Mae adran 87(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 yn rhoi'r pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) wneud rheoliadau sy'n gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â Chymru, mewn perthynas ag asesu neu reoli ansawdd aer.
Rhoddodd Rheoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) 1997 (“Rheoliadau 1997”), a wnaed o dan y pŵer uchod, hawl i rai awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban (“awdurdodau sy'n cymryd rhan”) i ddyroddi hysbysiadau cosb benodedig i ddefnyddwyr cerbydau o fewn eu hardaloedd a oedd wedi torri neu'n methu â chydymffurfio â rheoliad 61, 61A neu 98 o Reoliadau Cerbydau Ffyrdd (Eu Hadeiladwaith a'u Defnydd) 1986 (“Rheoliadau 1986”). Mae rheoliadau 61 a 61A o Reoliadau 1986 yn ymwneud ag allyriadau mwg, anwedd, nwyon, sylweddau olewog, a.y.y.b. Mae rheoliad 98 o Reoliadau 1986 yn ei gwneud hi'n ofynnol i beiriannau cerbydau gael eu diffodd pan nad yw'r cerbydau yn symud (heblaw am resymau sy'n ymwneud â thraffig a.y.y.b.). Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau 1977, mewn perthynas â Chymru.
O dan y Rheoliadau hyn gall awdurdod lleol yng Nghymru y mae ei ardal yn cynnwys ardal a ddynodwyd o dan adran 83 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 fel ardal rheoli ansawdd aer wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol i gael ei ddynodi o dan y Rheoliadau hyn. Gall awdurdod lleol a ddynodwyd felly ddefnyddio, mewn perthynas ag ardal rheoli ansawdd aer, hysbysion cosbau penodedig i gosbi tramgwyddau o dan reoliadau 61, 61A o Reoliadau 1986 a thramgwyddau o dan reoliad 98 o'r Rheoliadau hynny sy'n ymwneud ag allyriadau nwyon llosg.
Yn Rhan 1 o'r Rheoliadau hyn, mae rheoliad 2 yn diffinio'r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau.
Yn Rhan 2, mae rheoliad 3 yn pennu'r amgylchiadau pan y gellir gwneud cais am ddynodiad, a'r dogfennau y dylid eu cyflwyno law yn llaw â'r cais. Mae rheoliad 4 yn nodi'r meini prawf ar gyfer dynodiad a rheoliad 5 yn darparu ar gyfer diddymu dynodiadau.
Yn Rhan 3, mae rheoliad 6 yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud ag awdurdodi personau i gynnal profion allyriadau ar gerbydau, er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â diffodd peiriannau cerbydau llonydd ac i ddyroddi hysbysiadau cosb benodedig.
Yn Rhan 4, mae rheoliad 7 yn rhagnodi dau dramgwydd o dan Reoliadau 1986 fel cosbau penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn. Mae'r cyntaf yn cael ei briodoli i reoliadau 61 a 61A o Reoliadau 1986, ac mae iddo gosb benodedig o £60 o dan reoliad 8. Mae'r ail yn cael ei briodoli i'r hynny o reoliad 98 o Reoliadau 1986 sy'n delio ag atal allyriadau nwyon llosg, ac mae i'r dramgwydd hwnnw gosb benodedig o £20 o dan reoliad 8. (Gellir cynyddu'r symiau yn unol â rheoliad 17, neu eu gostwng neu eu hepgor yn unol â rheoliad 19.).
Mae rhan 5 yn cynnwys darpariaethau (rheoliadau 9 i 11) sy'n rhoi pŵer i gynnal profion allyriadau ac i ddelio â materion eraill sy'n berthnasol i'r cyntaf o'r tramgwyddau cosb benodedig.
Mae Rhan 6 yn cynnwys darpariaethau (rheoliadau 12 i 14) sy'n rhoi pŵer i ddiffodd peiriant cerbyd llonydd ac i ddelio â materion eraill sy'n berthnasol i'r ail o'r tramgwyddau cosbau penodedig.
Yn Rhan 7, mae rheoliadau 15 ac 16 yn darparu ar gyfer amseru dyroddi'r hysbysiadau cosb benodedig a'u cynnwys. Mae rheoliad 17 yn delio ag effaith hysbysiadau cosb benodedig, ac yn darparu ar gyfer cynyddu'r gosb pan na chaiff taliad ei wneud yn unol â'r hysbysiad. Mae rheoliad 18 yn galluogi person y mae hysbysiad cosb benodedig wedi'i ddyroddi iddo i ofyn am wrandawiad mewn perthynas â'r tramgwydd y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef. Mae rheoliad 19 yn darparu ar gyfer gwneud cais i ostwng swm cosb benodedig neu ei hepgor yn llwyr. Mae rheoliad 20 yn delio â thynnu hysbysiadau cosbau penodedig yn ôl.
Yn Rhan 8, mae rheoliadau 21 a 22 yn delio â chasglu cosbau penodedig nad ydynt wedi'u talu ac mae rheoliad 23 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â dyroddi hysbysiadau o dan y Rheoliadau. Mae rheoliad 25 yn diddymu Rheoliadau 1997 mewn perthynas â Chymru.