- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
13 Chwefror 2003
Yn dod i rym
1 Mawrth 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 38, 39, 78(1), 126(4), 127 a 128(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 1 Mawrth 2003.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(2).
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Yn rheoliad 9 o'r prif Reoliadau (dyroddi talebau gan ymarferwyr meddygol offthalmig neu optegwyr ) —
(a)ar ôl paragraff (1B), mewnosodwch y paragraff canlynol—
“(1C) Where a patient has indicated—
(a)that he is an eligible person by virtue of regulation 8(2)(a) or (b); and
(b)that he requires an additional optical appliance of the same prescription because either—
(i)he is suffering from illness and as a consequence of that illness requires such an appliance, or
(ii)the issue of such an appliance is required as a result of his exceptional circumstances,
the ophthalmic medical practitioner or optician may issue to the patient, in accordance with paragraph (2) but subject to paragraph (5), a voucher relating to the optical appliance prescribed by the prescription.”;
(b)yn lle paragraff (5) rhowch y paragraff canlynol—
“(5) No voucher shall be issued as provided for by paragraph (1C) unless the responsible authority is satisfied, after making such enquiries as it considers relevant, that the patient’s requirement for an additional optical appliance of the same prescription arose as a consequence of the patient’s illness, or for such other reason that it accepts as being exceptional in the circumstances of the patient’s case.”
(c)ar ôl paragraff (5) mewnosodwch y paragraff canlynol—
“(6) Unless paragraph (1A), (1C) or regulation 11 applies, not more than one voucher shall be issued to a patient in respect of any one optical appliance prescribed.”.
3. Diwygir rheoliad 12 o'r prif Reoliadau (defnyddio talebau i gyflenwi cyfarpar optegol)—
(a)ar ôl is-baragraff (b) o baragraff (4), mewnosodwch yr is-baragraff canlynol—
“(c)in a case where regulation 9(1C) applies, a declaration that an additional optical appliance of the same prescription is required either as a consequence of his illness, or as a result of his exceptional circumstances.”;
(b)ar ôl paragraff (5) mewnosodwch y paragraff canlynol—
“(6) In a case where regulation 9(1C) applies, a supplier intending to use a voucher in accordance with paragraph (2) shall first submit it to the responsible authority so that it may be satisfied as to the requirement of an additional optical appliance and give its approval to the use of the voucher.”.
4. Yn rheoliad 13 o'r prif Reoliadau (taliadau i gyflenwyr), ar ôl paragraff (2)(c)(iv) mewnosodwch yr is-baragraff canlynol—
“(v)where the claim relates to a voucher issued in accordance with regulation 9(1C), obtained any prior approval required by regulation 12(6).”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
Rhodri Morgan
Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol
13 Chwefror 2002
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“y prif Reoliadau”).
Mae'r prif Reoliadau yn darparu ar gyfer cynllun taliadau i'w gwneud gan yr Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG drwy gyfrwng system dalebau mewn perthynas â chostau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio cyfarpar optegol.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i awdurdod cyfrifol roi caniatâd i ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd ddyroddi taleb i alluogi cyfarpar optegol ychwanegol o'r un presgripsiwn i gael ei ddarparu i berson cymwys o fewn y categori a ragnodwyd.
Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 9 o'r prif Reoliadau sy'n darparu y caiff taleb ar gyfer cyfarpar optegol ychwanegol ei hawdurdodi gan yr awdurdod cyfrifol (hynny yw, yr awdurdod iechyd ar gyfer yr ardal lle bydd cyflenwi'r cyfarpar optegol yn digwydd) mewn achosion lle mae'r claf yn blentyn neu'n berson o dan 19 oed sy'n cael addysg amser-llawn ac sydd, yn y naill achos neu'r llall, yn dioddef gan salwch, y mae un o'i ganlyniadau yn golygu bod angen cyflenwi cyfarpar optegol ychwanegol o'r un presgripsiwn, neu y mae ei angen yn deillio o amgylchiadau y mae'r awdurdod cyfrifol yn derbyn eu bod yn eithriadol.
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 12 o'r prif Reoliadau sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn sydd i'w mabwysiadu mewn achosion pan fydd hawl i daleb am gyfarpar ychwanegol yn cael ei hawlio.
Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 13 o'r prif Reoliadau i wneud darpariaeth i'r weithdrefn gael ei mabwysiadu i alluogi cyflenwr cyfarpar optegol ychwanegol i gael taliad gan yr awdurdod iechyd cyfrifol.
1977 p.49 (“Deddf 1977”); gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”), adran 26(2)(g) ac (i) i gael y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.
Diwygiwyd adran 38 gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) (“Deddf 1980”), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 51; gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) (“Deddf 1984”), adran 1(3); gan O.S.1985/39, erthygl 7(11); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) (“Deddf 1988”), adran 13(1); a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) (“Deddf 1995”), Atodlen 1, paragraff 27.
Cafodd adran 39 ei hestyn gan Ddeddf 1988, adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf 1980, adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 52, gan Ddeddf 1984, adran 1(4) ac Atodlen 1, paragraff 1 ac Atodlen 8; gan O.S.1985/39, erthygl 7(12); a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 28.
Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990 adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) (“Deddf 1999”), Atodlen 4, paragraff 37(6).
Amnewidiwyd paragraff 2(1) o Atodlen 12 gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988, Atodlen 2, paragraff 8(1).
Cafodd paragraff 2A o Atodlen 12 ei fewnosod gan Ddeddf 1984, Atodlen 1, paragraff 3 a'i ddiwygio gan adran 13(2) a (3) o Ddeddf 1988.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 38, 39, 78(1), 126(4), 127 a 128(1) o Ddeddf 1977, a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: