(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi effaith i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y Gorchymyn yw newid ffiniau rhwng cymunedau: Ystum Taf a'r Eglwys Newydd; Llanisien a Llys-Faen; a Threlái a Sain Ffagan. Ychwanegir un cynghorydd cymuned yng nghymuned Sain Ffagan.

Gwnaed adroddiad yn Nhachwedd 2002 gan y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol ar adolygiad a gynhaliwyd gan Gyngor Dinas a Sir Caerdydd ar y ffiniau rhwng cymunedau: Ystum Taf a'r Eglwys Newydd; Llanisien a'r Llys-Faen; a Threlái a Sain Ffagan; yn Ninas a Sir Caerdydd. Argymhellodd yr adroddiad newidiadau i'r ffiniau presennol. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi'r argymhellion hynny ar waith heb newidiadau.

Mae printiau o'r mapiau ffiniau A-Ch wedi eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Dinas a Sir Caerdydd yn Neuadd y Cyngor, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).

Mae Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) (“Rheoliadau 1976”), y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(4) o'r Gorchymyn hwn, yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith a gweithrediad gorchmynion megis y gorchymyn hwn.

Yn rhinwedd Rheoliad 40 o Reoliadau 1976, dehonglir cyfeiriadau yng Ngorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Trefniadau Etholiadol) 1998 at gymunedau Ystum Taf, yr Eglwys Newydd, Llanisien, Llys-Faen, Trelái a Sain Ffagan fel cyfeiriadau at y cymunedau hynny fel y'u newidir gan y Gorchymyn hwn.