(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi effaith i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y cynigion hynny yw:

(i)

y bydd ardaloedd yng nghymuned Rhuddlan (a ddangosir â llinellau croes du yn y mapiau ffiniau A a B y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn dod yn rhan o gymuned y Rhyl; a

(ii)

y bydd ardal yng nghymuned Dyserth yng nghyffiniau'r eiddo a elwir “Ffordd Pantycelyn”, “Pydew Farm”, “Pydew Bungalow”, “Little Pydew Farm”, ?OQ?Plas Newydd Farm, “Bungalow”, a “52 Ffordd Ffynnon” (a ddangosir â llinellau croes du ar fap ffiniau B y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn dod yn rhan o gymuned Prestatyn; a

(iii)

y bydd ardal yng nghymuned Rhuddlan yng nghyffiniau'r eiddo a elwir “Four Winds Farm” (a ddangosir wedi'i arlliwio'n ddu ar fap ffiniau B y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) hefyd yn dod yn rhan o gymuned Prestatyn.

Mae printiau o'r map ffiniau wedi eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Sir Dinbych yn Swyddfeydd y Cyngor, Rhuthun ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).

Mae Erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn darparu bod wardiau De a De Ddwyrain cymuned y Rhyl a ward De Orllewin Cymuned Prestatyn, y cyfeirir atynt yng Ngorchymyn Sir Ddinbych (Trefniadau Etholiadol) 1998 (“Gorchymyn 1998”), yn cael eu hestyn fel bod eu ffiniau yn cyd-redeg â ffiniau'r cymunedau fel y'u diwygiwyd gan y Gorchymyn hwn.

Mae Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) (“Rheoliadau 1976”) y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith a gweithrediad gorchmynion megis y gorchymyn hwn.

Yn rhinwedd Rheoliad 40 o Reoliadau 1976, dehonglir cyfeiriadau yng Ngorchymyn 1998 at gymunedau Rhuddlan a Dyserth fel cyfeiriadau at y cymunedau hynny fel y'u newidir gan y Gorchymyn hwn.