Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 28 Tachwedd 2003 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli2.
Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “awdurdod bwyd” yr un ystyr ag sydd i “food authority” yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “cynnyrch siwgr penodedig” (“specified sugar product”) yw unrhyw fwyd a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1 (fel y'i darllenir gyda'r Nodiadau sy'n ymwneud â'r Atodlen honno) ond nid yw'n cynnwys unrhyw fwyd o'r fath sydd ar ffurf siwgr eisin, siwgr candi neu siwgr lwmp;
ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”) yw unrhyw berson sy'n prynu heblaw—
(a)
er mwyn ailwerthu,
(b)
at ddibenion sefydliad arlwyo, neu
(c)
at ddibenion busnes gweithgynhyrchu.
ystyr “disgrifiad neilltuedig” (“reserved description”), o ran unrhyw gynnyrch siwgr penodedig, yw unrhyw ddisgrifiad mewn cysylltiad â'r cynnyrch hwnnw yng ngholofn 1 o Atodlen 1 (fel y'i darllenir gyda'r nodiadau sy'n ymwneud â'r Atodlen honno) a lle y defnyddir disgrifiad o'r fath yn y Rheoliadau hyn rhaid ei ddehongli fel y cynnyrch y mae'r disgrifiad hwnnw yn berthnasol iddo;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
mae ystyr “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig neu ddangos ar werth neu fod ym meddiant rhywun ar gyfer ei werthu, a rhaid dehongli ffurfiau sy'n deillio ohono yn unol â hynny;
F1...
mae ystyr “paratoi” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw fath o brosesu neu driniaeth a rhaid dehongli ffurfiau sy'n tarddu o “baratoi” yn unol â hynny;
ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu stondin symudol) lle, wrth gynnal busnes, y paratoir bwyd i'w ddosbarthu i'r cwsmer olaf a'r bwyd hwnnw yn barod i'w fwyta heb ei baratoi ymhellach;
ystyr “siwgr candi” (“candy sugar”) yw siwgr crisial os yw unrhyw ochr o'r crisialau yn hwy nag un sentimetr;
ystyr “siwgr eisin” (“icing sugar”) yw gronynnau mân o siwgr gwyn neu siwgr claerwyn neu gymysgedd ohonynt;
ystyr “siwgr lwmp” (“sugar in loaf form”) yw darn o siwgr crisial wedi ei gydgasglu ar ffurf côn fel arfer, nad yw ei bwysau'n llai na 250 gram;
Cwmpas y Rheoliadau3.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion siwgr penodedig, y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl ac sydd yn barod i'w dosbarthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.
Disgrifiadau neilltuedig4.
Ni chaiff neb werthu bwyd gyda label, boed honno wedi ei glynu wrth y deunydd lapio neu'r cynhwysydd ai peidio, neu wedi ei hargraffu arno, os yw'n dangos neu'n cynnwys unrhyw ddisgrifiad neilltuedig neu unrhyw ymadrodd sy'n deillio ohono, neu unrhyw air neu ddisgrifiad sy'n sylweddol debyg iddo heblaw—
(a)
mai'r cynnyrch siwgr penodedig y mae'r disgrifiad yn ymwneud ag ef yw'r bwyd hwnnw;
(b)
bod y disgrifiad, yr ymadrodd sy'n deillio ohono, neu'r gair, yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun sy'n dangos yn ddiamwys neu'n awgrymu yn eglur mai dim ond cynhwysyn yn y bwyd hwnnw yw'r sylwedd y mae'n cyfeirio ato;
(c)
bod y disgrifiad, yr ymadrodd sy'n deillio ohono, neu'r gair, yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun sy'n dangos yn ddiamwys neu'n awgrymu yn eglur nad cynnyrch siwgr penodedig mo'r bwyd hwnnw, ac nad yw'n cynnwys dim ohono; neu
(ch)
bod y disgrifiad, yr ymadrodd sy'n deillio ohono, neu'r gair yn cael ei ddefnyddio yn enw arferol ar gynnyrch bwyd arall ac nad yw'n debygol o gamarwain y defnyddiwr.
Labelu a disgrifio cynhyrchion siwgr penodedig5.
Heb iddo leihau effaith gyffredinol F3Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, ni chaiff neb werthu unrhyw gynnyrch siwgr penodedig os nad yw wedi ei farcio neu ei labelu â'r manylion canlynol—
(a)
disgrifiad neilltuedig y cynnyrch; a
(b)
yn achos toddiant siwgr, toddiant siwgr gwrthdro a surop siwgr gwrthdro, faint o sylwedd sych a faint o siwgr gwrthdro sydd yn y cynnyrch.
Y dull o farcio neu labeluF46.
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Cosbau a gorfodi7.
(1)
Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i reoliad 4 neu 5 o'r Rheoliadau hyn, neu berson nad yw'n cydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2)
Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
Amddiffyniad o ran allforioF58.
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Cymhwyso amryw ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 19909.
Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn, wedi eu haddasu fel bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni yn cael ei ddehongli at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —
(a)
adran 2 (ystyr estynedig gwerthiant, ac yn y blaen);
(b)
adran 3 (rhagdybiaeth mai gan bobl y bwriedir i'r bwyd gael ei fwyta);
(c)
adran 20 (tramgwyddau y mae'r bai amdanynt ar berson arall);
(ch)
adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dilys) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf;
(d)
adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs cynnal busnes);
(dd)
adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e)
adran 33(1) (rhwystro swyddogion, ac yn y blaen);
(f)
adran 33(2), wedi ei haddasu fel bod rhaid dehongli'r cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” fel cyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath fel y'i crybwyllwyd yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod;
(ff)
adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod;
(g)
adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (f) uchod;
(ng)
adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
(h)
adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu yn ddidwyll).
Dirymu a diwygio canlyniadol10.
(1)
Dirymir y Rheoliadau canlynol drwy hyn (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru):
(a)
(b)
F6(2)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(3)
Hepgorir y darnau canlynol sy'n ymwneud â Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976 yn narpariaethau'r Rheoliadau a nodir isod, i'r graddau y mae'r Rheoliadau'n gymwys i Gymru—
(a)
(b)
(c)
(ch)
(d)
(dd)
(e)
(f)
(4)
(5)
Yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru—
(a)
hepgorir paragraff (4) yn rheoliad 10;
(b)
yng ngholofn 1 o Atodlen 2, yn lle'r cyfeiriad at “Directive 73/437/EEC” rhoddir cyfeiriad at “Directive 2001/111/EC”.
(6)
Darpariaeth drosiannolF711.
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
ATODLEN 1CYNHYRCHION SIWGR PENODEDIG A'U DISGRIFIADAU NEILLTUEDIG
Colofn 1 | Colofn 2 |
|---|---|
Disgrifiadau Neilltuedig | Cynhyrchion Siwgr Penodedig |
1.Semi-white sugar | Swcros wedi ei buro a'i grisialu, o ansawdd da sy'n deg ei fasnachu, gyda'r nodweddion canlynol:
|
2.Sugar neu white sugar | Swcros wedi ei buro a'i grisialu, o ansawdd da sy'n deg ei fasnachu, gyda'r nodweddion canlynol:
|
3.Extra-white sugar | Mae gan y cynnyrch yr un nodweddion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2(a), (b) ac (c) yn yr Atodlen hon ac nad yw cyfanswm y pwyntiau a bennir yn ôl darpariaethau paragraffau 2 i 4 o Atodlen 2 yn fwy na wyth, ac nid yn fwy:
|
4.Sugar solution | Toddiant dyfrllyd swcros gyda'r nodweddion canlynol:
|
5.Invert sugar solution | Toddiant dyfrllyd swcros wedi ei wrthdro yn rhannol drwy hydrolysis, nad siwgr gwrthdro yw'r gyfran fwyaf ohono, gyda'r nodweddion canlynol:
|
6.Invert sugar syrup | Toddiant dyfrllyd swcros, wedi ei grisialu ai peidio, sydd wedi ei wrth-droi yn rhannol drwy hydrolysis, y mae'n rhaid iddo gynnwys mwy na 50% o siwgr gwrthdro (cyniferydd ffrwctos/decstros = 1.0 ± 0.1), o ran pwysau'r sylwedd sych, ond y mae'n rhaid fel arall bodloni'r gofynion a osodir ym mharagraff 5(a) ac (c) yn yr Atodlen hon. |
7.Glucose syrup | Toddiant dyfrllyd sacaridau maethol wedi ei buro a'i grynhoi, sydd wedi ei gael o starts neu inswlin neu'r ddau, gyda'r nodweddion canlynol:
|
8.Dried glucose syrup | Surop glwcos wedi ei sychu yn rhannol, gydag o leiaf 93% sylwedd sych o ran pwysau, ond rhaid iddo fel arall fodloni'r gofynion a osodir ym mharagraff 7(b) ac (c) yn yr Atodlen hon. |
9.Dextrose neu dextrose monohydrate | D-glwcos wedi ei buro a'i grisialu sy'n cynnwys un molecwl o ddwr crisialu, gyda'r nodweddion canlynol:
|
10.Dextrose neu dextrose anhydrous | D-glwcos wedi ei buro a'i grisialu nad yw'n cynnwys dŵ r crisialu, gyda o leiaf 98% o sylwedd sych o ran pwysau, ond y mae'n rhaid iddo fel arall fodloni'r gofynion a osodir ym mharagraff 9(a) ac (c) yn yr Atodlen hon. |
11.Fructose | D-glwcos wedi ei buro a'i grisialu gyda'r nodweddion canlyniadol:
|
Nodiadau:
| |
ATODLEN 2DULLIAU DADANSODDI
1.
