Gwahardd disgyblion: y ddyletswydd i hysbysu'r person perthnasol, y corff llywodraethu a'r awdurdod addysg lleol4
1
Os bydd pennaeth ysgol a gynhelir yn gwahardd unrhyw ddisgybl, rhaid i'r pennaeth gymryd camau rhesymol yn ddi-oed i hysbysu'r person perthnasol o'r materion canlynol —
a
cyfnod y gwaharddiad neu, os gwaherddir y disgybl yn barhaol, ei fod yn cael ei wahardd yn y modd hwnnw;
b
y rhesymau dros y gwaharddiad;
c
y caiff roi sylwadau am y gwaharddiad i'r corff llywodraethu a chaiff y disgybl sydd wedi'i wahardd roi sylwadau hefyd am y gwaharddiad i'r corff llywodraethu os nad y person perthnasol yw'r disgybl; ac
ch
y dull o roi'r sylwadau hynny.
2
Os yw'r pennaeth yn penderfynu y dylai unrhyw waharddiad ar ddisgybl am gyfnod penodedig gael ei wneud yn waharddiad parhaol, rhaid iddo yn ddi-oed gymryd camau rhesymol i hysbysu'r person perthnasol —
a
am ei benderfyniad, a
b
am y materion a bennir yn is-baragraffau (b) i (ch) o baragraff (1).
3
Mae paragraff (4) yn gymwys os bydd y pennaeth —
a
yn gwahardd unrhyw ddisgybl mewn amgylchiadau lle y byddai'r disgybl, yn sgil y gwaharddiad —
i
yn cael ei wahardd o'r ysgol am gyfanswm o fwy na phum diwrnod ysgol mewn unrhyw dymor unigol, neu
ii
yn colli cyfle i sefyll unrhyw arholiad cyhoeddus,
b
yn gwahardd disgybl yn barhaol, neu
c
yn penderfynu y dylai unrhyw waharddiad ar ddisgybl gael ei wneud yn barhaol.
4
Pan fydd y paragraff hwn yn gymwys, rhaid i'r pennaeth hysbysu'r awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu yn ddi-oed o'r materion canlynol —
a
cyfnod y gwaharddiad neu, os gwaherddir y disgybl yn barhaol, ei fod yn cael ei wahardd yn y modd hwnnw, neu
b
ei benderfyniad y dylid gwneud unrhyw waharddiad ar ddisgybl am gyfnod penodedig yn waharddiad parhaol,
ac (yn y naill achos a'r llall) y rhesymau drosto.
5
Ym mhob tymor rhaid i'r pennaeth hysbysu'r awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu o unrhyw waharddiadau na ddônt o fewn paragraff (3) ac yn achos pob gwaharddiad o'r fath rhaid iddo ddarparu manylion am gyfnod y gwaharddiad a'r rheswm drosto.