2003 Rhif 302 (Cy.44)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(2), 17(1), 26(1)(a) a (3), 31 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901, sydd bellach yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru2, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl iddo roi sylw, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar faterion diogelwch bwyd3 ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: