Enwi a chychwyn1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Powys (Llanbadarn Fynydd, Llanbister ac Abaty Cwm-hir) 2003.

2

Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2004 sef y diwrnod penodedig (“appointed day”) at ddibenion y Rheoliadau, ond at y dibenion a nodir yn Rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2003.

Dehongli2

Yn y Gorchymyn hwn —

  • ystyr “map ffiniau A” (“boundary map A”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map A Gorchymyn Powys (Llanbadarn Fynydd, Llanbister ac Abaty Cwm-hir) 2003” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;

  • ystyr “map ffiniau B” (“boundary map B”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map B Gorchymyn Powys (Llanbadarn Fynydd, Llanbister ac Abaty Cwm-hir) 2003” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;

  • ystyr “Powys” (“Powys”) yw Sir Powys; ac

  • ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 19763.

Newidiadau i Ardaloedd Cymunedau3

1

Caiff y rhan o gymuned Llanbister sydd ym Mhowys ac a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau A ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno a bydd yn ffurfio rhan o gymuned Llanbadarn Fynydd ym Mhowys.

2

Caiff y rhan o Bowys sydd yng nghymuned Abaty Cwm-hir ac a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau B ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno a bydd yn ffurfio rhan o gymuned Llanbadarn Fynydd ym Mhowys.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Sue EssexY Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus