2003 Rhif 302 (Cy.44)
BWYD, CYMRU

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(2), 17(1), 26(1)(a) a (3), 31 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901, sydd bellach yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru2, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl iddo roi sylw, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar faterion diogelwch bwyd3 ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn

1.

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2003, byddant yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 28 Chwefror 2003.

Diwygiadau i Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998

2.

Diwygir Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 19984) (“y prif Reoliadau”), i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â rheoliadau 3 i 6.

3.

Yn rheoliad 10 (tramgwyddau), yn union ar ôl paragraff (20), ychwanegir y paragraffau canlynol —

“(21)

In any proceedings for an offence under these Regulations, it shall be a defence to prove that —

(a)

the act constituting the offence was committed in relation to a plastic material or article which was manufactured or imported into the European Community before 1st March 2004 and the matter constituting the offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made to them by the provisions specified in paragraph (22) had not been in force at the time that matter occurred; or

(b)

the act constituting the offence was committed in relation to a plastic material or article which was manufactured or imported into the European Community before 1st March 2003, and the matter constituting the offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made to them by regulation 4(a)(i) and (b) (in so far as they relate to the monomer divinylbenzene) and 6 of the Plastic Materials and Articles in Contact with Food (Amendment) (Wales) Regulations 2003 had not been in force at the time that matter occurred.

(22)

The provisions referred to in paragraph (21)(a) of this regulation are the provisions of the Plastic Materials and Articles in Contact with Food (Amendment) (Wales) Regulations 2003, except in so far as they relate to the monomer divinylbenzene.”.

4.

Yn Atodlen 1 (monomerau a awdurdodwyd heb derfyn amser, monomerau a awdurdodwyd hyd at ddiwedd 2001, monomerau a awdurdodwyd hyd at ddiwedd 1998 ac ategolion) —

(a)

yn Adran A o Ran 1 —

(i)

yn achos pob monomer a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn, mewnosodir Rhif yr eitem, y Rhif PM/REF, y Rhif CAS, yr enw a'r cyfyngiad neu'r fanyleb a bennir ar gyfer y monomer hwnnw yn y Rhan honno yn man Rhif ol priodol ar gyfer Rhif yr eitem honno,

(ii)

yn achos pob monomer a enwir yn ail golofn Rhan II o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn, yn lle Rhif yr eitem ar gyfer y monomer hwnnw a bennir gyferbyn ag ef yn y golofn sy'n dwyn y pennawd “Item” rhoddir Rhif yr eitem ar ei gyfer a bennir yng ngholofn gyntaf (eitem) y Rhan honno,

(iii)

yn achos y monomer Bis (4-isocyanatoseiclohecsyl) methan (eitem 43), yn lle'r cofnod ar gyfer y monomer hwnnw a bennir yng ngholofn 1 (Rhif /PM/REF) rhoddir y cofnod “13560”, a

(iv)

yn achos pob monomer a enwir yng ngholofn gyntaf Rhan III o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn, yn lle'r cofnod ar gyfer y monomer hwnnw a bennir gyferbyn ag ef yng ngholofn 4 (cyfyngiadau a manylebau) rhoddir y cofnod ar ei gyfer a bennir yn ail golofn (cyfyngiadau a manylebau) y Rhan honno;

(b)

yn Adran B o Ran 1, dilëir yr holl gofnodion ar gyfer y monomerau a enwir yn Rhan IV o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn; ac

(c)

yn Rhan II, ar ddiwedd paragraff 4 mewnosodir y darpariaethau canlynol —

“(22)

SML(T) in this case means that the restriction shall not be exceeded by the sum of the migration levels of the substances having PM/REF/Nos. 13620, 36840, 40320 and 87040.

(23)

SML(T) in this case means that the restriction shall not be exceeded by the sum of the migration levels of the substances having PM/REF/Nos. 13720 and 40580.

(24)

SML(T) in this case means that the restriction shall not be exceeded by the sum of the migration levels of the substances having PM/REF/Nos. 16650 and 51570.

(25)

QM(T) in this case means that the restriction shall not be exceeded by the sum of the residual quantities of the substances having PM/REF/Nos. 14950, 15700, 16240, 16570, 16600, 16630, 18640, 19110, 22332, 22420, 22570, 25210, 25240 and 25270.”.

5.

Yn Atodlen 2 (ychwanegion ac ategolion) —

(a)

yn Rhan I —

(i)

yn achos pob ychwanegyn a restrir yn Rhan I o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, mewnosodir Rhif yr eitem, y Rhif PM/REF, y Rhif CAS, yr enw a'r cyfyngiad neu'r fanyleb a bennir ar gyfer yr ychwanegyn hwnnw yn y Rhan honno yn y man Rhif ol priodol ar gyfer Rhif yr eitem honno,

(ii)

yn achos yr ychwanegyn Bis (polyethylenglycol) ydrocsymethylffosffonad, mewnosodir yng ngholofn 2 (Rhif CAS) y cofnod “68951 — 50 — 8”, a

(iii)

yn achos yr ychwanegyn a enwir yng ngholofn gyntaf Rhan II o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, yn lle'r cofnod ar gyfer yr ychwanegyn a bennir gyferbyn ag ef yng ngholofn 4 (cyfyngiadau a manylebau) rhoddir y cofnod ar ei gyfer a bennir yn ail golofn (cyfyngiadau a manylebau) y Rhan honno; a

(b)

yn Rhan II —

(i)

yn achos pob ychwanegyn a restrir yn Rhan III o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, mewnosodir Rhif yr eitem, y Rhif PM/REF, y Rhif CAS, yr enw a'r cyfyngiad neu'r fanyleb a bennir ar gyfer yr ychwanegyn hwnnw yn y Rhan honno yn y man Rhif ol priodol ar gyfer Rhif yr eitem honno, a

(ii)

yn achos pob ychwanegyn a enwir yng ngholofn gyntaf Rhan IV o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, yn lle'r cofnod ar gyfer yr ychwanegyn hwnnw a bennir gyferbyn ag ef yng ngholofn 4 (cyfyngiadau a manylebau) rhoddir y cofnod ar ei gyfer a bennir yn ail golofn (cyfyngiadau a manylebau) y Rhan honno; ac

(c)

yn Rhan III —

(i)

yn nodyn (11) o baragraff 4, ar ôl y ffigur “36800” mewnosodir y ffigur “, 36840”, a

(ii)

ar ddiwedd y paragraff hwnnw ychwanegir y darpariaethau canlynol —

“(22)

SML(T) in this case means that the restriction shall not be exceeded by the sum of the migration levels of the substances having PM/REF/Nos. 13620, 36840, 40320 and 87040.

(23)

SML(T) in this case means that the restriction shall not be exceeded by the sum of the migration levels of the substances having PM/REF/Nos. 13720 and 40580.

(24)

SML(T) in this case means that the restriction shall not be exceeded by the sum of the migration levels of the substances having PM/REF/Nos. 16650 and 51570.”.

6.

Yn Atodlen 2B (manylebau) yn achos y sylwedd a bennir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn, mewnosodir Rhif yr eitem, y Rhif PM/REF, a'r fanyleb a nodir ar gyfer y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno yn man Rhif ol priodol ar gyfer Rhif a llythyren yr eitem honno.

Diwygiad i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990

7.

Yn Atodlen 1 i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 19905 (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hynny'n gymwys iddynt) diwygir y cyfeiriad yn yr ail golofn, gyferbyn â'r cofnod yn y golofn gyntaf ynglŷn â Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998, mewn perthynas â Chymru i ddarllen “S.I. 1998/1376 as amended by S.I. 2001/1263 (Cy.70) S.I. 2002/2834 (Cy.272) and S.I. 2003/302 (Cy.44)”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19986.
Rhodri Morgan
Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol

ATODLEN 1

Rheoliad 4(a)(i), (ii) a (iv) a (b)

RHAN IRHESTR O FONOMERAU I'W HYCHWANEGU AT ADRAN 1 O ATODLEN 1 I'R PRIF REOLIADAU

Item

PM/REF No.

CAS No.

Name

Restrictions and specifications

33B

13075

00091-76-9

Benzoguanamine

see “2,4-Diamino-6-Phenyl-1,3,5-Triazine”

47B

13620

10043--35-3

Boric acid

SML(T) — 6 mg/kg (22) (expressed as boron) without prejudice to the provisions of Directive 98/83/EC on water for human consumption7.

49A

13720

00110-63-4

1,4-Butanediol

SML(T) = 0.05 mg/kg (23)

76A

15310

00091-76-9

2,4-Diamino-6-phenyl-1,3,5-triazine

QMA = 5 mg/6 dm2

92A

16650

00127-63-9

Diphenyl sulphone

SML(T) = 3 mg/kg (24)

93A

16690

01321-74-0

Divinylbenzene

QMA = 0.01 mg/6 dm2 of SML = ND (DL = 0.02 mg/kg, analytical tolerance included) for the sum of divinylbenzene and ethylvinylbenzene and in compliance with the specifications laid down in Schedule 2B.

