Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003, deuant i rym ar 28 Tachwedd 2003 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli2.
Yn y Rheoliadau hyn —
mae i “awdurdod bwyd” yr un ystyr â “food authority” yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “cyfanswm y solidau llaeth” (“total milk solids”) yw holl gyfansoddion llaeth heblaw dwr, gan gynnwys braster llaeth, a'r cyfansoddion heblaw braster llaeth sy'n bresennol yn eu cyfrannau naturiol;
ystyr “cynnyrch dynodedig” (“designated product”) yw unrhyw fwyd a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1 (fel y'i darllenir ynghyd â'r Nodiadadau sy'n berthnasol i'r Atodlen honno);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”) yw unrhyw berson sy'n prynu heblaw —
(a)
er mwyn ailwerthu;
(b)
ar gyfer sefydliad arlwyo;
(c)
ar gyfer busnes gweithgynhyrchu;
ystyr “disgrifiad neilltuedig” (“reserved description”) o ran unrhyw gynnyrch dynodedig, yw unrhyw ddisgrifiad a bennir mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw yng ngholofn 1 o Atodlen 1 neu unrhyw ddisgrifiad amgen a ganiateir gan Atodlen 2;
mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig neu ddangos i'w werthu neu feddu i'w werthu, a dehonglir ymadroddion cytras yn unol â hynny;
ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Gwladwriaeth sy'n Barti Contractiol i Gytundeb AEE;
ystyr “llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr” (“totally dehydrated milk”) yw'r cynnyrch solet, a'i gynnwys dwr heb fod yn fwy na 5% o'r cynnyrch gorffenedig yn ôl pwysau, a geir drwy dynnu dwr o laeth, o laeth rhannol sgim neu o laeth llwyr sgim, o hufen neu o gymysgedd o'r cynhyrchion hyn;
ystyr “llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol” (“partly dehydrated milk”) yw'r cynnyrch hylif, boed wedi'i felysu ai peidio, a geir yn uniongyrchol drwy dynnu peth dwr o laeth, llaeth llwyr sgim neu laeth rhannol sgim, neu o gymysgwch o'r cynhyrchion hyn, ac mae'n cynnwys cynhyrchion yr ychwanegwyd hufen neu laeth sydd wedi'i ddadhydradu'n llwyr atynt ar yr amod nad yw'r llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr yn fwy, yn y cynnyrch gorffenedig, na 25% o gyfanswm y solidau llaeth;
mae “paratoi” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar brosesu neu drin a rhaid dehongli unrhyw ffurf ar “paratoi” yn ynol â hynny;
ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) lle, wrth gynnal busnes, y darperir bwyd i'w ddosbarthu i'r defnyddiwr olaf ac sy'n barod i'w fwyta heb waith paratoi pellach;
Ystod y Rheoliadau3.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion dynodedig a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n barod i'w dosbarthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.
Disgrifiadau neilltuedig4.
Ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw fwyd ac arno label, p'un a yw wedi'i gysylltu â'r deunydd lapio neu'r cynhwysydd, neu wedi'i argraffu arno, sy'n dwyn, yn ffurfio neu'n cynnwys unrhyw ddisgrifiad neilltuedig neu unrhyw darddair ohono neu unrhyw air neu ddisgrifiad sy'n sylweddol debyg iddo oni bai —
(a)
bod y bwyd hwnnw yn gynnyrch dynodedig y mae'r disgrifiad neilltuedig yn ymwneud ag ef;
(b)
bod y disgrifiad, y tarddair neu'r gair hwnnw'n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun sy'n dangos neu'n awgrymu yn glir nad yw'r sylwedd y mae'n ymwneud ag ef ond yn gynhwysyn yn y bwyd hwnnw; neu
(c)
bod y disgrifiad, y tarddair neu'r gair hwnnw'n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun sy'n dangos neu'n awgrymu'n glir nad yw'r bwyd yn gynnyrch dynodedig ac nad yw'n cynnwys cynnyrch dynodedig.
Labelu a disgrifio cynhyrchion dynodedig5.
Heb leihau effaith gyffredinol Rhan II o Reoliadau 1996, ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw gynnyrch dynodedig oni bai iddo gael ei farcio a'i labelu â'r manylion canlynol —
(a)
disgrifiad neilltuedig y cynnyrch;
(b)
ac eithrio yn achos y cynhyrchion a bennir ym mharagraffau 1(ch) ac (e) a 2(ch) o Atodlen 1, canran y braster llaeth, wedi'i mynegi yn ôl y pwysau mewn perthynas â'r cynnyrch gorffenedig;
(c)
ac eithrio yn achos y cynhyrchion a bennir ym mharagraff 2(a) i (ch) o Atodlen 1, canran yr echdyniad llaeth sych nad yw'n cynnwys unrhyw fraster o gwbl;
(ch)
yn achos cynhyrchion a bennir ym mharagraff 2(a) i (ch) o Atodlen 1, argymhellion ynghylch y dull gwanhau neu ailgyfansoddi'r cynnyrch a manylion am ei gynnwys braster pan gaiff ei wanhau neu ei ailgyfansoddi;
(d)
yn achos y cynhyrchion a bennir ym mharagraff 2(a) i (ch) o Atodlen 1, nad yw'r cynnyrch “wedi'i fwriadu yn fwyd i fabanod o dan ddeuddeng mis oed”.
Dull marcio neu labelu6.
(1)
Mae rheoliadau 35, 36(1) a (5) a 38 o Reoliadau 1996 (sy'n ymwneud â'r dull o farcio neu labelu bwyd) yn gymwys i'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu cynnyrch dynodedig â hwy oherwydd rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn fel petaent yn fanylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu bwyd â hwy oherwydd Rheoliadau 1996.
(2)
Rhaid i'r manylion y mae'n ofynnol iddynt ymddangos ar y label yn rhinwedd rheoliad 5(b) ac (c) o'r Rheoliadau hyn ymddangos wrth enw'r cynnyrch.
(3)
Pan gaiff cynhyrchion dynodedig sy'n pwyso llai na 20 gram yr uned eu pacio mewn deunydd pacio allanol, nid oes rhaid i'r manylion sy'n ofynnol gan reoliad 5(b) i (d) o'r Rheoliadau hyn ymddangos ond ar y deunydd pacio allanol.
Cosbi a gorfodi7.
(1)
Bydd person sy'n mynd yn groes neu yn methu cydymffurfio â rheoliad 4 neu 5 o'r Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2)
Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
Amddiffyniad mewn perthynas ag allforion8.
Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir i brofi —
(a)
y bwriadwyd y bwyd, yr honnir i'r drosedd gael ei chyflawni mewn perthynas ag ef, ar gyfer ei allforio i wlad sydd â deddfwriaeth gydweddol â'r Rheoliadau hyn a bod y bwyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno; ac
(b)
Cymhwyso amryw ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 19909.
(1)
Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny i'r Ddeddf neu Ran ohoni yn cael ei ddehongli at ddibenion y rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —
(a)
adran 2 (ystyr estynedig gwariant etc.);
(b)
adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);
(c)
adran 20 (tramgwyddau am fod bai ar berson arall)
(ch)
adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf;
(d)
adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi wrth gynnal busnes);
(dd)
adran 30(8) (sy'n delio â thystiolaeth ddogfennol);
(e)
adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion)
(f)
adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod;
(ff)
adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod.
(g)
adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (f) uchod;
(ng)
adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
(h)
adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
(2)
Mae adran 29 o'r Ddeddf (samplu) yn gymwys mewn perthynas â gwaith samplu cynhyrchion dynodedig i'w dadansoddi at ddibenion y Rheoliadau hyn a chyda'r addasiad bod rhaid arfer a pherfformio pwer swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi o dan yr adran honno a dyletswyddau'r swyddog hwnnw o dan unrhyw reoliadau a wneir o dan y Ddeddf, yn unol â'r dulliau a ddisgrifir yn yr Atodlen i Gyfarwyddeb 87/524/EEC.
Diwygio a dirymu10.
(1)
Yn Rheoliadau 1996 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru), hepgorir y darpariaethau canlynol —
(a)
yn rheoliad 4(2) (cwmpas Rhan II), is-baragraff (d);
(b)
yn rheoliad 49 (dirymu a diwygio), paragraff (6).
(2)
(a)
(b)
(c)
(ch)
(d)
(dd)
(e)
(f)
(3)
Dirymir y Rheoliadau a ganlyn (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru):
(a)
(b)
(c)
(ch)
(4)
(5)
(a)
yn rheoliad 10, dirymir paragraff (7);
(b)
yn Atodlen 7, yng ngholofn 1, yn lle'r geiriau “Partially dehydrated and dehydrated milk as defined in Directive 76/118/EEC” rhoddir “Partially dehydrated and totally dehydrated milk as defined in Directive 2001/114/EC”.
Darpariaeth drosiannol11.
Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir i brofi —
(a)
bod y bwyd dan sylw wedi'i farcio neu'i labelu cyn 17 Gorffennaf 2004, a
(b)
na fyddai'r materion sy'n gwneud y tramgwydd honedig wedi gwneud tramgwydd o dan Reoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych 1977 fel yr oeddent yn union cyn i'r rheoliadau hyn ddod i rym.
ATODLEN 1CYNHYRCHION LLAETH SYDD WEDI'U DADHYDRADU A'U PRESERFIO YN RHANNOL NEU'N LLWYR A'U DISGRIFIADAU NEILLTUEDIG
Colofn 1 | Colofn 2 |
|---|---|
Disgrifiadau Neilltuedig | Cynhyrchion Dynodedig |
1.Partly dehydrated milk | |
Types of unsweetened condensed milk | |
(a)Condensed high-fat milk | Llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 15% braster, ac nid llai na chyfanswm o 26.5% o solidau llaeth. |
(b)Condensed milk | Llaeth wedi'i ddadhydradedu'n rhannol sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 7.5% braster, ac nid llai na chyfanswm o 25% o solidau llaeth. |
(c)Condensed, partly skimmed milk | Llaeth wedi'i ddadhydradedu'n rhannol sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 1% a llai na 7.5% braster, ac nid llai na chyfanswm o 20% o solidau llaeth. |
(ch)Condensed skimmed milk | Llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid mwy na 1% braster, ac nid llai na chyfanswm o 20% o solidau llaeth. |
Types of sweetened condensed milk | |
(d)Sweetended condensed milk | Llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol yn gymysg â swcros (siwgr lled-wyn, siwgr gwyn, neu siwgr claerwyn) ac sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai nag 8% braster ac nid llai na chyfanswm o 28% o solidau llaeth. |
(dd)Sweetened condensed, partly skimmed milk | Llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol yn gymysg â swcros (siwgr lled-wyn, siwgr gwyn neu iwgr claerwyn) ac sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 1% a llai na 8% braster, ac nid llai na 24% o gyfanswm o solidau llaeth. |
(e)Sweetened condensed milk | Llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol yn gymysg â swcros (siwgr lled-wyn, siwgr gwyn neu siwgr claerwyn) ac sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid mwy na 1% braster ac nid llai na chyfanswm o 24% o solidau llaeth. |
2.Totally dehydrated milk | |
(a)Dried high-fat milk neu high-fat milk powder | Llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 42% braster. |
(b)Dried whole milk neu whole milk powder | Llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 26% ac nid llai na 42% braster. |
(c)Dried partly skimmed milk neu partly skimmed milk powder | Llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr â chynnwys braster o dros fwy na 1.5% a llai na 26% yn ôl pwysau. |
(ch)Dried skimmed milk neu skimmed milk powder | Llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid mwy na 1.5% braster. |
Nodiadau:
| |
ATODLEN 2DISGRIFIADAU AMGEN I'R DISGRIFIADAU NEILLTUEDIG A BENNIR YN ATODLEN 1
1.
Mae caniatâd i ddefnyddio'r term “evaporated milk” yn lle'r term “condensed milk” i gyfeirio at laeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, o leiaf 9% braster a chyfanswm o 31% o solidau llaeth.
2.
Mae caniatâd i ddefnyddio'r term “evaporated semi-skimmed milk” yn lle'r term “condensed partly skimmed milk” i gyfeirio at laeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, rhwng 4% a 4.5% braster ac nid llai na chyfanswm o 24% o solidau llaeth.
3.
Mae caniatâd i ddefnyddio'r term “semi-skimmed milk powder” neu “partly skimmed-milk powder” yn lle'r term “dried partly skimmed milk” neu “partly skimmed-milk powder” i gyfeirio at laeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr â chynnwys braster rhwng 14% a 16%.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Maent yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/114/ (OJ Rhif L19, 17.1.2002, t.19). Ymwneud â chynhyrchion llaeth penodol a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sydd naill ai'n rhannol neu'n llwyr wedi'u sychu (wedi'u dadhydradu) a'u cadw (eu preserfio) y mae'r Gyfarwyddeb honno. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych 1977, fel y'u diwygiwyd, mewn perthynas â Chymru.
Mae'r Rheoliadau yn —
rhagnodi diffiniadau a disgrifiadau neilltuedig ar gyfer cynhyrchion llaeth cyddwys a llaeth sych (rheoliad 2 ac Atodlenni 1 a 2);
darparu i'r Rheoliadau fod yn gymwys i gynhyrchion llaeth a llaeth sych a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n barod i'w dosbarthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo (rheoliad 3);
cyfyngu ar y defnydd o ddisgrifiadau neilltuedig i'r cynhyrchion llaeth cyddwys a llaeth sych y maent yn ymwneud â hwy (rheoliad 4);
rhagnodi gofynion labelu ar gyfer cynhyrchion llaeth cyddwys a llaeth sych dynodedig (rheoliad 5);
rhagnodi dull y marcio neu labelu a chymhwyso darpariaethau penodedig Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (rheoliad 6);
pennu cosb, awdurdodau gorfodi ac, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC ar reolaeth swyddogol bwydydd (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23), amddiffyniad sy'n ymwneud ag allforion (rheoliadau 7 ac 8);
cymhwyso amryw ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 9);
dirymu'r Rheoliadau blaenorol a gwneud diwygiadau canlyniadol a darpariaeth drosiannol (rheoliadau 10 ac 11). Effaith y dirymiad a wneir gan reoliad 10(1)(a), ac absenoldeb ailddeddfiad o ddarpariaeth debyg, yw y bydd Rhan II o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 yn gymwys i'r cynhyrchion y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt.
Cafodd arfarniad rheoliadol ei baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a rhoddwyd copi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n egluro sut y mae prif elfennau'r ddeddfwriaeth Ewropeaidd a grybwyllir uchod yn cael eu trawsosod yn Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.