2003 Rhif 3035 (Cy.283)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRUCADWRAETH PYSGOD MÔR

Gorchymyn Rhwydi Pysgota Perdys (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 5(1) a 15(3) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Cadwraeth) 19671, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a dehongli1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rhwydi Pysgota Perdys (Cymru) 2003 a daw i rym ar 30 Tachwedd 2003.

2

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru2.

Dehongli2

1

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “cwch pysgota Prydeinig” (“British fishing boat”) yw cwch pysgota sydd naill ai wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnachol 19953 neu sydd dan berchenogaeth lwyr personau sy'n gymwys i berchenogi llongau Prydeinig at ddibenion y rhan honno o'r Ddeddf honno; ac

  • ystyr “pen y cwd” (“codend”) yw'r rhan olaf un o rwyd, a luniwyd o un neu fwy o baneli yn cynnwys darnau o rwydwe y mae maint ei masgl yr un fath a'r darnau hynny wedi'u cysylltu â'i gilydd ar hyd eu hymylon yn echel hir y rhwyd gan gareiau.

2

At ddibenion y Gorchymyn hwn, rhaid mesur masgl rhwyd neu rwydwe yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2108/1984 ar 23 Gorffennaf 1984 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer penderfynu maint masgl rhwydi pysgota4 ac a ddiwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2550/19975).

Gwahardd pysgota perdys heb dreillrwyd wahanu neu grid didoli3

Gwaherddir cychod pysgota Prydeinig rhag cario na defnyddio rhwyd, y mae mesur ei masgl rhwng 16 a 31 milimetr oni bai fod yr amodau canlynol wedi'u bodloni —

a

bod rhwydwe, y mae ei masgl yn mesur o leiaf ddwywaith mesur pen y cwd a dim mwy na 70 milimetr, wedi ei rhoi ar draws holl drawsdoriad y rhwyd yn y fath fodd —

i

na all pysgod gyrraedd pen y cwd heb yn gyntaf fynd drwy'r rhwydwe; a

ii

bod twll yn y rhwyd y mae'r holl bysgod nad ydynt ym mynd drwy'r rhwydwe yn gallu ffoi drwyddo;

b

bod grid anhyblyg, nad yw'r gofod rhwng ei fariau yn fwy nag 20 milimetr wedi ei roi ar draws holl drawsdoriad y rhwyd yn y fath fodd —

i

na all pysgod gyrraedd pen y cwd heb yn gyntaf fynd drwy'r grid; a

ii

bod twll yn y rhwyd y mae'r holl bysgod nad ydynt ym mynd drwy'r grid yn gallu ffoi drwyddo;

c

na chadwyd unrhyw bysgod ar fwrdd y cwch; neu

ch

os oes unrhyw bysgod wedi'u cadw ar fwrdd y cwch, bod llai na 60% yn ôl pwysau byw cyfanswm yr haldiad a gadwyd yn cynnwys perdys cyffredin (Crangon spp.), perdys Aesop (Pandalus montagui) neu gyfuniad o'r ddau.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig4

1

At ddibenion gorfodi'r Gorchymyn hwn, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota Prydeinig y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo.

2

Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda neu heb bersonau a neilltuwyd i gynorthwyo, a chaiff fynnu bod y cwch yn stopio a gwneud unrhyw beth arall a fyddai'n hwyluso mynd ar fwrdd y cwch.

3

Caiff y swyddog fynnu presenoldeb y meistr ac unrhyw berson arall sydd ar y cwch a chaiff wneud unrhyw archwiliad neu ymholiad sy'n ymddangos iddo ef neu iddi hi yn angenrheidiol at y diben o orfodi'r Gorchymyn hwn, ac yn arbennig —

a

caiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch hwnnw a chyfarpar y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a chaiff fynnu bod personau sydd ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwiliad; a

b

caiff fynnu bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn dangos unrhyw ddogfen ynglŷn â'r cwch, ag unrhyw weithrediadau pysgota neu unrhyw weithrediadau ategol iddynt neu â'r personau sydd ar fwrdd y cwch sydd yng ngwarchodaeth neu feddiant y person hwnnw a chaiff gymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath;

