http://www.legislation.gov.uk/wsi/2003/3132/signature/made/welsh
Gorchymyn Powys (Llanbadarn Fynydd, Llanbister ac Abaty Cwm-hir) 2003
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2017-11-16
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi effaith i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y cynigion hynny yw:y bydd yr ardaloedd hynny yng nghymuned Llanbister ym Mhowys yng nghyffiniau gerllaw Fron a Sign (a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau A y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn) yn dod yn rhan o gymuned Llanbadarn Fynydd ym Mhowys; ay bydd ardal yng nghymuned Abaty Cwm-hir ym Mhowys yng nghyffiniau Porth, Porth Bungalow, Brynrhyg a Croft yr Onen (a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau B y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn) yn dod yn rhan o gymuned Llanbadarn Fynydd ym Mhowys.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Sue EssexY Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus