Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
ystyr “y person perthnasol” (“the relevant person”) —
- a
o ran disgybl a oedd yn 10 oed neu'n iau ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn ysgol y cafodd y disgybl hwnnw ei wahardd, yw un o'i rieni;
- b
o ran disgybl o oedran ysgol gorfodol a oedd yn 11 oed neu'n hŷn ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn ysgol y cafodd y disgybl hwnnw ei wahardd, yw'r disgybl hwnnw ac un o'i rieni;
- c
o ran disgybl sy'n hŷn nag oedran ysgol gorfodol, yw'r disgybl ei hun;
- a
ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Swm i Ddilyn Disgybl sydd wedi'i Wahardd yn Barhaol) 19993.
2
Mae unrhyw waharddiad am gyfnod penodedig yn ystod y cyfnod rhwng sesiwn y bore a sesiwn y prynhawn mewn ysgol at ddibenion y Rheoliadau hyn i'w cymryd yn gyfystyr â chwarter diwrnod ysgol.