Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 4 Rhagfyr 2003.
(2)
Maent yn gymwys i'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 31 Mawrth 2004 yn unig.
(3)
Maent yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli2.
(1)
Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002.
(2)
Yn y Rheoliadau hyn ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig.
(3)
Yn y Rheoliadau mae cyfeiriad (sut bynnag y caiff ei eirio) at ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig yn cynnwys ysgol newydd a fydd yn ysgol o'r fath a chanddi gorff llywodraethu dros dro pan weithredir cynigion o dan unrhyw ddeddfiad.
(4)
Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at gorff llywodraethu yn cynnwys corff llywodraethu dros dro ar ysgol newydd sy'n dod o fewn paragraff (3).
(5)
Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at ysgol gynradd neu ysgol uwchradd yn golygu ysgol gynradd neu ysgol uwchradd a fydd yn ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol.
(6)
Yn y Rheoliadau hyn nid yw cyfeiriad (sut bynnag y caiff ei eirio) at ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol yn cynnwys ysgolion nad ydynt yn ysgolion a gynhelir fel y'u diffinnir ym mharagraff (2).
(7)
Yn y Rheoliadau hyn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at wariant yn gyfeiriadau at y gwariant hwnnw yn net o'r canlynol —
(a)
pob grant penodedig cysylltiedig;
(b)
pob ffi, taliad ac incwm cysylltiedig; ac
(c)
cyllid sy'n dod o'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â thaliad unedol cynllun PFI.
(8)
Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at grant penodedig yn gyfeiriad at unrhyw grant a delir i'r awdurdod o dan amodau sy'n gosod cyfyngiadau ar ddibenion penodol yr awdurdod y ceir defnyddio'r grant ar eu cyfer, ond nid yw'n cynnwys —
(a)
(b)
unrhyw grant penodedig a ddefnyddir i gefnogi gwariant drwy'r gyllideb ysgolion unigol.
(9)
Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at daliad unedol cynllun PFI yn gyfeiriad at daliad sy'n daladwy gan yr awdurdod addysg lleol o dan drafodiad cyllid preifat.
(10)
(11)
Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at fformiwla yn golygu fformiwla a benderfynwyd (ar ôl ymgynghori) gan yr awdurdod addysg lleol cyn dechrau blwyddyn ariannol erbyn pryd y penderfynir ar gyfrannau cyllideb ysgolion yn y flwyddyn ariannol honno gan roi sylw i'r ffactorau, y meini prawf a'r gofynion a ragnodwyd mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 47 o Ddeddf 1998.
(12)
Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at wariant cyfalaf yn golygu gwariant y mae awdurdod yn bwriadu ei gyfalafu yn eu cyfrifon yn unol ag arferion priodol sef yr arferion cyfrifyddu hynny —
(a)
y mae'n ofynnol i'r awdurdod eu dilyn yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad; neu
(b)
(13)
(14)
Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at wariant a eithrir yn gyfeiriadau at y dosbarthiadau neu'r disgrifiadau canlynol o wariant —
(a)
Gwariant cyfalaf heblaw CERA;
(b)
(c)
Dirymu3.
(1)
(2)
Ond bydd y rheoliadau hynny a'r Atodlen honno yn parhau i fod yn gymwys at ddibenion cyllido ysgolion a gynhelir mewn unrhyw flwyddyn sy'n dod i ben cyn 1 Ebrill 2004.
Cyllideb ysgolion4.
(1)
Drwy hyn rhagnodir y dosbarthiadau neu'r disgrifiadau o wariant awdurdod addysg lleol a bennir ym mharagraff (2) at ddibenion adran 45A(2) o Ddeddf 1998 a phenderfynu ar gyllideb ysgolion awdurdod addysg lleol.
(2)
Dyma'r dosbarthiadau neu'r disgrifiadau o wariant awdurdod addysg lleol —
(a)
gwariant ar ddarparu a chynnal a chadw ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir ac ar addysg y disgyblion a gofrestrwyd yn yr ysgolion hynny;
(b)
(c)
pob gwariant arall a dynnir mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â darparu addysg gynradd ac uwchradd, i'r graddau nad yw gwariant o'r fath yn dod o fewn paragraff (a) neu (b),
ond ddim ond i'r graddau nad yw gwariant o'r fath —
(a)
yn dod o fewn dosbarth neu ddisgrifiad o wariant a ragnodir gan reoliad 5 at ddibenion adran 45A(1) o Ddeddf 1998 a phenderfynu ar gyllideb AALl yr awdurdod addysg lleol, a
(b)
yn wariant a eithrir.
