Offerynnau Statudol Cymru
2003 Rhif 3211 (Cy.304)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2003
Wedi'u gwneud
9 Rhagfyr 2003
Yn dod i rym
31 Rhagfyr 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi(1) sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru (2):
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2003.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1992” yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992(3).
Diwygio Rheoliadau 1992
2. O ran y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004, diwygir Atodlenni 2 a 4 i Reoliadau 1992 fel a ganlyn:—
(a)ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 yn lle “0.999” rhoddir “0.998”; a
(b)yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Rhagfyr 2003
Rheoliad 2
YR ATODLEN
Regulation 6
“SCHEDULE 4ADULT POPULATION FIGURES
| Billing authority area | Prescribed figure |
|---|---|
| Blaenau Gwent | 52,800 |
| Bridgend | 99,400 |
| Caerphilly | 129,200 |
| Carmarthenshire | 137,000 |
| Cardiff | 238,900 |
| Ceredigion | 62,500 |
| Conwy | 87,500 |
| Denbighshire | 73,400 |
| Flintshire | 114,900 |
| Gwynedd | 91,900 |
| Isle of Anglesey | 53,000 |
| Merthyr Tydfil | 42,500 |
| Monmouthshire | 65,700 |
| Neath Port Talbot | 104,900 |
| Newport | 104,400 |
| Pembrokeshire | 88,000 |
| Powys | 99,700 |
| Rhondda Cynon Taf | 177,200 |
| Swansea | 176,100 |
| Torfaen | 69,200 |
| Vale of Glamorgan (The) | 91,200 |
| Wrexham | 100,700” |
Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mae'n ofynnol i awdurdodau bilio yng Nghymru dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r rheolau ar gyfer cyfrifo'r symiau hynny wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (“Rheoliadau 1992”).
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi lluosydd newydd ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 (Rhagdybiaethau ynglyn â'r Swm Gros), ac Atodlen 4 newydd (Ffigurau Poblogaeth Oedolion).
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1992/3238, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1993/1505, 1993/3077, 1994/547, 1994/1742, 1994/3125, 1995/3235, 1996/619, 1996/3018, 1997/3003, 1998/2962, 1999/3439 (Cy.47), 2000/3382 (Cy. 220), 2001/3910 (Cy.322) a 2002/3054 (Cy.289).
