2003 Rhif 3037 (Cy.285)
Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Wrth arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo2, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi ystyried, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, y cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor3, sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwysoI11
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 2003, a dônt i rym ar 28 Tachwedd 2003 a byddant yn gymwys i Gymru'n unig.
DehongliI22
1
Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “awdurdod bwyd” (“food authority”) yw'r ystyr sydd iddo yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “cynnyrch dynodedig” (“designated product”) yw unrhyw gynnyrch coco neu siocled a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1, fel y'i darllenir gydag unrhyw Nodyn i'r Atodlen honno ac unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 3 ac Atodlen 2 sy'n ymwneud â'r cynnyrch hwnnw; ac ystyr “cynnyrch siocled dynodedig” a “chynnyrch coco dynodedig” yw unrhyw gynnyrch o'r fath sydd yn gynnyrch siocled neu'n gynnyrch coco yn y drefn honno;
F10...
ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”)yw unrhyw berson sy'n prynu ac eithrio —
- a
at ddibenion ailwerthu,
- b
at ddibenion sefydliad arlwyo, neu
- c
at ddibenion busnes gweithgynhyrchu.
- a
ystyr “disgrifiad neilltuedig” (“reserved description”), o ran unrhyw gynnyrch dynodedig, yw unrhyw ddisgrifiad a bennir mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw yng ngholofn 1 o Atodlen 1;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig rhywbeth ar werth neu ei ddatgelu ar gyfer ei werthu neu ei gael yn eich meddiant i'w werthu a dehonglir “gwerthiant ” (“sale”) yn unol â hynny;
F10...
mae “paratoi” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu a phrosesu neu drin o unrhyw fath;
F3ystyr “Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011” (“Regulation (EU) No 1169/2011”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004;
F2...
ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) lle, wrth gynnal busnes, y caiff bwyd ei baratoi i'w gyflenwi i'r defnyddiwr olaf ac yn barod i'w fwyta heb baratoi pellach; a
nid yw “sylweddau bwytadwy eraill” (“other edible substances”) yn cynnwys brasterau llysiau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3 neu lenwad unrhyw gynnyrch a bennir yng ngholofn 2 o eitem 7 neu o eitem 10(a) o Atodlen 1;
2
Caiff unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â Rhif ei ddehongli fel cyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.
Brasterau llysiau mewn cynhyrchion siocledI33
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, ceir ychwanegu brasterau llysiau, heblaw saim coco, a bennir yn Atodlen 2 at y cynhyrchion siocled hynny a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5, 6, 8 a 9 o Atodlen 1.
2
Ni chaiff ychwanegyn yn unol â pharagraff (1) fod yn fwy na 5 y cant o'r cynnyrch gorffenedig, ar ôl tynnu cyfanswm pwysau unrhyw sylweddau bwytadwy eraill a ddefnyddir yn unol â Nodyn 1 o Atodlen 1, heb leihau isafswm cynnwys y saim coco neu gyfanswm y solidau coco powdr.
Cwmpas y RheoliadauI44
Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion dynodedig a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl ac sy'n barod i'w cyflenwi i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.
Disgrifiadau neilltuedigI55
Ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw fwyd â label, pa un a yw ynghlwm wrth y papur lapio neu'r cynhwysydd neu wedi'i argraffu arnynt, os yw'r label yn ddisgrifiad neilltuedig neu'n deillio o ddisgrifiad neilltuedig, neu os yw'r label yn dwyn neu'n cynnwys disgrifiad neilltuedig neu rywbeth sy'n deillio o ddisgrifiad neilltuedig neu unrhyw air neu ddisgrifiad sy'n sylweddol debyg i ddisgrifiad neilltuedig onid yw —
a
y bwyd hwnnw'n gynnyrch dynodedig y mae'r disgrifiad neilltuedig yn ymwneud ag ef;
F4b
y disgrifiad hwnnw, neu’r peth hwnnw sy’n deillio ohono neu’r gair hwnnw’n cael eu defnyddio mewn cyd-destun sy’n dangos yn benodol neu’n awgrymu’n glir nad yw’r sylwedd y mae’n cyfeirio ato ond yn un o gynhwysion y bwyd hwnnw;
c
y disgrifiad hwnnw, y peth hwnnw sy’n deillio ohono neu’r gair hwnnw yn cael eu defnyddio mewn cyd-destun sy’n dangos yn benodol neu’n awgrymu’n glir nad yw’r bwyd hwnnw’n gynnyrch dynodedig ac nad yw’n cynnwys cynnyrch dynodedig; neu
ch
bod y disgrifiad hwnnw, y peth hwnnw sy’n deillio ohono neu’r gair hwnnw yn cael eu defnyddio i ddynodi’r bwyd yn unol â’r arferion sy’n gymwys yn y Deyrnas Unedig ac na all y bwyd gael ei ddrysu â chynnyrch a restrir yng ngholofn 1 o Atodlen 1.
Labelu a disgrifio cynhyrchion dynodedigI66
1
Heb ragfarnu F5Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 yn gyffredinol, ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw gynnyrch dynodedig onid yw'r manylion canlynol wedi'u marcio arno neu ar label ynghlwm wrtho —
a
yn ddarostyngedig i baragraffau (2)(a) a (3) isod, ddisgrifiad neilltuedig o'r cynnyrch hwnnw;
b
yn ddarostyngedig i baragraff (2) o reoliad 7, yn achos cynnyrch siocled dynodedig sydd, yn unol â rheoliad 3, yn cynnwys brasterau llysiau heblaw saim coco, ddatganiad amlwg a hawdd ei ddarllen sy'n dweud “contains vegetable fats in addition to cocoa butter”;
c
lle y defnyddir y geiriau “milk chocolate” yn ddisgrifiad neilltuedig neu yn addasiad o'r disgrifiad neilltuedig o gynnyrch siocled dynodedig, dangoser ar y cynnyrch beth yw cynnwys solidau llaeth powdr ar ffurf “milk solids:…% minimum”, ar yr amod —
i
o ran cynnyrch siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitem 4(a) o Atodlen 1, nad yw'r cynnwys solidau llaeth powdr a ddangosir yn llai na 14 y cant; a
ii
o ran cynnyrch siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitem 5 o Atodlen 1, nad yw'r cynnwys solidau llaeth powdr yn llai nag 20 y cant;
ch
yn ddarostyngedig i baragraff (4) isod, yn achos cynnyrch dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitem 2(c), 2(d), 2(e), 3, 4, 5, 8 neu 9 o Atodlen 1, dangoser beth yw cyfanswm cynnwys solidau coco powdr ar ffurf “cocoa solids…% minimum”;
d
yn achos cynnyrch coco a bennir yng ngholofn 2 o eitem 2(b) neu 2(e), dangoser beth yw'r cynnwys saim coco.
2
Pan werthir cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5, 6, 7 a 10 o Atodlen 1 mewn pecyn amrywiaeth —
a
ceir rhoi, yn lle'r disgrifiad neilltuedig, “assorted chocolates” neu “assorted filled chocolates” neu enw tebyg; a
b
caiff y rhestr o gynhwysion y mae'n ofynnol gan F6Erthygl 9(1)(b) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 eu nodi ar fwyd neu ar label bwyd fod yn un rhestr o gynhwysion ar gyfer yr holl gynhyrchion yn y pecyn amrywiaeth.
3
At y disgrifiadau neilltuedig “chocolate”, “milk chocolate” a “couverture chocolate” ceir ychwanegu gwybodaeth neu ddisgrifiadau sy'n ymwneud â meini prawf ansawdd ar yr amod bod y cynnyrch yn cynnwys —
a
yn achos y disgrifiad neilltuedig “chocolate”, dim llai na chyfanswm o 43 y cant o solidau coco powdr, gan gynnwys dim llai na 26 y cant o saim coco;
b
yn achos y disgrifiad neilltuedig “milk chocolate”, dim llai na chyfanswm o 30 y cant o solidau coco powdr a dim llai na 18 y cant o solidau llaeth powdr a gafwyd drwy ddadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl laeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu laeth sgim, neu hufen, neu a gafwyd o hufen, menyn neu fraster llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl, yn cynnwys dim llai na 4.5 y cant o fraster llaeth;
c
yn achos y disgrifiad neilltuedig “couverture chocolate”, dim llai nag 16 y cant o solidau coco powdr di-fraster.
4
Caiff cyfanswm cynnwys solidau coco y mae'n ofynnol gan baragraff (1)(ch) uchod ei nodi ar gynnyrch dynodedig neu ar label y cynnyrch ei gyfrifo ar ôl tynnu i ffwrdd bwysau sylweddau bwytadwy eraill y darparwyd ar eu cyfer yn Nodyn 1 o Atodlen 1 ond heb dynnu i ffwrdd bwysau unrhyw gynhwysyn a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1 yn un o gynhwysion y cynnyrch hwnnw neu bwysau unrhyw fraster llysiau a ychwanegir yn unol â rheoliad 3.
Dull o farcio neu labeluI77
F71
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
2
Bydd yr wybodaeth y mae'n ofynnol gan baragraff (1)(b) o reoliad 6 ei nodi ar gynnyrch siocled dynodedig neu ar ei label —
a
yn yr un maes gwelediad â'r rhestr o gynhwysion y mae'n ofynnol eu nodi ar y cynnyrch neu ei label gan F11Erthygl 9(1)(b) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011;
b
yn gyfan gwbl ar wahân i'r rhestr honno;
c
mewn llythrennau trwm nad ydynt yn llai o faint na'r llythrennau a ddefnyddiwyd ar gyfer y rhestr; ac
ch
wedi'i lleoli yn agos at y disgrifiad neilltuedig, a allai ymddangos hefyd mewn man arall ar yr hyn a farciwyd neu ar y label.
Dulliau o gosbi a gorfodiI88
1
Bydd unrhyw berson sy'n torri neu'n peidio â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 5 neu 6 yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
2
Bydd pob awdurdod bwyd yn gorfodi'r Rheoliadau hyn yn ei ardal ac yn eu gweithredu.
Amddiffyniad mewn cysylltiad ag allforionF1I99
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990I1010
Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni yn cael ei ddehongli at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —
a
adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);
b
adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir bwyd ar gyfer ei fwyta gan bobl);
c
adran 20 (tramgwyddau y mae'r bai amdanynt ar berson arall);
ch
adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf;
d
adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi wrth redeg busnes);
dd
adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
e
adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
f
adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r math a grybwyllir yn yr is-adran fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod;
ff
adran 35(1) (cosbi am dramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod;
g
adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (f) uchod;
ng
adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); a
h
adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Diwygiadau a dirymiadauI1111
F81
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
2
Caiff y cofnodion canlynol sy'n ymwneud â'r Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled 19768 eu hepgor (i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru)
a
yn Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 19829, yn Atodlen 1;
b
yng Ngorchymyn Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Addasiadau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 199010, yn Atodlen 1 Rhan I, Atodlen 2, Atodlen 3 Rhan I ac Atodlenni 6 a 12;
c
yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Allforion) 199111), yn Atodlen 1, Rhan I;
ch
yn Rheoliadau Bwyd (Esemptiadau'r Lluoedd) (Dirymiadau) 199212, yn Atodlen 1 Rhan I;
d
yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 199513), yn Atodlen 9;
F9dd
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
e
yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 199914, yn rheoliad 14(1);
f
yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 200115, yn rheoliad 9(2).
3
Yn Atodlen 9 i Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) caiff y cofnod sy'n ymwneud â Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Diwygio) 198216) ei hepgor.
4
I'r graddau y mae'r Rheoliadau y maent yn ymddangos ynddynt yn gymwys i Gymru, yn lle'r cyfeiriadau canlynol i Gyfarwyddeb 73/241/EEC17 caiff cyfeiriadau at Gyfarwyddeb 2000/36/EC18) eu rhoi —
a
yn Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 199519, yn Atodlen 2;
b
yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 199520, yn Atodlen 3 ac Atodlen 7.
5
Dirymir drwy hyn Reoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled 1976 a Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Diwygio) 1982 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru).