Cyllideb yr AALl5.
(1)
Drwy hyn rhagnodir y dosbarthiadau neu'r disgrifiadau o wariant awdurdod addysg lleol a bennir yn Atodlen 1 at ddibenion adran 45A(1) o Ddeddf 1998 a phenderfynu ar gyllideb AALl awdurdod addysg lleol, ac eithrio i'r graddau y mae gwariant o'r fath yn wariant a eithrir neu'n dod o fewn paragraff (2).
(2)
Daw gwariant o fewn y paragraff hwn os yw'n wariant —
(a)
sydd yn rhinwedd cynllun yr awdurdod (o fewn ystyr adran 48(5) o Ddeddf 1998) neu unrhyw ddeddfiad, i'w dynnu o gyfran cyllideb ysgol; neu
(b)
sy'n dod o fewn is-baragraff (b) o baragraff 1 o Atodlen 2.
Cyllideb ysgolion unigol6.
Caiff awdurdod addysg lleol ddidynnu o'i gyllideb ysgolion unrhyw un neu'r cyfan o'r dosbarthiadau neu'r disgrifiadau o wariant cynlluniedig a nodir yn Atodlen 2, yn llwyr neu'n rhannol, er mwyn gweld beth yw ei gyllideb ysgolion unigol ar gyfer y flwyddyn ariannol.
ATODLEN 1DOSBARTHIADAU NEU DDISGRIFIADAU O WARIANT CYNLLUNIEDIG A RAGNODWYD AT DDIBENION CYLLIDEB AALl AWDURDOD ADDYSG LLEOL
Mae gwariant o ddosbarth neu ddisgrifiad y cyfeirir ato yn yr Atodlen hon yn cynnwys gwariant ar gostau gweinyddol cysylltiedig a gorbenion.
Darpariaeth o natur arbenigol
1.
Gwariant ar wasanaethau a roddir gan seicolegwyr addysgol.
2.
Gwariant mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod o dan adrannau 321 i 331 o Ddeddf 1996 (swyddogaethau sy'n ymwneud ag adnabod ac asesu plant ag anghenion addysgol arbennig a llunio, cynnal ac adolygu datganiadau ar gyfer y plant hynny).
3.
Gwariant ar fonitro'r ddarpariaeth i ddisgyblion mewn ysgolion (os cynhelir hwy gan yr awdurdod neu beidio) at ddibenion lledaenu arferion da mewn perthynas â phlant ag anghenion addysgol arbennig a gwella ansawdd y ddarpariaeth addysgol ar eu cyfer.
4.
Gwariant ar gydweithio â chyrff statudol a gwirfoddol i ddarparu cefnogaeth i blant ag anghenion addysgol arbennig.
5.
Gwariant mewn cysylltiad â'r canlynol —
(a)
(b)
trefniadau a wneir gan yr awdurdod er mwyn osgoi neu ddatrys anghytundebau â rhieni plant ag anghenion addysgol arbennig.
6.
7.
8.
9.
Gwelliannau mewn ysgolion
10.
Gwariant a dynnir gan yr awdurdod mewn perthynas â chamau i gefnogi gwella safonau yn ysgolion yr awdurdod, gan gynnwys, yn benodol —
(a)
gwariant a dynnir wrth baratoi, adolygu a gweithredu cynllun datblygu addysg yr awdurdod o dan adrannau 6 a 7 o Ddeddf 1998;
(b)
gwariant a dynnir mewn cysylltiad ag arfer eu swyddogaethau o dan adran 197 o Ddeddf 2002;
(c)
gwariant a dynnir mewn cysylltiad ag ymrwymo i gontract yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 63 o Ddeddf 2002 (contractau i sicrhau gwasanaethau o natur gynghorol mewn perthynas ag ysgolion â gwendidau difrifol neu ysgolion y mae arnynt angen mesurau arbennig);
(ch)
gwariant a dynnir mewn cysylltiad ag arfer eu swyddogaethau o dan adran 14 i 17 o Ddeddf 1998 (pwerau ymyrryd, penodi llywodraethwyr ychwanegol ac atal cyllidebau a ddirprwywyd mewn ysgolion sy'n peri pryder); a
(d)
Mynediad i addysg
11.
Gwariant mewn perthynas â'r materion canlynol —
(a)
rheoli rhaglen gyfalaf awdurdod gan gynnwys paratoi ac adolygu cynllun rheoli asedau a thrafod a rheoli trafodion cyllid preifat;
(b)
cynllunio a rheoli'r cyflenwad o leoedd ysgol, gan gynnwys swyddogaethau'r awdurdod —
(i)
mewn perthynas â chynllun trefniadol ysgolion yn unol ag adran 26 o Ddeddf 1998,
(ii)
(c)
swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â gwahardd disgyblion o ysgolion neu unedau cyfeirio disgyblion, heb gynnwys darparu unrhyw addysg i'r disgyblion hynny, ond gan gynnwys cyngor i rieni disgybl a waharddwyd;
(ch)
gweinyddu'r system i dderbyn disgyblion i ysgolion (gan gynnwys apelau derbyn ac ymgynghori o dan adran 89(2) o Ddeddf 1998);
(d)
(dd)
(e)
12.
Gwariant ar y Gwasanaeth Lles Addysg a gwariant arall sy'n deillio o swyddogaethau'r awdurdod o dan Bennod II o Ran VI o Ddeddf 1996 (presenoldeb yn yr ysgol).
13.
14.
Gwariant ar grantiau disgresiynol o dan adran 1(6) neu 2 o Ddeddf Addysg 1962 (dyfarndaliadau ar gyfer cyrsiau dynodedig a chyrsiau eraill).
15.
16.
Gwariant ar dalu i bobl dros oedran ysgol gorfodol mewn cysylltiad â'r addysg neu'r hyfforddiant a ragnodwyd yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 181(1) o Ddeddf 2002.
Addysg bellach a hyfforddiant i bobl ifanc ac oedolion
17.
18.
Gwariant ar y ddarpariaeth gan yr awdurdod addysg lleol o dan adrannau 15A a 508 o Ddeddf 1996 o adloniant a hyfforddiant cymdeithasol a chorfforol, ac ar ddarpariaeth yr awdurdod o wasanaethau o dan adran 123 o Ddeddf 2000 i annog a galluogi'r bobl ifanc i gymryd rhan mewn addysg a hyfforddiant.
Rheoli strategol
19.
Gwariant yn rhinwedd ei swyddogaeth fel awdurdod addysg lleol mewn perthynas â'r canlynol —
(a)
y Prif Swyddog Addysg a'i staff personol;
(b)
cynllunio ar gyfer y gwasanaeth addysg yn ei gyfanrwydd gan gynnwys ymateb i ddatganiadau polisi a phapurau ymgynghori;
(c)
(ch)
(d)
gweinyddu grantiau i'r awdurdod (gan gynnwys paratoi ceisiadau), swyddogaethau a osodir gan neu o dan Bennod IV o Ran II o Ddeddf 1998 ac, os yw'n ddyletswydd ar yr awdurdod i wneud hynny, sicrhau'r taliadau o ran y dreth, yswiriant gwladol a chyfraniadau blwydd-daliadau;
(dd)
awdurdodi a monitro —
(i)
gwariant na thelir mohono o gyfrannau cyllideb yr ysgolion; a
(ii)
gwariant mewn perthynas ag ysgolion sydd heb gyllidebau dirprwyedig,
a phob gweinyddu ariannol cysylltiedig;
(e)
swyddogaethau'r awdurdod o dan adran 28 o Ddeddf 2002 (darparu cyfleusterau cymunedol gan gyrff llywodraethu);
(f)
(ff)
recriwtio, hyfforddi, datblygu proffesiynol parhaus, rheoli perfformiad a rheoli personél yn achos staff a gyllidir o wariant na thelir amdano gan gyfrannau cyllideb ysgolion ac a delir am wasanaethau a gyflawnir mewn perthynas â swyddogaethau a gwasanaethau'r awdurdod y cyfeirir atynt yn yr Atodlen hon;
(g)
ymchwiliadau a wneir gan yr awdurdod ar gyflogeion neu gyflogeion posibl yr awdurdod neu gyrff llywodraethu ysgolion, neu bersonau a gymerir ymlaen fel arall neu sydd i'w cymryd ymlaen (gyda thâl neu'n ddi-dâl) i weithio yn yr ysgolion neu drostynt;
(ng)
swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â blwydd-daliadau, gan gynnwys gweinyddu pensiwn athrawon, heblaw swyddogaethau sydd wedi eu dirprwyo i gyrff llywodraethu ysgolion;
(h)
aelodaeth ôl-weithredol o gynlluniau pensiwn ac etholiadau ôl-weithredol a wneir mewn perthynas â phensiynau pan na fyddai'n briodol disgwyl i gorff llywodraethu ysgol i dalu'r gost o gyfran cyllideb yr ysgol;
(i)
cyngor, yn unol â swyddogaethau statudol yr awdurdod, i gyrff llywodraethu mewn perthynas â staff a delir, neu sydd i'w talu, i weithio mewn ysgol, a chyngor mewn perthynas â rheoli'r holl staff ar y cyd mewn unrhyw ysgol unigol (“gweithlu'r ysgol”), gan gynnwys yn benodol y cyngor o ran newidiadau mewn cyflog, amodau gwasanaeth a chyd-gyfansoddiad a chyd-drefniadaeth gweithlu ysgol o'r fath;
(j)
penderfynu amodau gwasanaeth ar gyfer y staff nad ydynt yn addysgu a chynghori'r ysgolion ar raddau staff felly;
(l)
swyddogaethau'r awdurdod ynghylch penodi neu ddiswyddo cyflogeion;
(ll)
ymgynghori, a swyddogaethau yn barod ar gyfer ymgynghori â chyrff llywodraethu, disgyblion a phobl a gyflogir mewn ysgolion neu eu cynrychiolwyr personol, neu â chyrff eraill sydd â buddiant;
(m)
(n)
ymchwilio i gwynion a'u datrys gan gynnwys camau a gymerir i helpu corff llywodraethu i ymdrin â chwyn;
(o)
gwasanaethau cyfreithiol ynghylch swyddogaethau statudol yr awdurdod;
(p)
paratoi ac adolygu cynlluniau sy'n ymwneud â chydweithio â gwasanaethau awdurdod lleol arall neu gydweithio â chyrff cyhoeddus neu wirfoddol;
(ph)
(r)
darparu gwybodaeth ar gyfer neu ar gais y Cynulliad Cenedlaethol, adran o'r Llywodraeth neu unrhyw gorff sy'n arfer swyddogaethau ar ran y Goron a darparu gwybodaeth arall y mae'r awdurdod o dan ddyletswydd i drefnu ei bod ar gael;
(rh)
(s)
(t)
gwariant a dynnir mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 12 o Ddeddf 2002 (awdurdodau'n goruchwylio cwmnïau a ffurfiwyd gan gyrff llywodraethu); a
(th)
20.
Gwariant ar sefydlu a chynnal systemau cyfrifiadurol electronig, gan gynnwys storio data, i'r graddau y maent yn cysylltu, neu'n hwyluso cysylltiad yr awdurdod â'r ysgolion a gynhelir ganddo, rhwng ysgolion o'r fath â'i gilydd neu rhwng ysgolion o'r fath â phobl neu sefydliadau eraill.
21.
22.
Gwariant mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â chyngor ymgynghorol sefydlog addysg grefyddol a ffurfiwyd gan yr awdurdod o dan adran 390 o Ddeddf 1996 neu wrth ailystyried a pharatoi cynllun maes llafur cytûn addysg grefyddol yn unol ag Atodlen 31 i Ddeddf 1996.
23.
Gwariant mewn perthynas â diswyddo neu ymddeoliad cynamserol unrhyw berson neu at ddibenion trefnu ymddiswyddiad, neu mewn perthynas â gweithredoedd sy'n gwahaniaethu yn erbyn unrhyw berson.
24.
Gwariant mewn perthynas â thaliadau athrawon o dan adran 19(9) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.
25.
26.
Gwariant ar benodi llywodraethwyr, gwneud offerynnau llywodraeth, talu treuliau y mae gan lywodraethwyr hawl i'w cael nad ydynt yn daladwy o gyfran cyllideb ysgol a darparu gwybodaeth i lywodraethwyr.
27.
Unrhyw wariant ar yswiriant heblaw am atebolrwydd sy'n codi mewn cysylltiad ag ysgolion neu dir ac adeiladau ysgol.
28.
ATODLEN 2DOSBARTHIADAU NEU DDISGRIFIADAU O WARIANT CYNLLUNIEDIG Y CEIR EI DDIDYNNU O GYLLIDEB YSGOLION AWDURDOD ADDYSG LLEOL
Mae gwariant o ddosbarth neu ddisgrifiad y cyfeirir ato yn yr Atodlen hon yn cynnwys gwariant ar gostau gweinyddol cysylltiedig a gorbenion.
Gwariant ar gyfer grantiau cynnal
1.
(a)
Gwariant (heblaw gwariant a dynnir mewn cysylltiad ag unrhyw baragraff arall o'r Atodlen hon neu unrhyw baragraff o Atodlen 1) y mae'n rhaid i'r awdurdod ei dynnu fel un o amodau grant penodol a delir i'r awdurdod ac a gymerir i ystyriaeth wrth benderfynu swm grant penodol o'r fath.
(b)
Unrhyw swm y mae'n rhaid i'r awdurdod drefnu ei fod ar gael fel amod o'r grant a delir o dan adran 14 o Ddeddf 2002 neu o dan adran 484 o Ddeddf 1998 ac a gymerir i ystyriaeth wrth benderfynu swm grant o'r fath, y dirprwyir penderfyniadau ynghylch eu gwariant i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir.
Darpariaeth o natur arbenigol
2.
Yn ddarostyngedig i baragraffau 3 a 4, gwariant a dynnir wrth wneud y ddarpariaeth a bennir yn natganiad disgybl o anghenion addysgol arbennig ac eithrio os yw'r disgybl —
(a)
yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol arbennig a gynhelir gan yr awdurdod; neu
(b)
yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol gynradd neu ysgol uwchradd a gynhelir gan yr awdurdod sy'n cymryd un o nifer o leoedd yn yr ysgol honno a'r awdurdod yn cydnabod bod y lleoedd hynny'n lleoedd a gedwir i blant ag anghenion addysgol arbennig.
3.
Os daw disgybl o fewn paragraff 2(a) neu (b) a bod cost y ddarpariaeth a bennir yn natganiad y disgybl o anghenion addysgol arbennig yn sylweddol yn fwy na'r gost i'r mwyafrif o ddisgyblion yn yr ysgol arbennig, neu sydd yn y lleoedd yn yr ysgol gynradd neu'r ysgol uwchradd o dan sylw, o ba faint y mae swm yn y gwariant a dynnir wrth wneud y ddarpariaeth a bennir yn ei ddatganiad o anghenion addysgol arbennig yn fwy na'r hyn a dynnir wrth ddarparu ar gyfer disgybl sy'n perthyn i'r mwyafrif o'r disgyblion.
4.
Gwariant wrth wneud y ddarpariaeth a bennir yn natganiad disgybl o anghenion addysgol arbennig os daw'r disgybl o fewn paragraff 2(b) ond bod y lleoedd a gydnabyddir gan yr awdurdod fel lleoedd a gedwir i blant ag anghenion addysgol arbennig ar gyfer disgyblion â nam ar eu golwg, eu clyw, eu lleferydd neu eu hiaith neu nam cyfathrebu arall.
5.
6.
Gwariant at ddibenion sy'n gysylltiedig â hybu'r canlynol —
(a)
cydweithredu rhwng ysgolion arbennig ac ysgolion cynradd ac uwchradd i alluogi plant ag anghenion addysgol arbennig i gymryd rhan mewn gweithgareddau mewn ysgolion cynradd ac uwchradd;
(b)
addysg plant ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion cynradd ac uwchradd; ac
(c)
cael plant ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion cynradd ac uwchradd i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr ysgol gyda phlant nad oes ganddynt anghenion addysgol arbennig (sef gwariant na fyddai'n briodol disgwyl iddo gael ei dalu o gyfran cyllideb yr ysgol).
7.
Gwariant mewn perthynas ag addysg heblaw yn yr ysgol o dan adran 19 o Ddeddf 1996 neu mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion fel y'i diffinnir yn yr adran honno.
