(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi terfynau ar bwerau penaethiaid i wahardd disgyblion o ysgolion a gynhelir o dan adran 52(1) o Ddeddf Addysg 2002, a'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan y pennaeth, corff llywodraethu'r ysgol a'r awdurdod addysg lleol yn dilyn gwaharddiad o ysgol a gynhelir.

Mae Rheoliad 2 yn cyflwyno diffiniad newydd o “berson perthnasol” at ddibenion y Rheoliadau hyn ac yn darparu hefyd fod unrhyw waharddiad am gyfnod penodedig yn ystod yr amser cinio i'w gyfrif yn waharddiad am chwarter o ddiwrnod ysgol.

Mae Rheoliad 3 yn darparu na chaiff pennaeth wahardd disgybl am un neu ragor o gyfnodau penodedig sydd gyda'i gilydd yn dod i gyfanswm o fwy na 45 diwrnod ysgol mewn unrhyw flwyddyn ysgol.

Mae Rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r pennaeth hysbysu'r person perthnasol o fanylion gwaharddiad. Rhaid i'r pennaeth hefyd hysbysu'r awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu a yw'r gwaharddiad yn un parhaol, a fydd yn golygu bod disgybl yn colli arholiad cyhoeddus, neu a fydd yn mynd â chyfanswm y gwaharddiadau i'r disgybl hwnnw dros bum diwrnod mewn unrhyw dymor.

Mae Rheoliad 5 yn darparu ynglŷn ag ystod yr wybodaeth y mae rhaid i'r corff llywodraethu ei darparu i'r awdurdod addysg lleol ac ystod yr wybodaeth y mae rhaid i'r awdurdod addysg lleol ei darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru os bydd yn gofyn amdani.

Os bydd y gwaharddiad yn barhaol, yn golygu y bydd y disgybl yn colli arholiad cyhoeddus, neu'n mynd â chyfanswm y gwaharddiadau ar gyfer y disgybl hwnnw dros 15 diwrnod mewn tymor, neu fod y person perthnasol yn dymuno rhoi sylwadau ac y byddid yn gwahardd y disgybl am fwy na phum diwrnod mewn tymor,

mae Rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu ystyried yr amgylchiadau, gwrando ar unrhyw sylwadau gan y person perthnasol, y disgybl sydd wedi'i wahardd, os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw, neu'r awdurdod addysg lleol, a phenderfynu a ddylid derbyn y disgybl yn ôl neu beidio.

Mae Rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod addysg lleol wneud trefniadau i'r person perthnasol apelio yn erbyn penderfyniad y corff llywodraethu i beidio â derbyn disgybl sydd wedi'i wahardd yn barhaol yn ôl i'r ysgol. Nid yw methiant i ddilyn gofynion gweithdrefnol ynddo'i hun i arwain at benderfyniad i dderbyn yn ôl. Mae penderfyniad y panel apêl yn rhwymol. Os yw'r panel apêl yn derbyn bod amgylchiadau eithriadol neu resymau eraill sy'n ei gwneud yn anymarferol i gyfarwyddo derbyn yn ôl, cânt benderfynu peidio â gwneud cyfarwyddyd i dderbyn y disgybl yn ôl ond cânt ddynodi y byddai cyfarwyddyd fel arall wedi bod yn briodol.

Mae Rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i benaethiaid, cyrff llywodraethu, awdurdodau addysg lleol a phanelau apêl roi sylw i ganllawiau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Rheoliadau 9 a 10 yn gwneud diwygiadau canlyniadol amrywiol, gan gynnwys diwygiadau i Reoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2242), er mwyn sicrhau bod cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at gorff llywodraethu ysgol a gynhelir i'w dehongli fel cyfeiriadau at eu pwyllgorau disgyblu disgyblion, ac yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Addysg (Swm i Ddilyn Disgybl sydd wedi'i Wahardd yn Barhaol) 1999 (O.S. 1999/495).

Mae'r Atodlen yn pennu cyfansoddiad y panelau apêl a'r gweithdrefnau ar eu cyfer.