Dull 1 yw'r dull o bennu faint a gollir wrth sychu siwgr lledwyn, siwgr neu siwgr gwyn, a siwgr claerwyn.
2.
Y dull o bennu math o liw siwgr neu siwgr gwyn a siwgr claerwyn yw dull Sefydliad Brunswick dros Dechnoleg Amaethyddol a'r Diwydiant Siwgr fel y'i disgrifir ym Mhennod A, paragraff 2, o'r Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69. At ddibenion pennu'r nifer o bwyntiau, mae un pwynt yn cyfateb i 0.5 o unedau.
3.
Y dull o bennu faint o fwynau a gynhwysir mewn siwgr claerwyn, toddiant siwgr, toddiant siwgr gwrthdro, surop siwgr gwrthdro a ffrwctos yw dull ICUMSA fel y'i disgrifir ym Mhennod A, paragraff 1, o'r Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69. At ddibenion pennu'r nifer o bwyntiau, mae un pwynt yn cyfateb i 0.0018% o fwynau.
4.
Y dull o bennu'r lliw mewn toddiant siwgr claerwyn a thoddiant siwgr yw dull ICUMSA fel y'i disgrifir ym Mhennod A, paragraff 3 o'r Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69. At ddibeion pennu'r nifer o bwyntiau at ddibenion paragraff 3 o Atodlen 1, mae un pwynt yn cyfateb i 7.5 o unedau.
5.
Dull 2 yw'r dull o bennu faint o sylwedd sych a gynhwysir mewn surop glwcos, surop glwcos wedi ei sychu, decstros neu ddecstros monohydrad a decstros neu ddecstros anhydrus.
6.
Dull 3 yw'r dull o bennu faint o sylwedd sych a gynhwysir mewn toddiant siwgr, toddiant siwgr gwrthdro a surop siwgr gwrthdro.
7.
Dull 4 yw'r dull o bennu faint o siwgr gwrthdro a gynhwysir mewn siwgr lledwyn.
8.
Dull 5 yw'r dull o bennu faint o siwgr gwrthdro a gynhwysir mewn siwgr neu siwgr gwyn a siwgr claerwyn.
9.
Dull 7 yw'r dull o bennu faint o siwgr gwrthdro a gynhwysir mewn toddiant siwgr, toddiant siwgr gwrthdro a surop siwgr gwrthdro.
10.
Dull 9 yw'r dull o bennu faint o fwynau wedi eu sylffadu a gynhwysir mewn surop glwcos, surop glwcos wedi ei sychu, decstros neu ddecstros monohydrad, a decstros neu ddecstros anhydrus.
11.
Dull 10 yw'r dull o bennu i ba raddau y mae siwgr lledwyn, siwgr neu siwgr gwyn a siwgr claerwyn wedi eu polareiddio.
12.
At ddibenion yr Atodlen hon—
(a)
(b)
ystyr “ICUMSA” yw'r Comisiwn Rhyngwladol dros Ddulliau Unffurf o Ddadansoddi Siwgr.
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC sy'n ymwneud â siwgrau penodol y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.53) ac eithrio Erthygl 2.2 sy'n ymwneud â labelu cynhyrchion bach sydd wedi eu pecynnu ymlaen llaw. Maent yn dirymu a disodli Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976, fel y'u diwygiwyd, mewn cysylltiad â Chymru.
Mae'r Rheoliadau—
yn pennu diffiniadau a disgrifiadau neilltuedig i gynhyrchion siwgr penodedig penodol (rheoliad 2 ac Atodlenni 1 a 2);
yn darparu bod y Rheoliadau yn gymwys i gynhyrchion siwgr penodol y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl ac sy'n barod i'w dosbarthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo (rheoliad 3);
cyfyngu ar ddisgrifiadau neilltuedig fel na cheir eu defnyddio ond ar gyfer y cynhyrchion siwgr penodol y maent yn berthnasol iddynt (rheoliad 4);
pennu'r gofynion labelu i gynhyrchion o'r fath (rheoliad 5);
pennu'r dull o farcio neu labelu drwy gymhwyso darpariaethau penodedig Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (rheoliad 6);
pennu cosb, awdurdodau gorfodi ac, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC ar reolaeth swyddogol ar fwydydd (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) a Chytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, amddiffyniad mewn cysylltiad ag allforion (rheoliadau 7 ac 8);
cymhwyso amryw ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 9);
dirymu'r Rheoliadau blaenorol a gwneud diwygiadau canlyniadol a darpariaeth drosiannol (rheoliadau 10 ac 11). Un effaith o'r dirymu a geir yn rheoliad 10(1)(a) ac o beidio ag ailddeddfu'r ddarpariaeth a ddirymwyd yno yw y bydd Rhan II o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 yn gymwys i gynhyrchion y mae'r Rheoliadau hyn yn berthnasol iddynt.
Mae arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau deddfwriaeth Ewropeaidd y cyfeirir ati uchod wedi'u trawsosod yn y Rheoliadau hyn. Ceir copïau o'r Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.