8.
9.
Gwariant ar dalu ffioedd mewn perthynas â disgyblion ag anghenion addysgol arbennig —
(a)
mewn ysgolion annibynnol neu mewn ysgolion arbennig na chynhelir mohonynt gan yr awdurdod addysg lleol, o dan adran 348 o Ddeddf 1996; neu
(b)
mewn sefydliad y tu allan i Gymru a Lloegr, o dan adran 320 o Ddeddf 1996.
10.
11.
Gwariant ar ddarparu hyfforddiant mewn offerynnau cerdd neu hyfforddiant corawl (naill ai i unigolion neu i grwpiau).
12.
Gwariant ar gefnogi theatrau teithiol i'r graddau nad oes grantiau penodol ar gyfer y gwariant.
13.
Gwariant mewn cysylltiad â darparu addysgu'r Gymraeg gan athrawon a gyflogir i weithio heblaw mewn ysgol unigol i'r graddau nad oes grantiau penodol ar gyfer y gwariant.
14.
Gwariant ar ddarparu tir ac adeiladau a chyfleusterau i ysgolion ar gyfer gweithgareddau chwaraeon a gweithgareddau y tu allan (gan gynnwys tir ac adeiladau a ddarperir ar safle ysgol er budd y gymuned gyfan).
15.
16.
Gwariant ar drwsio a chynnal a chadw cegin ysgol os didynnir y gwariant ar brydau bwyd mewn perthynas â'r ysgol o dan sylw o gyllideb ysgolion yr awdurdod yn unol â pharagraff 15.
17.
Gwariant ar benderfynu ar gymhwyster disgybl i gael prydau bwyd ysgol yn ddi-dâl.
18.
Gwariant yn unol ag adran 18 o Ddeddf 1996 wrth wneud unrhyw grant neu daliad arall mewn perthynas â ffioedd neu dreuliau (o ba natur bynnag) sy'n daladwy mewn cysylltiad â phresenoldeb disgyblion mewn ysgol nas cynhelir gan unrhyw awdurdod addysg lleol.
Staff
19.
Gwariant wrth dalu, neu lenwi bwlch dros dro, menyw sydd ar seibiant mamolaeth neu i berson ar seibiant mabwysiadu.
20.
Gwariant wrth dalu, neu lenwi bwlch dros dro ar gyfer, personau —
(a)
(b)
sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau undeb llafur o dan adran 170 o Ddeddf (Cydgrynhoi) Undebau Llafur a Chysylltiadau Cyflogaeth 1992;
(c)
(ch)
sy'n gwasanaethu ar reithgor;
(d)
(dd)
(e)
(f)
sy'n cymryd amser i ffwrdd ar gyfer gofal cyn-geni o dan adran 55 o Ddeddf Hawliau Cyflogi 1996;
(ff)
(g)
a ataliwyd dros dro rhag gweithio mewn ysgol;
(ng)
sy'n aelodau o Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru neu bwyllgor iddo; neu
(h)
a benodwyd yn gynrychiolwyr dysgu i'r undebau llafur, er mwyn iddynt ddadansoddi'r gofynion hyfforddi neu ddarparu neu hybu cyfleoedd hyfforddi, a chyflawni gwaith ymgynghori neu baratoi mewn cysylltiad â swyddogaethau o'r fath.
21.
Gwariant wrth dalu, neu wrth ddarparu i lenwi bwch dros dro, ar gyfer person sydd ar secondiad ar sail llawnamser am gyfnod o dri mis neu fwy heblaw i awdurdod addysg lleol neu i gorff llywodraethu ysgol.
22.
Gwariant wrth dalu, neu wrth ddarparu i lenwi bwlch dros dro, i bersonau sydd wedi bod yn absennol o'r gwaith yn ddi-dor oherwydd salwch am 21 diwrnod neu fwy.
23.
Gwariant, nad yw'n dod o fewn Atodlen 1, mewn perthynas â recriwtio, hyfforddi, datblygu proffesiynol parhaus, rheoli perfformiad a rheoli personél yn achos staff sy'n cael eu cyllido o wariant na thelir mohono o gyfrannau cyllideb ysgolion.
Gwariant arall
24.
25.
