2003 Rhif 3132 (Cy.299)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Powys (Llanbadarn Fynydd, Llanbister ac Abaty Cwm-hir) 2003

Wedi'i wneud

Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2)

Mae Comisiwn Ffiniau Llwyodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno adroddiad dyddiedig Ebrill 2002 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19721 ar adolygiad a gyflawnwyd gan Gyngor Sir Powys ar y ffiniau rhwng cymunedau Llanbadarn Fynydd, Llanbister ac Abaty Cwm-hir yn Sir Powys ynghyd â'r cynigion y mae wedi eu llunio amdanynt;

a chan bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion hyn;

a bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;

yn awr mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru2 yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—