http://www.legislation.gov.uk/wsi/2003/3134/schedule/made/welsh
Gorchymyn Sir Ddinbych (Rhuddlan, y Rhyl, Dyserth a Phrestatyn) 2003
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2017-11-16
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi effaith i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y cynigion hynny yw:y bydd ardaloedd yng nghymuned Rhuddlan (a ddangosir â llinellau croes du yn y mapiau ffiniau A a B y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn dod yn rhan o gymuned y Rhyl; ay bydd ardal yng nghymuned Dyserth yng nghyffiniau'r eiddo a elwir “Ffordd Pantycelyn”, “Pydew Farm”, “Pydew Bungalow”, “Little Pydew Farm”, ?OQ?Plas Newydd Farm, “Bungalow”, a “52 Ffordd Ffynnon” (a ddangosir â llinellau croes du ar fap ffiniau B y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn dod yn rhan o gymuned Prestatyn; ay bydd ardal yng nghymuned Rhuddlan yng nghyffiniau'r eiddo a elwir “Four Winds Farm” (a ddangosir wedi'i arlliwio'n ddu ar fap ffiniau B y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) hefyd yn dod yn rhan o gymuned Prestatyn.