93C

16697

00693-23-2

n-Dodecanedioic Acid

120A

18897

16712-64-4

6-Hydroxy-2-naphthalenecarboxylic acid

SML = 0.05 mg/kg

120B

18898

103-90-2

N-(4-Hydroxyphenyl)acetamide

Only to be used in liquid crystals and behind a barrier layer in multi-layered plastics.

147B

22332

28679-16-5

Mixture of (40% w/w) 2,2,4-trimethylhexane-1,6-diisocyanate and (60% w/w) 2,4,4-trimethylhexane-1,6-diisocyanate

QM(T) = 1 mg/kg (expressed as NCO) (25)

217A

25840

03290-92-4

1,1,1-trimethylolpropane trimethacrylate

SML = 0.05 mg/kg

RHAN IIRHESTR O FONOMERAU Y MAE'R COFNOD AMDANYNT A GYNHWYSIR YNG NGHOLOFN GYNTAF (EITEM) ADRAN A O RAN 1 O ATODLEN 1 I'R PRIF REOLIADAU I'W DDIWYGIO

49B

1,4-Butanediol bis(2.3-epoxypropyl)ether

49C

1,4-Butanediol formal

76B

1,6-Diamino-2,2,4-trimethylhexane

76C

1,6-Diamino-2,4,4-trimethylhexane

93B

N,N'-Divinyl-2-imidazolidone

93D

1-Dodecene

217B

Trioxane

RHAN IIIRHESTR O FONOMERAU Y MAE'R COFNOD AMDANYNT A GYNHWYSIR YNG NGHOLOFN 4 (CYFYNGIADAU) O ADRAN A O RAN I O ATODLEN 1 I'R PRIF REOLIADAU I'W DDIWYGIO

Name

Restrictions and specifications

Chlorotrifluoroethylene

QMA = 0.5 mg/6 dm2

Cyclohexyl isocyanate

QM(T ) = 1 mg/kg (expressed as NCO) (25)QM(T ) = 1 mg/kg (expressed as NCO) (25)

Dicyclohexylmethane-4,4'-diisocyanate

QM(T ) = 1 mg/kg (expressed as NCO) (25)

3,3'-Dimethyl-4,4'-diisocyanatobiphenyl

QM(T ) = 1 mg/kg (expressed as NCO) (25)

Diphenylether-4,4'-diisocyanate

QM(T ) = 1 mg/kg (expressed as NCO) (25)

Diphenylmethane-2,4'-diisocyanate

QM(T ) = 1 mg/kg (expressed as NCO) (25)

Diphenylmethane-4,4'-diisocyanate

QM(T ) = 1 mg/kg (expressed as NCO) (25)

Hexamethylene dissocyanate

QM(T ) = 1 mg/kg (expressed as NCO) (25)

1-isocyanato-3-isocyanatomethyl-3,5,5-trimethylcyclohexane

QM(T ) = 1 mg/kg (expressed as NCO) (25)

1,5-Naphthalene diisocyanate

QM(T ) = 1 mg/kg (expressed as NCO) (25)

Octadecyl isocyanate

QM(T ) = 1 mg/kg (expressed as NCO) (25)

2,4-Toluene diisocyanate

QM(T ) = 1 mg/kg (expressed as NCO) (25)

2,6-Toluene diisocyanate

QM(T ) = 1 mg/kg (expressed as NCO) (25)

2,4-Toluene diisocyanate dimer

QM(T ) = 1 mg/kg (expressed as NCO) (25)

RHAN IVRHESTR O FONOMERAU Y MAE'R HOLL GOFNODION AMDANYNT A GYNHWYSIR YN ADRAN B O RAN I O ATODLEN 1 I'R PRIF REOLIADAU I'W DILEU

  • Benzoguanamine

  • 1,4-Butanediol

  • 2,4-Diamino-6-phenyl-1,3,5-triazine

  • Divinylbenzene

  • n-Dodecanedioic acid

  • 1,1,1-Trimethylolpropane trimethacrylate

ATODLEN 2

Rheoliad 5(a)(I) a (iii) a (b)

RHAN IRHESTR O YCHWANEGION I'W HYCHWANEGU AT RAN I O ATODLEN 2 I'R PRIF REOLIADAU

Item

PM/REF No.

CAS No.

