Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2003.

2

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1992” yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 19923.

Diwygio Rheoliadau 19922

O ran y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004, diwygir Atodlenni 2 a 4 i Reoliadau 1992 fel a ganlyn:—

a

ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 yn lle “0.999” rhoddir “0.998”; a

b

yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol