2003 Rhif 3044 (Cy.288)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Mêl (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo2, ar ôl rhoi sylw, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymghynghori fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor3 sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu'r Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: