- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
CYNRYCHIOLAETH Y BOBL, CYMRU
Wedi'i wneud
2 Rhagfyr 2003
Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan erthygl 21(1) a (2) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2003(1), ac ar ôl ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol —
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2003 a daw i rym y diwrnod ar ôl iddo gael ei wneud.
2.—(1) Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2002(2) yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 3(1)(b) rhodder — “treuliau o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau 3(1), 4(1), 5(1), 6(1) a 6A(1) o'r Atodlen, ac”.
(3) Yn rheoliad 3(2)(b), yn lle “7(1)” rhodder “5(1) a 6A(1)”.
(4) Yn Rhan II o'r Atodlen, ar ôl Paragraff 6 mewnosoder paragraff newydd, sef Paragraff 6A—
6A.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwneud taliad i swyddog canlyniadau mewn cysylltiad â chostau a dynnir wrth hyfforddi swyddogion llywyddu i gyflawni dyletswyddau ar ddiwrnod pleidleisio mewn etholiad Cynulliad.
(2) £40.00 yw'r uchafswm y gellir ei adennill fesul swyddog llywyddu sy'n cael hyfforddiant.
(3) Yn ychwanegol at y costau y gellir eu hadennill o dan baragraff (2) £125.00 yw'r uchafswm y gellir ei adennill fesul etholaeth Cynulliad mewn cysylltiad â pharatoi deunyddiau hyfforddi.
(4) Yn ychwanegol at y costau y gellir eu hadennill o dan baragraffau (2) a (3) £100.00 yw'r uchafswm y gellir ei adennill fesul cyflwyniad hyfforddi a roddir i swyddogion llywyddu.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Rhagfyr 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Erthygl 3 a Rhan II o'r Atodlen i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2002 (“Gorchymyn 2002”), a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2003.
O dan erthygl 21(1) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2003 (“Gorchymyn 2003”) mae hawl swyddog canlyniadau mewn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i adennill costau mewn perthynas â gwasanaethau neu dreuliau'r person hwnnw o ran neu mewn cysylltiad ag etholiad o'r fath yn dibynnu ar y canlynol, sef —
(a)bod y gwasanaethau neu'r treuliau yn rhai o'r math a nodir mewn Gorchymyn o dan y ddarpariaeth honno,
(b)bod y gwasanaethau yn cael eu darparu'n briodol a bod y treuliau yn rhai sy'n cael eu tynnu'n briodol, ac
(c)bod y taliadau mewn perthynas â hwy yn rhesymol.
Gwneir y Gorchymyn hwn o dan Erthygl 21(1) a (2) o Orchymyn 2003.
Mewnosodir paragraff newydd, sef Paragraff 6A, yn Rhan II o'r Atodlen i Orchymyn 2002, ac mae'n caniatáu i daliad gael ei wneud i swyddog canlyniadau mewn cysylltiad â hyfforddi swyddogion llywyddu i gyflawni dyletswyddau pleidleisio ar ddiwrnod etholiad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: