2003 Rhif 3054 (Cy.292)
Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) (Diwygio) 2003
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 4(6), 16(3), 22(1) a (2)(b), 25, 34(1), 35 a 118(5) — (7) o Ddeddf Safonau Gofal 20001 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2003.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i asiantaethau nyrsys yng Nghymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) (Diwygio) 20032
Diwygir Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 20032 fel a ganlyn:—
yn rheoliad 12(1) (Ffitrwydd y nyrsys sy'n cael eu cyflenwi gan asiantaeth) yn lle isbaragraff (ch) rhodder y canlynol:—
ch
bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael amdano/amdani —
i
ac eithrio lle mae paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 i 4 a 6 i 13 o Atodlen 3;
ii
lle mae paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 i 3 a 5 i 13 o Atodlen 3.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)