Gorchymyn Caerdydd (Cymunedau Ystum Taf, yr Eglwys Newydd, Llanisien, Llys-Faen, Trelái a Sain Ffagan) 2003
A chan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion hynny, heb newidiadau;
A bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Caerdydd (Cymunedau Ystum Taf, yr Eglwys Newydd, Llanisien, Llys-Faen, Trelái a Sain Ffagan) 2003.
(2)
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2004, a hwnnw yw'r diwrnod penodedig (“appointed day”) at ddibenion Rheoliadau 1976, ond at y dibenion a nodir yn Rheoliad 4 o Reoliadau 1976, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2003.
Dehongli2.
Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr Map A (“Map A”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map A Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Ystum Taf a'r Eglwys Newydd) 2003” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau 1976;
ystyr Map B (“Map B”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map B Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Llanisien a Llys-Faen) 2003” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau 1976;
ystyr Map C (“Map C”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map C Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Trelái a Sain Ffagan (1)) 2003” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau 1976;
ystyr Map Ch (“Map D”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map Ch Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Trelái a Sain Ffagan (2)) 2003” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau 1976; ac
Newidiadau i Ffiniau Cymunedau3.
Mae'r ffiniau rhwng cymunedau i Ystum Taf a'r Eglwys Newydd; Llanisien a'r Llys-Faen; ac Trelái a Sain Ffagan yn cael eu diwygio yn unol ag erthygl 4.
Ffiniau Cymunedau Newydd4.
(1)
Mae'r ffin rhwng cymundau Ystum Taf a'r Eglwys Newydd i fod fel a ddangosir ar Fap A wedi'i farcio fel “y Ffin Gymunedol Newydd”.
(2)
Mae'r ffin rhwng cymundau Llanisien a Llys-Faen i fod fel a ddangosir ar Fap B wedi'i farcio fel “y Ffin Gymunedol Newydd”.
(3)
Mae'r ffin rhwng cymundau Trelái a Sain Ffagan i fod fel a ddangosir ar Fapiau C ac Ch wedi'u marcio fel “y Ffin Gymunedol Newydd”.
Cynghorydd Cymuned Ychwanegol5.
Cynyddir y nifer o gynghorwyr cymuned i'w hethol ar gyfer cymuned Sain Ffagan i 9.
Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi effaith i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y Gorchymyn yw newid ffiniau rhwng cymunedau: Ystum Taf a'r Eglwys Newydd; Llanisien a Llys-Faen; a Threlái a Sain Ffagan. Ychwanegir un cynghorydd cymuned yng nghymuned Sain Ffagan.
Gwnaed adroddiad yn Nhachwedd 2002 gan y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol ar adolygiad a gynhaliwyd gan Gyngor Dinas a Sir Caerdydd ar y ffiniau rhwng cymunedau: Ystum Taf a'r Eglwys Newydd; Llanisien a'r Llys-Faen; a Threlái a Sain Ffagan; yn Ninas a Sir Caerdydd. Argymhellodd yr adroddiad newidiadau i'r ffiniau presennol. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi'r argymhellion hynny ar waith heb newidiadau.
Mae printiau o'r mapiau ffiniau A-Ch wedi eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Dinas a Sir Caerdydd yn Neuadd y Cyngor, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).
Mae Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) (“Rheoliadau 1976”), y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(4) o'r Gorchymyn hwn, yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith a gweithrediad gorchmynion megis y gorchymyn hwn.
Yn rhinwedd Rheoliad 40 o Reoliadau 1976, dehonglir cyfeiriadau yng Ngorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Trefniadau Etholiadol) 1998 at gymunedau Ystum Taf, yr Eglwys Newydd, Llanisien, Llys-Faen, Trelái a Sain Ffagan fel cyfeiriadau at y cymunedau hynny fel y'u newidir gan y Gorchymyn hwn.