Name

Restrictions and specifications

27b

36840

12007-55-5

Barium tetraborate

SML(T) = 1 mg/kg expressed as barium (11) and SML(T) = 6 mg/kg (22) (expressed as boron) without prejudice to the provisions of Directive 98/83/EC on water for human consumption.

38C

40320

10043-35-3

Boric acid

SML(T) = 6 mg/kg (22) (expressed as boron) without prejudice to the provisions of Directive 98/83/EC on water for human consumption.

40A

40580

00110-63-4

1,4-Butanediol

SML(T) = 0.05 mg/kg (23)

188B

71670

178671-58-4

Pentaerythritol tetrakis (2-cyano-3,3-diphenylacrylate)

SML(T) = 0.05 mg/kg

246A

87040

01330-43-4

Sodium tetraborate

SML(T) = 6 mg/kg (22) (expressed as boron) without prejudice to the provisions of Directive 98/83/EC on water for human consumption.

RHAN IIYCHWANEGYN Y MAE'R COFNOD AMDANO A GYNHWYSIR YNG NGHOLOFN 4 (CYFYNGIADAU A MANYLEBAU) O RAN I O ATODLEN 2 I'R PRIF REOLIADAU I'W DDIWYGIO

Name

Restrictions and specifications

Bis(polyethyleneglycol) hydroxymethylphosphonate

SML = 0.6 mg/kg

RHAN IIIRHESTR O YCHWANEGION I'W HYCHWANEGU AT RAN II O ATODLEN 2 I'R PRIF REOLIADAU

Item

PM/REF No

CAS No

Name

Restrictions and specifications

27A

45650

6197-30-4

2-Cyano-3,3-diphenylacrylic acid, 2-ethylhexyl ester

SML = 0.05 mg/kg

82A

68860

04724-48-5

n-Octylphosphonic acid

SML = 0.05 mg/kg

111A

95000

28931-67-1

Trimethylolpropane trimethacrylate-methyl methacrylate copolymer

RHAN IVRHESTR O YCHWANEGION Y MAE'R COFNOD AMDANYNT A GYNHWYSIR YNG NGHOLOFN 4 (CYFYNGIADAU A MANYLEBAU) O RAN II O ATODLEN 2 I'R PRIF REOLIADAU I'W DDIWYGIO

Name

Restrictions and specifications

N,N-bis(2-hydroxyethyl)alkyl (C8-C18) amine hydrochlorides

SML(T) = 1.2 mg/kg (12) expressed as territory amine (expressed excluding HCl)

Diphenyl sulphone

SML(T) = 3 mg/kg (24)

ATODLEN 3SYLWEDD I'W YCHWANEGU AT ATODLEN 2B I'R PRIF REOLIADAU

RHEOLIAD 6

Item

PM/REF No.

Specifications

1

16690

Divinylbenzene — must not contain more than 40% ethylvinylbenzene

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
1.

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio am y trydydd tro Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998 (O.S. 1998/1376, “Rheoliadau 1998”), i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/17/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 90/128/EEC ynghylch deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif L58, 28.2.2002, t.19), ac eithrio paragraff 1(a) o'r Atodiad a pharagraff 2(a)(ii) o'r Atodiad i'r graddau y mae Cyfarwyddeb 90/128/EEC yn ymwneud ag ychwanegion bensaldehyd a chamffor. Rhoddwyd y paragraffau hyn ar waith gan Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2834 (Cy. 272)).

2.

Mae'r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau 1998 drwy wneud y canlynol —

(a)

ychwanegu darpariaeth drosiannol ynglŷn ag achos sy'n cael ei ddwyn am dramgwydd odanynt (rheoliad 3);

(b)

ychwanegu sylweddau newydd at y rhestr o fonomerau y caniateir eu defnyddio wrth weithgynhyrchu deunyddiau neu eitemau plastig a diwygio'r defnydd ar fonomerau penodol sy'n cael eu defnyddio mewn gweithgynhyrchu o'r fath (rheoliad 4);

(c)

ychwanegu sylweddau newydd at y rhestr anghynhwysfawr o ychwanegion sy'n cael eu defnyddio wrth weithgynhyrchu deunyddiau neu eitemau plastig a diwygio'r defnydd ar ychwanegion penodol sy'n cael eu defnyddio mewn gweithgynhyrchu o'r fath (rheoliad 5);

(ch)

ychwanegu sylweddau penodol at y rhestr o sylweddau y nodir manylion amdanynt yn Atodlen 2B i Reoliadau 1998 (rheoliad 6); a

(d)

gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990 (rheoliad 7).