Yn adran 5(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“y Ddeddf”) pennir ym mha gyfran y bydd symiau o dreth gyngor, sy'n berthnasol i anheddau sydd o fewn ardal yr un awdurdod bilio (neu yn yr un rhan o ardal o'r fath) ac sydd wedi eu rhestru mewn bandiau prisio gwahanol, yn daladwy.
Yn adran 5(3) o'r Ddeddf nodir y bandiau prisio ar gyfer anheddau yng Nghymru.
Mae adran 5(4) o'r Ddeddf yn awdurdodi rhoi, drwy orchymyn, ar gyfer y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar ddyddiad a bennir yn y gorchymyn, neu ar ôl dyddiad o'r fath, gyfran arall yn lle'r gyfran honno sydd, am y tro, yn effeithiol at ddibenion is-adran (1), a bandiau prisio eraill yn lle'r bandiau prisio sydd, am y tro, yn effeithiol at ddibenion is-adran (3).
Mae adran 5(4A) yn awdurdodi newid nifer y bandiau prisio a geir yn adran 5(3).
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn rhoi cyfran arall a bandiau prisio eraill yn lle'r rhai a geir yn is-adrannau (1) a (3) yn y drefn honno o adran 5 o'r Ddeddf.