(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi effaith i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y cynigion hynny yw:

i

y bydd yr ardaloedd hynny yng nghymuned Llanbister ym Mhowys yng nghyffiniau gerllaw Fron a Sign (a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau A y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn) yn dod yn rhan o gymuned Llanbadarn Fynydd ym Mhowys; a

ii

y bydd ardal yng nghymuned Abaty Cwm-hir ym Mhowys yng nghyffiniau Porth, Porth Bungalow, Brynrhyg a Croft yr Onen (a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau B y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn) yn dod yn rhan o gymuned Llanbadarn Fynydd ym Mhowys.

Cafodd printiau o'r map ffiniau eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Sir Powys yn Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys a swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Yr Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).

Mae Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) (“Rheoliadau 1976”) y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol, ac atodol ynghylch effaith gorchmynion megis y gorchymyn hwn a'u gweithredu.

Yn rhinwedd Rheoliad 40 o Reoliadau 1976, dehonglir cyfeiriadau yng Ngorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 1998 at gymunedau Llanbadarn Fynydd, Llanbister ac Abaty Cwm-hir fel cyfeiriadau at y cymunedau hynny fel y'u newidir gan y Gorchymyn hwn.