c

er mwyn canfod a yw meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni unrhyw dramgwydd o dan adran 3(5) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967 fel y'i darllenir ynghyd â'r Gorchymyn hwn, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a gall fynnu bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol i hwyluso'r chwilio;

ch

os oes gan y swyddog reswm dros amau fod tramgwydd o'r fath wedi'i gyflawni, caiff gymryd a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a ddangosir iddo neu iddi neu a ddeuir o hyd iddi er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn unrhyw achos ynglŷn â'r tramgwydd;

ond nid yw unrhyw beth yn is-baragraff (ch) uchod yn caniatáu cymryd a chadw unrhyw ddogfen y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch, ac eithrio pan fydd y cwch yn cael ei ddal mewn porthladd.

4

Pan fydd yn ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn wedi'i dorri, caiff y swyddog —

a

fynnu bod meistr y cwch y cyflawnwyd y toriad mewn cysylltiad ag ef yn mynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd sy'n ymddangos i'r swyddog fel y porthladd cyfleus agosaf; a

b

dal, neu fynnu bod y meistr yn dal, y cwch yn y porthladd;

a phan fydd swyddog o'r fath yn dal, neu'n mynnu bod y cwch yn cael ei ddal, rhaid iddo gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig yn datgan y bydd y cwch yn cael ei ddal neu fod angen ei ddal hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19986

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rheoli cario a defnyddio unrhyw rwydi pysgota gyda maint eu masgl rhwng 16 a 31 milimetr, wedi ei fesur yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2108/1984 dyddiedig 23 Gorffennaf 1984. Mae'n nodi'r darpariaethau cenedlaethol y gelwir amdanynt gan Erthygl 25 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 dyddiedig 30 Mawrth 1998, drwy bennu treillrwydi gwahanu a gridiau didoli fel y mathau o ddyfais y mae angen eu defnyddio.

Mae'r Gorchymyn yn gymwys i gychod pysgota Prydeinig yn nyfroedd Cymru ac yn eu gwahardd rhag cario neu ddefnyddio rhwydi o'r fath ac eithrio o dan amgylchiadau penodol (erthygl 3). Mae cymeryd mesurau ar gyfer cadw a rheoli stociau o dan Erthygl 46 o Reoliad y Cyngor 850/98 yn ddarostyngedig i amod fod y mesurau yn gymwys i bysgotwyr yr Aelod-wladwriaeth berthnasol yn unig.

Yr eithriadau penodol yw pan fydd atodiadau a ddiffinir wedi eu rhoi gyda'r rhwyd (erthygl 3(1)(a)-(b)), pan na fydd unrhyw bysgod môr wedi eu dal (erthygl 3(1)(c)) neu pan fydd llai na 60% yn ôl pwysau byw o gyfanswm yr haldiad yn berdys cyffredin neu'n berdys Aesop neu'n gyfuniad o'r ddau, a bod unrhyw bysgod môr a gedwir ar y cwch yn cael eu cadw yn unol ag erthygl 25 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 (erthygl 3(1)(d)).

Pan fydd unrhyw gwch yn torri'r gwaharddiad hwn, bydd y meistr, y perchennog a'r siartrwr yn euog o dramgwydd ac yn agored i ddirwy heb fod yn fwy na £5,000 o'i gollfarnu'n ddiannod, ac o'i gollfarnu ar dditiad i ddirwy (adranau 3(5) ac 11(1)(b) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967). Caiff y llys hefyd osod dirwy ychwanegol heb fod yn fwy na gwerth y pysgod a ddaliwyd â'r rhwyd neu orchymyn fforffedu'r rhwyd (adran 11(2)-(3) o Ddeddf 1967).

Yn ogystal, mae'r Gorchymyn yn rhoi pwerau gorfodi i swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig at ddibenion gorfodi'r Gorchymyn hwn neu unrhyw Orchymyn cyfatebol sy'n gweithredu gwaharddiadau tebyg mewn perthynas ag unrhyw gategorïau o gwch pysgota.

Paratowyd Arfarniad Rheoliadol ac fe'i hadneuwyd yn Llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Polisi Amaethyddiaeth a Physgodfeydd, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.