Darpariaeth drosiannolF12I1212
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199821
I17ATODLEN 1CYNHYRCHION COCO A SIOCLED A'U DISGRIFIADAU NEILLTUEDIG
Colofn 1 | Colofn 2 |
|---|---|
Disgrifiadau Neilltuedig | Cynhyrchion Dynodedig |
| Y saim a geir o ffa coco neu rannau o ffa coco y mae iddo'r nodweddion canlynol:—
|
| Y cynnyrch a geir o droi ffa coco sydd wedi'u glanhau, y plisgyn wedi'i dynnu, a'r ffa wedi'u rhostio, yn bowdr ac na yw llai nag 20 y cant o'i gynnwys yn saim coco, wedi'i gyfrifo yn unol â phwysau'r deunydd sych, ac nad yw mwy na 9 y cant ohono'n ddwr. |
| Coco powdr y mae llai nag 20 y cant o'i gynnwys yn saim coco, wedi'i gyfrifo'n unol â phwysau'r deunydd sych. |
| Cynnyrch sy'n gymysgedd o goco powdr a siwgrau, ac nad yw llai na 32 y cant o'i gynnwys yn goco powdr. |
| Cynnyrch sy'n gymysgedd o goco powdr a siwgrau, ac nad yw llai na 25 y cant o'i gynnwys yn goco powdr. |
| Cynnyrch sy'n gymysgedd o goco powdr a bennir yn eitem 2(b) a siwgrau, ac nad yw llai na 25 y cant o'i gynnwys yn goco powdr o'r fath. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
| Cynnyrch a geir o gynhyrchion coco, siwgrau a llaeth neu gynhyrchion llaeth y mae —
|
| Cynnyrch a geir o saim coco, llaeth neu gynhyrchion llaeth a siwgrau ac y mae nid llai nag 20 y cant o'i gynnwys yn saim coco ac nid llai na 14 y cant yn solidau llaeth sych a geir drwy ddadhydradu llaeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu sgim, neu hufen, yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu o hufen, menyn, neu saim llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl, ac y mae nid llai na 3.5 y cant ohono'n saim llaeth. |
| Cynnyrch â llenwad, os cynnyrch a bennir yng ngholof 2 o eitem 3, 4, 5 or 6 o'r Atodlen hon yw'r rhan allanol ohono ac os nad yw'r rhan allanol honno'n fwy na 25 y cant o gyfanswm pwysau'r cynnyrch, ond nid yw'n cynnwys unrhyw gynnyrch â llenwad, os cynhyrchion wedi'u pobi, toes, bisged neu iâ bwytadwy sydd y tu mewn iddo. |
| Cynnyrch a geir o gynhyrchion coco, siwgrau, a blawd neu starts gwenith, reis neu indrawn, nad yw llai na chyfanswm o 35 y cant ohono'n solidau coco sych, ac nid llai na 18 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco ac nid llai na 14 y cant ohono'n solidau coco difraster sych, ac nid mwy nag 8 y cant ohono'n flawd neu'n starts. |
| Cynnyrch a geir o gynhyrchion coco, siwgrau, a blawd neu o starts gwenith, reis neu indrawn, nad yw llai na chyfanswm o 30 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych, ac nid llai na 18 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco ac nid llai na 12 y cant ohono'n solidau coco difraster sych ac nid mwy na 18 y cant yn flawd neu'n starts. |
| Cynnyrch nad yw'n fwy o faint nag un llond ceg ac sy'n cynnwys:—
|
Nodiadau
| |
ATODLEN 2SEIMIAU LLYSIAU A AWDURDODIR
I131
Yn ddarostyngedig i baragraffau canlynol yr Atodlen hon, seimiau sy'n cyfateb i saim coco ac sy'n cydymffurfio â'r meini prawf canlynol, boed hynny wrthynt eu hunain neu'n gyfuniad ohonynt, yw'r seimiau llysiau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3:—
a
seimiau llysiau nad lorel mohonynt, sy'n gyfoethog o ran triglyseridau cymesur monoannirlawn o'r math POP, POSt a StOSt;
b
gellir eu cymysgu ni waeth beth fyddo'u cyfrannau gyda saim coco, ac maent yn gydweddol â'i nodweddion ffisegol (ymdoddbwynt a thymheredd crisialu, cyfradd toddi, yr angen am gyfnod tymheru);
c
fe'u ceir yn unig trwy broses coethi neu broses ffracsiynu, neu'r ddwy, sy'n hepgor addasu'r strwythur triglyserid yn ensymatig.
I142
I gydymffurfio â'r meini prawf a bennir ym mharagraff 1 uchod, ceir defnyddio'r seimiau llysiau canlynol, a geir o'r planhigion a restrir yn y Tabl isod:—
Enw arferol y saim llysiau | Enw gwyddonol y planhigion y gellir cael y seimiau a restrir ohonynt |
|---|---|
| Shorea spp. |
| Elaeis guineensisElaeis olifera |
| Shorea robusta |
| Burtyrospermum parkii |
| Garcinia indica |
| Mangifera indica |
I153
Gellir defnyddio olew cneuen goco mewn siocled ar gyfer cynhyrchu hufen iâ a chynhyrchion tebyg wedi'u rhewi.
I164
Yn yr Atodlen hon —
ystyr “P” yw asid palmitig;
ystyr “O” yw asid oleig;
ystyr “St” yw asid stearig.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Atod. 1 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1