Enwi a chychwyn1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Caerdydd (Cymunedau Ystum Taf, yr Eglwys Newydd, Llanisien, Llys-Faen, Trelái a Sain Ffagan) 2003.

2

Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2004, a hwnnw yw'r diwrnod penodedig (“appointed day”) at ddibenion Rheoliadau 1976, ond at y dibenion a nodir yn Rheoliad 4 o Reoliadau 1976, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2003.

Dehongli2

Yn y Gorchymyn hwn —

  • ystyr Map A (“Map A”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map A Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Ystum Taf a'r Eglwys Newydd) 2003” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau 1976;

  • ystyr Map B (“Map B”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map B Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Llanisien a Llys-Faen) 2003” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau 1976;

  • ystyr Map C (“Map C”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map C Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Trelái a Sain Ffagan (1)) 2003” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau 1976;

  • ystyr Map Ch (“Map D”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map Ch Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Trelái a Sain Ffagan (2)) 2003” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau 1976; ac

  • ystyr “Rheoliadau 1976” (“the 1976 Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 19763.

Newidiadau i Ffiniau Cymunedau3

Mae'r ffiniau rhwng cymunedau i Ystum Taf a'r Eglwys Newydd; Llanisien a'r Llys-Faen; ac Trelái a Sain Ffagan yn cael eu diwygio yn unol ag erthygl 4.

Ffiniau Cymunedau Newydd4

1

Mae'r ffin rhwng cymundau Ystum Taf a'r Eglwys Newydd i fod fel a ddangosir ar Fap A wedi'i farcio fel “y Ffin Gymunedol Newydd”.

2

Mae'r ffin rhwng cymundau Llanisien a Llys-Faen i fod fel a ddangosir ar Fap B wedi'i farcio fel “y Ffin Gymunedol Newydd”.

3

Mae'r ffin rhwng cymundau Trelái a Sain Ffagan i fod fel a ddangosir ar Fapiau C ac Ch wedi'u marcio fel “y Ffin Gymunedol Newydd”.

Cynghorydd Cymuned Ychwanegol5

Cynyddir y nifer o gynghorwyr cymuned i'w hethol ar gyfer cymuned Sain Ffagan i 9.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984

Karen SinclairY Trefnydd