Gwariant ar yswiriant mewn perthynas ag atebolrwydd sy'n codi mewn cysylltiad ag ysgolion a thir ac adeiladau ysgol ac eithrio i'r graddau y mae cyrff llywodraethu yn derbyn cyllid ar gyfer yswiriant fel rhan o'u cyfrannau cyllideb ysgolion.
26.
Gwariant ar ffi trwyddedau neu danysgrifiadau a delir ar ran ysgolion ar yr amod nad yw'r gwariant yn dod i gyfanswm sy'n fwy na 0.2 y cant o gyllideb ysgolion yr awdurdod.
27.
28.
Gwariant ar wasanaethau llyfrgell a gwasanaethau amgueddfa ar gyfer ysgolion.
29.
Gwariant y byddai addysg disgyblion mewn ysgol hebddo yn cael ei handwyo'n ddifrifol ac na fyddai'n rhesymol disgwyl oherwydd naill ai —
(a)
ei faint a'i natur annisgwyl; neu
(b)
ei faint a'i natur anochel,
i'r corff llywodraethu ei dalu o gyfran cyllideb yr ysgol.
30.
Gwariant ar ychwanegiadau at gyfran cyllideb yr ysgol y mae'r ysgol â hawl iddynt yn rhinwedd fformiwla'r awdurdod neu ailbenderfynu cyfrannau'r gyllideb o dan awdurdod y Cynulliad Cenedlaethol neu wariant ar gywiro gwallau.
31.
Gwariant at ddibenion nad ydynt yn dod o fewn unrhyw baragraff arall o'r Atodlen hon ar yr amod nad yw'r gwariant yn dod i gyfanswm sy'n fwy na 0.1 y cant o gyllideb ysgolion yr awdurdod.
32.
CERA a dynnir at ddibenion nad ydynt yn dod o fewn unrhyw baragraff arall o'r Atodlen neu Atodlen 1.
33.
34.
Gwariant a dynnir mewn perthynas â hyfforddi clercod byrddau llywodraethu i'w gallugoi i gyflawni eu swyddogaethau yn effeithiol.
Cyn i'r darpariaethau newydd a gynhwysir yn Neddf Addysg 2002 ddod i rym yr oedd yn ofynnol i awdurdodau addysg lleol ddyrannu gwariant i ddwy gyllideb — (adran 46 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998):
cyllideb ysgolion lleol (LSB)
cyllideb ysgolion unigol (ISB)
Mae rhan 2 o Reoliadau Cyllido Ysgolion a Gynhelir 1999 ac Atodlen 2 iddynt (Rheoliadau 1999) yn diffinio LSB ac ISB.
Mae adran 45A o Ddeddf 1998 fel y'i mewnosodwyd gan adran 41(1) o Ddeddf Addysg 2002 (sy'n disodli'r hen adran 46 a ddiddymir gan Ddeddf 2002) yn awr yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau addysg lleol ddyrannu gwariant yn dair cyllideb:
Cyllideb yr AALl
Cyllideb ysgolion
Cyllideb ysgolion unigol
Pennir categorïau cyllideb newydd yr AALl, cyllideb ysgolion a chyllideb ysgolion unigolion yn y rheoliadau hyn ac maent yn disodli Rhan II o Atodlen 2 i Reoliadau 1999.
Mae'r rheoliadau hyn yn rhagnodi'r gwariant sy'n llunio cyllideb awdurdod addysg lleol a chyllideb ysgolion ar gyfer blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004.
Disgrifir dosbarthiadau neu ddisgrifiadau o'r gwariant cynlluniedig sy'n llunio cyllideb yr AALl yn rheoliad 5 ac yn Atodlen 1. Disgrifir y gyllideb ysgolion yn rheoliad 4.
Mae Atodlen 2 yn pennu natur y gwariant cynlluniedig y caiff awdurdod addysg lleol ei ddidynnu o'i gyllideb ysgolion mewn blwyddyn ariannol er mwyn gweld ei gyllideb ysgolion unigol ar gyfer y flwyddyn ariannol honno. Cyllideb ysgolion unigol awdurdod yw'r swm a rennir rhwng yr ysgolion a gynhelir ganddo ar ffurf cyfrannau cyllideb ar gyfer pob ysgol.
Mae rheoliad 3 yn dirymu rhannau perthnasol Rheoliadau 1999.