- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
26 Tachwedd 2003
Yn dod i rym
28 Tachwedd 2003
Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac a freiniwyd ynddo bellach, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru(2), ac yntau wedi ystyried y cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, ac wedi ymgynghori fel sy'n ofynnol yn Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(3), ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf uchod, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rheoliadau cymhwyso in rhan (ynghyd â modifications) (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Retail Movement Scheme: Public Health, Marketing and Organic Product Standards and Miscellaneous Provisions) Regulations 2023 (O.S. 2023/959), rhlau. 1(2), 4(b), Atod. 2 (ynghyd â rhlau. 7, 8)
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 28 Tachwedd 2003 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
2. Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “awdurdod bwyd” yr un ystyr ag sydd i “food authority” yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “cynnyrch siwgr penodedig” (“specified sugar product”) yw unrhyw fwyd a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1 (fel y'i darllenir gyda'r Nodiadau sy'n ymwneud â'r Atodlen honno) ond nid yw'n cynnwys unrhyw fwyd o'r fath sydd ar ffurf siwgr eisin, siwgr candi neu siwgr lwmp;
ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”) yw unrhyw berson sy'n prynu heblaw—
er mwyn ailwerthu,
at ddibenion sefydliad arlwyo, neu
at ddibenion busnes gweithgynhyrchu.
ystyr “disgrifiad neilltuedig” (“reserved description”), o ran unrhyw gynnyrch siwgr penodedig, yw unrhyw ddisgrifiad mewn cysylltiad â'r cynnyrch hwnnw yng ngholofn 1 o Atodlen 1 (fel y'i darllenir gyda'r nodiadau sy'n ymwneud â'r Atodlen honno) a lle y defnyddir disgrifiad o'r fath yn y Rheoliadau hyn rhaid ei ddehongli fel y cynnyrch y mae'r disgrifiad hwnnw yn berthnasol iddo;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
mae ystyr “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig neu ddangos ar werth neu fod ym meddiant rhywun ar gyfer ei werthu, a rhaid dehongli ffurfiau sy'n deillio ohono yn unol â hynny;
F1...
mae ystyr “paratoi” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw fath o brosesu neu driniaeth a rhaid dehongli ffurfiau sy'n tarddu o “baratoi” yn unol â hynny;
ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu stondin symudol) lle, wrth gynnal busnes, y paratoir bwyd i'w ddosbarthu i'r cwsmer olaf a'r bwyd hwnnw yn barod i'w fwyta heb ei baratoi ymhellach;
ystyr “siwgr candi” (“candy sugar”) yw siwgr crisial os yw unrhyw ochr o'r crisialau yn hwy nag un sentimetr;
ystyr “siwgr eisin” (“icing sugar”) yw gronynnau mân o siwgr gwyn neu siwgr claerwyn neu gymysgedd ohonynt;
ystyr “siwgr lwmp” (“sugar in loaf form”) yw darn o siwgr crisial wedi ei gydgasglu ar ffurf côn fel arfer, nad yw ei bwysau'n llai na 250 gram;
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 2 wedi eu hepgor (26.7.2018) yn rhinwedd Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/806), rhlau. 1(3), 8(2)
F2Geiriau yn rhl. 2 wedi eu hepgor (13.12.2014) yn rhinwedd Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 7 para. 36
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
3. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion siwgr penodedig, y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl ac sydd yn barod i'w dosbarthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
4. Ni chaiff neb werthu bwyd gyda label, boed honno wedi ei glynu wrth y deunydd lapio neu'r cynhwysydd ai peidio, neu wedi ei hargraffu arno, os yw'n dangos neu'n cynnwys unrhyw ddisgrifiad neilltuedig neu unrhyw ymadrodd sy'n deillio ohono, neu unrhyw air neu ddisgrifiad sy'n sylweddol debyg iddo heblaw—
(a)mai'r cynnyrch siwgr penodedig y mae'r disgrifiad yn ymwneud ag ef yw'r bwyd hwnnw;
(b)bod y disgrifiad, yr ymadrodd sy'n deillio ohono, neu'r gair, yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun sy'n dangos yn ddiamwys neu'n awgrymu yn eglur mai dim ond cynhwysyn yn y bwyd hwnnw yw'r sylwedd y mae'n cyfeirio ato;
(c)bod y disgrifiad, yr ymadrodd sy'n deillio ohono, neu'r gair, yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun sy'n dangos yn ddiamwys neu'n awgrymu yn eglur nad cynnyrch siwgr penodedig mo'r bwyd hwnnw, ac nad yw'n cynnwys dim ohono; neu
(ch)bod y disgrifiad, yr ymadrodd sy'n deillio ohono, neu'r gair yn cael ei ddefnyddio yn enw arferol ar gynnyrch bwyd arall ac nad yw'n debygol o gamarwain y defnyddiwr.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
5. Heb iddo leihau effaith gyffredinol [F3Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr], ni chaiff neb werthu unrhyw gynnyrch siwgr penodedig os nad yw wedi ei farcio neu ei labelu â'r manylion canlynol—
(a)disgrifiad neilltuedig y cynnyrch; a
(b)yn achos toddiant siwgr, toddiant siwgr gwrthdro a surop siwgr gwrthdro, faint o sylwedd sych a faint o siwgr gwrthdro sydd yn y cynnyrch.
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn rhl. 5 wedi eu hamnewid (13.12.2014) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 7 para. 37
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
F46. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F4Rhl. 6 wedi ei dirymu (13.12.2014) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 6 Rhn. 1
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
7.—(1) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i reoliad 4 neu 5 o'r Rheoliadau hyn, neu berson nad yw'n cydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
F58. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F5Rhl. 8 wedi ei dirymu (1.1.2006) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3254), rhl. 1, Atod. 6 Rhn. 2
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
9. Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn, wedi eu haddasu fel bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni yn cael ei ddehongli at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —
(a)adran 2 (ystyr estynedig gwerthiant, ac yn y blaen);
(b)adran 3 (rhagdybiaeth mai gan bobl y bwriedir i'r bwyd gael ei fwyta);
(c)adran 20 (tramgwyddau y mae'r bai amdanynt ar berson arall);
(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dilys) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf;
(d)adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs cynnal busnes);
(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e)adran 33(1) (rhwystro swyddogion, ac yn y blaen);
(f)adran 33(2), wedi ei haddasu fel bod rhaid dehongli'r cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” fel cyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath fel y'i crybwyllwyd yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod;
(ff)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod;
(g)adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (f) uchod;
(ng)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
(h)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu yn ddidwyll).
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
10.—(1) Dirymir y Rheoliadau canlynol drwy hyn (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru):
(a)Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976(7);
(b)Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Diwygio) 1982(8).
F6(2) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(3) Hepgorir y darnau canlynol sy'n ymwneud â Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976 yn narpariaethau'r Rheoliadau a nodir isod, i'r graddau y mae'r Rheoliadau'n gymwys i Gymru—
(a)yn Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 1982(9), yn Atodlen 1;
(b)yn Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 1985(10)), yn yr Atodlen, Rhan I;
(c)yng Ngorchymyn Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Addasiadau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 1990(11), yn Atodlen 1, Rhan I, Atodlen 2, Atodlen 3, Rhan I ac Atodlenni 6 a 12;
(ch)yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Allforio) 1991(12), yn Atodlen 1, Rhan I;
(d)yn Rheoliadau Bwyd (Eithriadau'r Lluoedd) (Dirymu) 1992(13), yn yr Atodlen, Rhan I;
(dd)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(14), yn Atodlen 9;
(e)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1999(15)), yn rheoliad 14(1);
(f)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002(16), yn rheoliad 9(2).
(4) Yn Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995(17)), i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, hepgorir paragraff (2) yn rheoliad 12.
(5) Yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru—
(a)hepgorir paragraff (4) yn rheoliad 10;
(b)yng ngholofn 1 o Atodlen 2, yn lle'r cyfeiriad at “Directive 73/437/EEC” rhoddir cyfeiriad at “Directive 2001/111/EC”.
(6) Yn Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001(18), yn rheoliad 5(1)(c), yn lle'r cyfeiriad at Reoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976 rhoddir cyfeiriad at Reoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003.
Diwygiadau Testunol
F6Rhl. 10(2) wedi ei dirymu (13.12.2014) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 6 Rhn. 1
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
F711. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F7Rhl. 11 wedi ei hepgor (26.7.2018) yn rhinwedd Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/806), rhlau. 1(3), 8(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 11 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(19)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Tachwedd 2003
Rheoliad 2
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 1 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
| Colofn 1 | Colofn 2 |
|---|---|
| Disgrifiadau Neilltuedig | Cynhyrchion Siwgr Penodedig |
Nodiadau: 1. Ceir defnyddio'r disgrifiad neilltuedig “sugar” neu “white sugar” fel ymadrodd arall ar gyfer y disgrifiad neilltuedig “extra-white sugar” yn achos y cynnyrch a ddisgrifir ym mharagraff 3 uchod. 2. Yn achos surop siwgr gwrthdro sy'n cynnwys crisialau yn y toddiant, rhaid ychwanegu'r ymadrodd goleddfu “crystallised” at ddisgrifiad y cynnyrch. 3. Os bydd cynnyrch siwgr penodedig a ddisgrifir ym mharagraff 7 neu 8 uchod yn cynnwys mwy na 5% o ffrwctos ar sail sylwedd sych, rhaid i'r disgrifiad neilltuedig fod naill ai yn “glucose-fructose syrup” neu “fructose-glucose syrup”, neu naill ai yn “dried glucose-fructose syrup” neu “dried fructose-glucose syrup” yn ôl y digwydd er mwyn adlewyrchu pa un yw'r gyfran fwyaf, y glwcos ynteu'r ffrwctos. 4. Ceir rhoi ymadroddion goleddfu a ddefnyddir yn gyffredin ar y cynhyrchion a ddisgrifir ym mharagraffau 1 i 11 uchod, yn ogystal â'r disgrifiad neilltuedig ar yr amod na fydd hynny yn debygol o gamarwain y defnyddiwr o'i herwydd. 5. Ceir defnyddio'r disgrifiad “white” mewn cysylltiad ag unrhyw gynnyrch a ddisgrifir ym mharagraff 4 uchod os nad yw'r lliw yn y toddiant yn fwy na 25 o unedau ICUMSA wedi ei bennu yn unol â dull y Comisiwn Rhyngwladol dros Ddulliau Unffurf o Ddadansoddi Siwgr (“ICUMSA”) wedi ei osod ym mharagraff 3 o Bennod A yn yr Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69(20). 6. Ceir defnyddio'r disgrifiad “white” mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r cynhyrchion a ddisgrifir ym mharagraff 5 a 6 uchod os nad oes mwy na 0.1% o fwynau dargludedd ac os nad yw'r lliw yn y toddiant yn fwy na 25 o unedau ICUMSA wedi ei bennu fel y'i gosodir ym mharagraff 1 o Bennod A yn yr Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69. 7. [F8Caiff cynhyrchion siwgr penodedig gynnwys unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â [F9Chyfarwyddeb 2009/32/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyd-ddynesu cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau ynglŷn â thoddyddion echdynnu a ddefnyddir wrth gynhyrchu bwydydd a chynhwysion bwyd (Ail-lunio) fel y diwygir Atodiad I iddi o bryd i’w gilydd] neu [F10Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion bwyd fel y diwygir yr Atodiadau iddo o bryd i’w gilydd].] | |
1. Semi-white sugar | Swcros wedi ei buro a'i grisialu, o ansawdd da sy'n deg ei fasnachu, gyda'r nodweddion canlynol: (a) nid yw'r polareiddio yn llai na 99.5°Z (b) nid yw'n cynnwys mwy na 0.1% o siwgr gwrthdro o ran pwysau (c) nid yw'n colli mwy na 0.1% o ran pwysau ar ôl ei sychu |
2. Sugar neu white sugar | Swcros wedi ei buro a'i grisialu, o ansawdd da sy'n deg ei fasnachu, gyda'r nodweddion canlynol: (a) nid yw'r polareiddio yn llai na 99.7°Z (b) nid yw'n cynnwys mwy na 0.04% o siwgr gwrthdro o ran pwysau (c) nid yw'n colli mwy na 0.06% o ran pwysau ar ôl ei sychu (ch) nid yw'r math o liw yn fwy na naw pwynt, wedi ei bennu yn unol â pharagraff (2) o Atodlen 2 |
3. Extra-white sugar | Mae gan y cynnyrch yr un nodweddion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2(a), (b) ac (c) yn yr Atodlen hon ac nad yw cyfanswm y pwyntiau a bennir yn ôl darpariaethau paragraffau 2 i 4 o Atodlen 2 yn fwy na wyth, ac nid yn fwy:
|
4. Sugar solution | Toddiant dyfrllyd swcros gyda'r nodweddion canlynol: (a) nid yw'r sylwedd sych yn llai na 62% o ran pwysau (b) nid yw'n cynnwys mwy na 3% o siwgr gwrthdro (cymhareb ffrwctos i ddecstros = 1.0 ± 0.2) o ran pwysau'r sylwedd sych (c) nid yw'r mwynau dargludedd yn fwy na 0.1% o ran pwysau'r sylwedd sych, wedi ei bennu yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 2 (ch) nid yw'r lliw yn y toddiant yn fwy na 45 o unedau ICUMSA |
5. Invert sugar solution | Toddiant dyfrllyd swcros wedi ei wrthdro yn rhannol drwy hydrolysis, nad siwgr gwrthdro yw'r gyfran fwyaf ohono, gyda'r nodweddion canlynol: (a) nid yw'r sylwedd sych yn llai na 62% o ran pwysau (b) nid yw'n cynnwys mwy na 3% o siwgr gwrthdro (cymhareb ffrwctos i ddecstros = 1.0 ± 0.1) ond heb fod yn fwy na 50% o ran pwysau'r sylwedd sych (c) nid yw'r mwynau dargludedd yn fwy na 0.4% o ran pwysau'r sylwedd sych, wedi ei bennu yn unol â [F11pharagraff 3] o Atodlen 2 |
6. Invert sugar syrup | Toddiant dyfrllyd swcros, wedi ei grisialu ai peidio, sydd wedi ei wrth-droi yn rhannol drwy hydrolysis, y mae'n rhaid iddo gynnwys mwy na 50% o siwgr gwrthdro (cyniferydd ffrwctos/decstros = 1.0 ± 0.1), o ran pwysau'r sylwedd sych, ond y mae'n rhaid fel arall bodloni'r gofynion a osodir ym mharagraff 5(a) ac (c) yn yr Atodlen hon. |
7. Glucose syrup | Toddiant dyfrllyd sacaridau maethol wedi ei buro a'i grynhoi, sydd wedi ei gael o starts neu inswlin neu'r ddau, gyda'r nodweddion canlynol: (a) nid yw'r sylwedd sych yn llai na 70% o ran pwysau (b) nid yw'r decstros cyfwerth yn llai nag 20% o'r sylwedd sych o ran pwysau ac wedi ei fynegi fel D-glwcos (c) nid yw'r mwynau wedi eu sylffadu yn fwy nag 1% o'r sylwedd sych o ran |
8. Dried glucose syrup | Surop glwcos wedi ei sychu yn rhannol, gydag o leiaf 93% sylwedd sych o ran pwysau, ond rhaid iddo fel arall fodloni'r gofynion a osodir ym mharagraff 7(b) ac (c) yn yr Atodlen hon. |
9. Dextrose neu dextrose monohydrate | D-glwcos wedi ei buro a'i grisialu sy'n cynnwys un molecwl o ddwr crisialu, gyda'r nodweddion canlynol: (a) decstros (D-glwcos) heb fod yn llai na 99.5% o sylwedd sych o ran pwysau (b) sylwedd sych heb fod yn llai na 90% o ran pwysau (c) mwynau wedi eu sylffadu heb fod yn fwy na 0.25% o sylwedd sych o ran pwysau |
10. Dextrose neu dextrose anhydrous | D-glwcos wedi ei buro a'i grisialu nad yw'n cynnwys dŵ r crisialu, gyda o leiaf 98% o sylwedd sych o ran pwysau, ond y mae'n rhaid iddo fel arall fodloni'r gofynion a osodir ym mharagraff 9(a) ac (c) yn yr Atodlen hon. |
11. Fructose | D-glwcos wedi ei buro a'i grisialu gyda'r nodweddion canlyniadol:
|
Diwygiadau Testunol
F8Atod. 1 Nodyn 7 wedi ei amnewid (20.1.2010) gan Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3378), rhlau. 1, 19
F9Geiriau yn Atod. 1 wedi eu hamnewid (26.7.2018) gan Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/806), rhlau. 1(3), 8(4)(b)(i)
F10Geiriau yn Atod. 1 wedi eu hamnewid (26.7.2018) gan Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/806), rhlau. 1(3), 8(4)(b)(ii)
F11Geiriau yn Atod. 1 Table wedi eu hamnewid (26.7.2018) gan Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/806), rhlau. 1(3), 8(4)(a)(i)
F12Geiriau yn Atod. 1 Table wedi eu hamnewid (26.7.2018) gan Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/806), rhlau. 1(3), 8(4)(a)(ii)
1. Dull 1 yw'r dull o bennu faint a gollir wrth sychu siwgr lledwyn, siwgr neu siwgr gwyn, a siwgr claerwyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
2. Y dull o bennu math o liw siwgr neu siwgr gwyn a siwgr claerwyn yw dull Sefydliad Brunswick dros Dechnoleg Amaethyddol a'r Diwydiant Siwgr fel y'i disgrifir ym Mhennod A, paragraff 2, o'r Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69. At ddibenion pennu'r nifer o bwyntiau, mae un pwynt yn cyfateb i 0.5 o unedau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
3. Y dull o bennu faint o fwynau a gynhwysir mewn siwgr claerwyn, toddiant siwgr, toddiant siwgr gwrthdro, surop siwgr gwrthdro a ffrwctos yw dull ICUMSA fel y'i disgrifir ym Mhennod A, paragraff 1, o'r Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69. At ddibenion pennu'r nifer o bwyntiau, mae un pwynt yn cyfateb i 0.0018% o fwynau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
4. Y dull o bennu'r lliw mewn toddiant siwgr claerwyn a thoddiant siwgr yw dull ICUMSA fel y'i disgrifir ym Mhennod A, paragraff 3 o'r Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69. At ddibeion pennu'r nifer o bwyntiau at ddibenion paragraff 3 o Atodlen 1, mae un pwynt yn cyfateb i 7.5 o unedau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
5. Dull 2 yw'r dull o bennu faint o sylwedd sych a gynhwysir mewn surop glwcos, surop glwcos wedi ei sychu, decstros neu ddecstros monohydrad a decstros neu ddecstros anhydrus.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
6. Dull 3 yw'r dull o bennu faint o sylwedd sych a gynhwysir mewn toddiant siwgr, toddiant siwgr gwrthdro a surop siwgr gwrthdro.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
7. Dull 4 yw'r dull o bennu faint o siwgr gwrthdro a gynhwysir mewn siwgr lledwyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
8. Dull 5 yw'r dull o bennu faint o siwgr gwrthdro a gynhwysir mewn siwgr neu siwgr gwyn a siwgr claerwyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
9. Dull 7 yw'r dull o bennu faint o siwgr gwrthdro a gynhwysir mewn toddiant siwgr, toddiant siwgr gwrthdro a surop siwgr gwrthdro.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
