Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC sy'n ymwneud â siwgrau penodol y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.53) ac eithrio Erthygl 2.2 sy'n ymwneud â labelu cynhyrchion bach sydd wedi eu pecynnu ymlaen llaw. Maent yn dirymu a disodli Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976, fel y'u diwygiwyd, mewn cysylltiad â Chymru.

Mae'r Rheoliadau—

(a)yn pennu diffiniadau a disgrifiadau neilltuedig i gynhyrchion siwgr penodedig penodol (rheoliad 2 ac Atodlenni 1 a 2);

(b)yn darparu bod y Rheoliadau yn gymwys i gynhyrchion siwgr penodol y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl ac sy'n barod i'w dosbarthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo (rheoliad 3);

(c)cyfyngu ar ddisgrifiadau neilltuedig fel na cheir eu defnyddio ond ar gyfer y cynhyrchion siwgr penodol y maent yn berthnasol iddynt (rheoliad 4);

(ch)pennu'r gofynion labelu i gynhyrchion o'r fath (rheoliad 5);

(d)pennu'r dull o farcio neu labelu drwy gymhwyso darpariaethau penodedig Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (rheoliad 6);

(dd)pennu cosb, awdurdodau gorfodi ac, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC ar reolaeth swyddogol ar fwydydd (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) a Chytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, amddiffyniad mewn cysylltiad ag allforion (rheoliadau 7 ac 8);

(e)cymhwyso amryw ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 9);

(f)dirymu'r Rheoliadau blaenorol a gwneud diwygiadau canlyniadol a darpariaeth drosiannol (rheoliadau 10 ac 11). Un effaith o'r dirymu a geir yn rheoliad 10(1)(a) ac o beidio ag ailddeddfu'r ddarpariaeth a ddirymwyd yno yw y bydd Rhan II o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 yn gymwys i gynhyrchion y mae'r Rheoliadau hyn yn berthnasol iddynt.

Mae arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau deddfwriaeth Ewropeaidd y cyfeirir ati uchod wedi'u trawsosod yn y Rheoliadau hyn. Ceir copïau o'r Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.