2003 Rhif 2963 (Cy.280)
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol) (Pensiynau) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 18(3A), 3(D) a 3(G) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 19891 ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 19992 i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru:
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol) (Pensiynau) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2004.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “aelodau” (“members”) yw cynghorwyr awdurdod gan gynnwys maer etholedig awdurdod sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth gwahanol ar ffurf sy'n cynnwys maer etholedig;
ystyr “awdurdod” (“authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “lwfansau cyfrifoldeb arbennig” (“special responsibility allowances” ) yw lwfansau fel y'u diffinnir yn rheoliad 8 o Reoliadau 2002;
ystyr “lwfansau sylfaenol” (“basic allowances”) yw lwfansau fel y'u diffinnir yn rheoliad 7 o Reoliadau 2002;
ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) (Cymru) 20023.
Pensiynau3
1
Caiff awdurdod —
a
penderfynu pa aelodau o'r awdurdod sydd â'r hawl i bensiynau yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol 19974; a
b
darparu mewn perthynas â'r aelodau hynny y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (a) fod lwfansau sylfaenol a lwfansau cyfrifoldeb arbennig yn cael eu trin fel symiau y mae pensiynau yn daladwy mewn perthynas â hwy.
2
Rhaid i awdurdod, wrth iddo wneud unrhyw benderfyniad yn unol â'r rheoliad hwn, wneud hynny yn unig ar gyfer aelod sydd wedi'i gymeradwyo'n gyntaf gan Banel Taliadau Annibynnol Cymru fel un sy'n gymwys i gael hawl o'r fath, o dan reoliad 5.
Panel Taliadau Annibynnol Cymru4
1
Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru benodi panel taliadau annibynnol dros dro, a elwir Panel Taliadau Annibynnol Cymru yn unol â'r Rheoliad hwn ar gyfer pob awdurdod.
2
Rhaid i Banel Taliadau Annibynnol Cymru fodoli am gyfnod o chwe mis gan ddechrau o ddyddiad ei sefydlu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
3
Rhaid i Banel Taliadau Annibynnol Cymru gynnwys o leiaf dri aelod a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan gynnwys un aelod a benodwyd yn gadeirydd.
4
Ni chaiff unrhyw un o'r aelodau a benodir yn unol â pharagraff (3) fod —
a
yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Ty'r Cyffredin, Ty'r Arglwyddi, Senedd Ewrop, awdurdod, cyngor tref neu gyngor cymuned; neu
b
wedi'i anghymhwyso5 rhag bod neu ddod yn aelod o awdurdod ac eithrio fel swyddog sy'n cael ei gyflogi gan awdurdod lleol.
5
Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru dalu'r treuliau y mae Panel Taliadau Annibynnol Cymru yn eu tynnu wrth gyflawni ei swyddogaethau a chaiff dalu aelodau'r panel y lwfansau neu'r treuliau y bydd yn penderfynu arnynt.
6
Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drefnu bod cymorth gweinyddol priodol ar gael i Banel Taliadau Annibynnol Cymru.
Argymhellion Panel Taliadau Annibynnol Cymru5
1
Rhaid i Banel Taliadau Annibynnol Cymru lunio adroddiad mewn perthynas â phob awdurdod, gan gyflwyno argymhellion ynghylch pa aelodau awdurdod a ddylai gael hawl i bensiynau yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol 1997.
2
Caiff Panel Taliadau Annibynnol Cymru, wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan baragraff (1), ofyn i unrhyw gorff neu berson am wybodaeth neu gyngor.
3
Caiff Panel Taliadau Annibynnol Cymru gyflwyno gwahanol argymhellion ynglyn â phob un o'r awdurdodau y mae'n arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â hwy.
Cyhoeddusrwydd ar gyfer argymhellion Panel Taliadau Annibynnol Cymru6
1
Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru anfon copi o'r adroddiad a wneir o dan reoliad 5(1) i bob awdurdod cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael yr adroddiad.
2
Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru:
a
cyhoeddi'r manylion am yr adroddiad a wneir o dan reoliad 5(1) mewn un neu ragor o bapurau newydd sy'n cylchredeg ledled Cymru; a
b
cynnwys yn y cyhoeddiad o dan is-baragraff (a) ddatganiad y bydd copïau o'r adroddiad ar gael i aelodau'r cyhoedd ym mhrif swyddfeydd yr awdurdodau ar yr adegau a bennir gan yr awdurdodau hynny.
3
Rhaid i bob awdurdod sicrhau bod y canlynol yn cael ei wneud cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael adroddiad Panel Taliadau Annibynnol Cymru o dan reoliad 5(1):
a
bod copïau ar gael i'w harchwilio gan aelodau'r cyhoedd ym mhrif swyddfa'r awdurdod ar yr adegau rhesymol a bennir gan yr awdurdod; a
b
bod copi yn cael ei ddarparu i unrhyw berson sy'n gofyn amdano ac sy'n talu i'r awdurdod y ffi resymol y bydd yr awdurdod yn penderfynu arni.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19986
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)