10. Dull 9 yw'r dull o bennu faint o fwynau wedi eu sylffadu a gynhwysir mewn surop glwcos, surop glwcos wedi ei sychu, decstros neu ddecstros monohydrad, a decstros neu ddecstros anhydrus.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
11. Dull 10 yw'r dull o bennu i ba raddau y mae siwgr lledwyn, siwgr neu siwgr gwyn a siwgr claerwyn wedi eu polareiddio.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
12. At ddibenion yr Atodlen hon—LL+C
(a)mae cyfeiriadau at Ddulliau 1, 2, 3, 4, 5, 7, 9 a 10 yn gyfeiriadau at y Dulliau a bennwyd gan y Rhif au hynny yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Comisiwn 79/796/EEC(21) sy'n gosod dulliau dadansoddi'r Gymuned ar gyfer profi siwgrau penodol y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl, fel y'i darllennir ar y cyd â chyflwyniad yr Atodiad hwnnw;
(b)ystyr “ICUMSA” yw'r Comisiwn Rhyngwladol dros Ddulliau Unffurf o Ddadansoddi Siwgr.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC sy'n ymwneud â siwgrau penodol y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.53) ac eithrio Erthygl 2.2 sy'n ymwneud â labelu cynhyrchion bach sydd wedi eu pecynnu ymlaen llaw. Maent yn dirymu a disodli Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976, fel y'u diwygiwyd, mewn cysylltiad â Chymru.
Mae'r Rheoliadau—
(a)yn pennu diffiniadau a disgrifiadau neilltuedig i gynhyrchion siwgr penodedig penodol (rheoliad 2 ac Atodlenni 1 a 2);
(b)yn darparu bod y Rheoliadau yn gymwys i gynhyrchion siwgr penodol y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl ac sy'n barod i'w dosbarthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo (rheoliad 3);
(c)cyfyngu ar ddisgrifiadau neilltuedig fel na cheir eu defnyddio ond ar gyfer y cynhyrchion siwgr penodol y maent yn berthnasol iddynt (rheoliad 4);
(ch)pennu'r gofynion labelu i gynhyrchion o'r fath (rheoliad 5);
(d)pennu'r dull o farcio neu labelu drwy gymhwyso darpariaethau penodedig Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (rheoliad 6);
(dd)pennu cosb, awdurdodau gorfodi ac, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC ar reolaeth swyddogol ar fwydydd (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) a Chytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, amddiffyniad mewn cysylltiad ag allforion (rheoliadau 7 ac 8);
(e)cymhwyso amryw ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 9);
(f)dirymu'r Rheoliadau blaenorol a gwneud diwygiadau canlyniadol a darpariaeth drosiannol (rheoliadau 10 ac 11). Un effaith o'r dirymu a geir yn rheoliad 10(1)(a) ac o beidio ag ailddeddfu'r ddarpariaeth a ddirymwyd yno yw y bydd Rhan II o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 yn gymwys i gynhyrchion y mae'r Rheoliadau hyn yn berthnasol iddynt.
Mae arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau deddfwriaeth Ewropeaidd y cyfeirir ati uchod wedi'u trawsosod yn y Rheoliadau hyn. Ceir copïau o'r Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn cysylltiad â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.
OJ Rhif L1, 3.1.94, t.1.
OJ Rhif L1, 3.1.94, t.571.
OJ Rhif L163, 1.7.1969, t.1.
OJ Rhif L239, 22.9.79, t.24.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: