Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 307 (Cy.46)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Rheoliadau Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Ffurflenni) (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

17 Chwefror 2003

Yn dod i rym yn unol â Rheolliad 1(2)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 13(2) a 45(5) o Ddeddf Tai 1988(1) ac a freinir bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

(1)

1988 p.50. Diwygiwyd adran 13 o Deddf Tai 1988 (“Deddf 1988”) gan Orchymyn Diwygio Rheoliadol (Tenantiaethau Cyfnodol Sicr) (Cynyddu Rhent) 2003 (O.S. 2003/259). I gael ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 45(1) o Ddeddf 1988. Ar gyfer darpariaeth sy'n ymwneud â meddianaethau amaethyddol, gweler adran 24 o Ddeddf 1988.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 13, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Nid yw'r diwygiadau i'r Gorchymyn yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.