- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
27 Tachwedd 2003
Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2)
Gan fod Comisiwn Ffiniau Llwyodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1), adroddiad dyddiedig Tachwedd 2002 ar adolygiad a gyflawnwyd gan Gyngor Dinas a Sir Caerdydd ar y ffiniau rhwng cymunedau: Ystum Taf a'r Eglwys Newydd; Llanisien a Llys-Faen; a Threlái a Sain Ffagan; yn Ninas a Sir Caerdydd ynghyd â chynigion a luniwyd ganddo arnynt;
A chan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion hynny, heb newidiadau;
A bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru(2) yn awr yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Caerdydd (Cymunedau Ystum Taf, yr Eglwys Newydd, Llanisien, Llys-Faen, Trelái a Sain Ffagan) 2003.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2004, a hwnnw yw'r diwrnod penodedig (“appointed day”) at ddibenion Rheoliadau 1976, ond at y dibenion a nodir yn Rheoliad 4 o Reoliadau 1976, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2003.
2. Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr Map A (“Map A”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map A Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Ystum Taf a'r Eglwys Newydd) 2003” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau 1976;
ystyr Map B (“Map B”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map B Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Llanisien a Llys-Faen) 2003” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau 1976;
ystyr Map C (“Map C”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map C Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Trelái a Sain Ffagan (1)) 2003” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau 1976;
ystyr Map Ch (“Map D”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map Ch Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Trelái a Sain Ffagan (2)) 2003” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau 1976; ac
ystyr “Rheoliadau 1976” (“the 1976 Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(3).
3. Mae'r ffiniau rhwng cymunedau i Ystum Taf a'r Eglwys Newydd; Llanisien a'r Llys-Faen; ac Trelái a Sain Ffagan yn cael eu diwygio yn unol ag erthygl 4.
4.—(1) Mae'r ffin rhwng cymundau Ystum Taf a'r Eglwys Newydd i fod fel a ddangosir ar Fap A wedi'i farcio fel “y Ffin Gymunedol Newydd”.
(2) Mae'r ffin rhwng cymundau Llanisien a Llys-Faen i fod fel a ddangosir ar Fap B wedi'i farcio fel “y Ffin Gymunedol Newydd”.
(3) Mae'r ffin rhwng cymundau Trelái a Sain Ffagan i fod fel a ddangosir ar Fapiau C ac Ch wedi'u marcio fel “y Ffin Gymunedol Newydd”.
5. Cynyddir y nifer o gynghorwyr cymuned i'w hethol ar gyfer cymuned Sain Ffagan i 9.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
Karen Sinclair
Y Trefnydd
27 Tachwedd 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi effaith i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y Gorchymyn yw newid ffiniau rhwng cymunedau: Ystum Taf a'r Eglwys Newydd; Llanisien a Llys-Faen; a Threlái a Sain Ffagan. Ychwanegir un cynghorydd cymuned yng nghymuned Sain Ffagan.
Gwnaed adroddiad yn Nhachwedd 2002 gan y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol ar adolygiad a gynhaliwyd gan Gyngor Dinas a Sir Caerdydd ar y ffiniau rhwng cymunedau: Ystum Taf a'r Eglwys Newydd; Llanisien a'r Llys-Faen; a Threlái a Sain Ffagan; yn Ninas a Sir Caerdydd. Argymhellodd yr adroddiad newidiadau i'r ffiniau presennol. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi'r argymhellion hynny ar waith heb newidiadau.
Mae printiau o'r mapiau ffiniau A-Ch wedi eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Dinas a Sir Caerdydd yn Neuadd y Cyngor, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).
Mae Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) (“Rheoliadau 1976”), y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(4) o'r Gorchymyn hwn, yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith a gweithrediad gorchmynion megis y gorchymyn hwn.
Yn rhinwedd Rheoliad 40 o Reoliadau 1976, dehonglir cyfeiriadau yng Ngorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Trefniadau Etholiadol) 1998 at gymunedau Ystum Taf, yr Eglwys Newydd, Llanisien, Llys-Faen, Trelái a Sain Ffagan fel cyfeiriadau at y cymunedau hynny fel y'u newidir gan y Gorchymyn hwn.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) erthygl 2 ac Atodlen 1.
O.S. 1976/246 (fel y'i diwygiwyd gan amrywiol offerynnau statudol lle nad yw'r diwygiadau yn berthnasol i'r O.S. hwn).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: