Gorchymyn Powys (Llanbadarn Fynydd, Llanbister ac Abaty Cwm-hir) 2003
a chan bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion hyn;
a bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Powys (Llanbadarn Fynydd, Llanbister ac Abaty Cwm-hir) 2003.
(2)
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2004 sef y diwrnod penodedig (“appointed day”) at ddibenion y Rheoliadau, ond at y dibenion a nodir yn Rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2003.
Dehongli2.
Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “map ffiniau A” (“boundary map A”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map A Gorchymyn Powys (Llanbadarn Fynydd, Llanbister ac Abaty Cwm-hir) 2003” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr “map ffiniau B” (“boundary map B”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map B Gorchymyn Powys (Llanbadarn Fynydd, Llanbister ac Abaty Cwm-hir) 2003” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr “Powys” (“Powys”) yw Sir Powys; ac
Newidiadau i Ardaloedd Cymunedau3.
(1)
Caiff y rhan o gymuned Llanbister sydd ym Mhowys ac a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau A ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno a bydd yn ffurfio rhan o gymuned Llanbadarn Fynydd ym Mhowys.
(2)
Caiff y rhan o Bowys sydd yng nghymuned Abaty Cwm-hir ac a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau B ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno a bydd yn ffurfio rhan o gymuned Llanbadarn Fynydd ym Mhowys.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi effaith i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y cynigion hynny yw:
y bydd yr ardaloedd hynny yng nghymuned Llanbister ym Mhowys yng nghyffiniau gerllaw Fron a Sign (a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau A y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn) yn dod yn rhan o gymuned Llanbadarn Fynydd ym Mhowys; a
y bydd ardal yng nghymuned Abaty Cwm-hir ym Mhowys yng nghyffiniau Porth, Porth Bungalow, Brynrhyg a Croft yr Onen (a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau B y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn) yn dod yn rhan o gymuned Llanbadarn Fynydd ym Mhowys.
Cafodd printiau o'r map ffiniau eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Sir Powys yn Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys a swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Yr Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).
Mae Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) (“Rheoliadau 1976”) y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol, ac atodol ynghylch effaith gorchmynion megis y gorchymyn hwn a'u gweithredu.
Yn rhinwedd Rheoliad 40 o Reoliadau 1976, dehonglir cyfeiriadau yng Ngorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 1998 at gymunedau Llanbadarn Fynydd, Llanbister ac Abaty Cwm-hir fel cyfeiriadau at y cymunedau hynny fel y'u newidir gan y Gorchymyn hwn.