Diwygio Rheoliadau 19992

1

Mae Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 19993 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff (4) o reoliad 1:

a

Ar y dechrau, mewnosodwch y canlynol—

a

Yn ddarostyngedig i is-baragraff (b)

b

Ar y diwedd, ychwanegwch y canlynol—

b

Yn Rhan 2 o'r Atodlen, mae'r cyfeiriad at Aquila Networks plc yn gyfeiriad at gwmni ac iddo'r enw hwnnw ar 10 Mai 2002.

3

Yn Rhan 2 o'r Atodlen, ac yn effeithiol o 1 Tachwedd 2001 ymlaen, rhowch “Aquila Networks plc” yn lle “Midlands Electricity plc”