disgybl, yn sgil y gwaharddiad —
(i)yn cael ei wahardd o'r ysgol am gyfanswm o fwy na 15 diwrnod ysgol mewn unrhyw dymor unigol, neu
(ii)yn colli cyfle i sefyll arholiad cyhoeddus, neu
(ch)o wahardd unrhyw ddisgybl os byddai'r disgybl yn sgil y gwaharddiad wedi'i wahardd o'r ysgol am gyfanswm o fwy na 5 diwrnod ysgol mewn unrhyw dymor unigol a bod y person perthnasol yn mynegi dymuniad i roi sylwadau yn unol â rheoliad 4(1)(c).
(2) Ym mhob achos o'r fath rhaid i'r corff llywodraethu —
(a)ystyried o dan ba amgylchiadau y cafodd y disgybl ei wahardd;
(b)ystyried unrhyw sylwadau am y gwaharddiad sy'n cael eu rhoi i'r corff llywodraethu —
(i)gan y person perthnasol yn unol â rheoliad 4(1)(c),
(ii)gan y disgybl sydd wedi'i wahardd os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw yn unol â rheoliad 4(1)(c),
(iii)gan y pennaeth, a
(iv)gan yr awdurdod addysg lleol;
(c)cynnull cyfarfod a chaniatáu i'r canlynol, sef —
(i)y person perthnasol,
(ii)y disgybl sydd wedi'i wahardd os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw,
(iii)y pennaeth, a
(iv)swyddog o'r awdurdod addysg lleol a enwebwyd gan yr awdurdod addysg lleol,
i fynd i'r cyfarfod hwnnw a rhoi sylwadau llafar am y gwaharddiad; ac
(ch)ystyried unrhyw sylwadau llafar sy'n cael eu rhoi felly.
(3) Rhaid i'r corff llywodraethu ystyried a ddylid derbyn y disgybl yn ôl neu beidio, ac os yw'n ystyried y dylid derbyn y disgybl yn ôl, rhaid iddo'n ychwanegol ystyried a ddylid ei dderbyn yn ôl ar unwaith, neu a ddylid ei dderbyn yn ôl erbyn ddyddiad penodol.
(4) Os bydd y corff llywodraethu'n penderfynu na ddylid derbyn disgybl yn ôl, rhaid iddo yn ddi-oed —
(a)rhoi'r cyfarwyddyd priodol i'r pennaeth, a
(b)hysbysu'r person perthnasol a'r awdurdod addysg lleol o'i benderfyniad.
(5) Rhaid i'r pennaeth gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd gan y corff llywodraethu i dderbyn disgybl a gafodd ei wahardd yn ôl i'r ysgol.
(6) Os bydd y corff llywodraethu'n penderfynu y dylid derbyn disgybl yn ôl, rhaid iddo yn ddi-oed —
(a)hysbysu'r person perthnasol, y pennaeth a'r awdurdod addysg lleol o'i benderfyniad, a
(b)yn ychwanegol, yn achos disgybl sydd wedi'i wahardd yn barhaol, rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r person perthnasol sy'n cyfeirio at y penderfyniad hwnnw ac sy'n datgan y materion canlynol —
(i)y rhesymau dros y penderfyniad,
(ii)ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad,
(iii)y person y dylai roi unrhyw hysbysiad apêl iddo,
(iv)bod yn rhaid i unrhyw hysbysiad apêl gynnwys seiliau'r apêl, a
(v)y dyddiad olaf y caniateir gwneud yr apêl.
(7) Os digwydd y canlynol—
(a)bod pennaeth ysgol a gynhelir yn gwahardd disgybl mewn achos nad yw paragraffau (2) i (6) yn gymwys, a
(b)bod y corff llywodraethu yn cael unrhyw sylwadau sydd wedi'u rhoi yn unol â rheoliad 4(1)(c) gan y person perthnasol ynghylch y gwaharddiad,
rhaid iddynt ystyried y sylwadau hynny.
(8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), rhaid i'r corff llywodraethu gymryd pob un o'r camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) —
(a)dim cynharach na chwe diwrnod ysgol; a
(b)dim hwyrach na 15 diwrnod ysgol, yn achos gwaharddiad parhaol neu waharddiad am gyfnod penodedig o fwy na 15 diwrnod ysgol; neu
(c)dim hwyrach na 50 diwrnod ysgol, yn achos gwaharddiad am gyfnod penodedig o 15 diwrnod ysgol neu lai;
ar ôl y dyddiad yr hysbyswyd ef o'r materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 4(4).
(9) Os yw disgybl wedi'i wahardd mewn amgylchiadau lle byddai, yn sgil y gwaharddiad, yn colli cyfle i sefyll arholiad cyhoeddus, rhaid i'r corff llywodraethu (i'r graddau y mae'n ymarferol iddo wneud hynny) gymryd pob un o'r camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) cyn y dyddiad y mae'r disgybl i sefyll yr arholiad a beth bynnag dim hwyrach na'r hyn sy'n ofynnol gan baragraff (8).
(10) Nid yw'r corff llywodraethu i gael ei ryddhau o'r ddyletswydd i gymryd unrhyw gam y cyfeirir ato ym mharagraff (2) am na chafodd ei gymryd o fewn y cyfnodau a bennir ym mharagraffau (8) a (9).
(11) Ceir rhoi'r hysbysiad ysgrifenedig y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b) naill ai —
(a)drwy ei draddodi â llaw i gyfeiriad hysbys diwethaf y person perthnasol, neu
(b)drwy ei anfon drwy bost dosbarth cyntaf mewn amlen sydd wedi'i chyfeirio'n briodol ac y mae wedi talu ymlaen llaw amdani i gyfeiriad hysbys diwethaf y person perthnasol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: