2003 Rhif 2962 (Cy.279)
Rheoliadau Addysg (Fforymau Derbyn) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Fforymau Derbyn) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2003.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “aelodau craidd” (“core members”) yw aelodau fforwm a benodir o dan reoliad 5(1)(a);
“aelodau eraill” (“other members”) yw aelodau fforwm a benodir o dan reoliad 5(1)(b);
ystyr “awdurdod” (“authority”) mewn perthynas â fforwm neu sefydlu fforwm yw'r awdurdod addysg lleol dros yr ardal y mae'r fforwm wedi'i sefydlu neu i'w sefydlu ar ei chyfer;
ystyr “cynrychiolydd sy'n rhiant-lywodraethwr” (“parent governor representative”) yw person a etholir neu benodir fel rhiant-lywodraethwr yn unol â Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) 19993;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
ystyr “fforwm” (“forum”) yw fforwm derbyn a sefydlir yn unol â'r Rheoliadau hyn;
ystyr “grŵ p oedran perthnasol” (“relevant age group”) mewn perthynas â ysgol, yw grŵ p oedran pan yw disgyblion (neu pan fydd disgyblion, yn ôl y digwydd) fel arfer yn cael eu derbyn i'r ysgol;
dehonglir “grŵ p o ysgolion” (“school group”) yn unol â rheoliad 4;
ystyr “ysgrifennydd” (“secretary”) yw ysgrifennydd fforwm a benodir o dan reoliad 8.
Rôl fforwm3
1
Rôl fforwm yw —
a
ystyried pa mor dda y mae'r trefniadau derbyn presennol ac arfaethedig yn gwasanaethu buddiannau plant a'u rhieni o fewn ardal yr awdurdod;
b
hybu cytundeb ar faterion derbyn;
c
ystyried pa mor gynhwysfawr a hygyrch yw'r llenyddiaeth a'r wybodaeth dderbyn i rieni, a gyhoeddir gan bob awdurdod derbyn o fewn ardal y fforwm;
ch
ystyried effeithiolrwydd unrhyw gyd-drefniadau derbyn arfaethedig;
d
ystyried pa fodd y gellir gwella'r prosesau derbyn a sut y mae'r derbyniadau gwirioneddol yn cyfateb i'r nifer derbyniadau a gyhoeddir;
dd
monitro derbyn plant sy'n cyrraedd ardal yr awdurdod y tu allan i'r cylch derbyn arferol gyda'r bwriad o hybu trefniadau dros ddosbarthu'r plant yn deg ymysg yr ysgolion lleol, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw hoff ddewis a fynegir yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 86(1) o'r Ddeddf;
e
hybu trefniadau derbyn effeithiol ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig, plant sy'n derbyn gofal a phlant a waharddwyd o'r ysgol; ac
f
i'r graddau na chynhwysir hwy yn is-baragraffau (a) i (e), ystyried unrhyw faterion derbyn sy'n codi.
2
At ddibenion y rheoliad hwn —
a
mae plentyn i'w drin fel pe bai wedi cyrraedd y tu allan i gylch derbyn arferol os digwydd y canlynol —
i
ar yr adeg pan fydd y plentyn yn cyrraedd ardal yr awdurdod nid yw'r plentyn yn dod o fewn grŵ p oedran perthnasol; neu
ii
mae'r plentyn yn dod o fewn grŵ p oedran perthnasol ond mae unrhyw gais i'w dderbyn i ysgol i gael ei ystyried ar ôl yr adeg y mae'r awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgol o dan sylw wedi penderfynu, yn unol â threfniadau derbyn yr ysgol, pa blant yn y grŵ p oedran hwnnw sydd i'w derbyn i'r ysgol;
b
mae i'r cyfeiriad at “plant sy'n derbyn gofal” yr ystyr a roddir i “looked after children” yn adran 22 o Ddeddf Plant 19894.
Grwpiau o ysgolion4
1
At ddibenion y Rheoliadau hyn rhaid rhannu ysgolion yn grwpiau fel a ganlyn —
a
ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir;
b
ysgolion gwirfoddol a gynorthwir;
c
ysgolion sefydledig.
2
Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn mewn perthynas ag awdurdod at grŵ p o ysgolion yn gyfeiriad at un o'r grwpiau o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod fel a bennir ym mharagraff (1).
Aelodaeth fforwm a phresenoldeb5
1
Rhaid i'r fforwm gynnwys —
a
aelodau craidd a benodwyd gan yr awdurdod yn unol â pharagraff (2); a
b
os yw'r aelodau craidd yn ei ystyried yn fuddiol, dim mwy na thri aelod eraill a benodwyd gan yr awdurdod yn unol â pharagraff (7), ac nad ydynt yn aelodau o'r awdurdod, mae'n ymddangos i'r aelodau craidd eu bod yn cynrychioli buddiannau unrhyw adran o'r gymuned leol.
2
At ddibenion y rheoliad hwn rhaid i “aelodau craidd” fforwm gynnwys —
a
o leiaf un aelod neu swyddog o'r awdurdod ond dim mwy na phump;
b
o leiaf un a enwebwyd yn unol â pharagraff (3) ond dim mwy na thri;
c
o leiaf un a enwebwyd yn unol â pharagraff (4) ond dim mwy na thri;
ch
o leiaf un o bob grŵ p o ysgolion ond dim mwy na thri, y dylai pob un ohonynt fod naill ai yn bennaeth neu'n llywodraethwr heblaw llywodraethwr sydd wedi'i benodi i gorff llywodraethu gan yr awdurdod ac sydd yn aelod o'r awdurdod;
d
o leiaf un cynrychiolydd sy'n rhiant-lywodraethwr ond dim mwy na thri; ac
dd
dim mwy na thri, nad ydynt yn aelodau o'r awdurdod, ac y mae'n ymddangos i'r awdurdod eu bod yn cynrychioli buddiannau unrhyw adran o'r gymuned leol.
3
Rhaid i aelodau sy'n dod o fewn paragraff (2)(b) gael eu henwebu gan yr awdurdod esgobaethol priodol yr Eglwys yng Nghymru sy'n cynnwys ardal yr awdurdod ac os yw'r ardal yn dod o fewn mwy nag un esgobaeth —
a
rhaid i'r aelodau gael eu henwebu gan yr awdurdod esgobaethol priodol ar gyfer un o'r esgobaethau gyda chytundeb yr awdurdod esgobaethol priodol ar gyfer yr esgobaethau eraill; neu
b
os nad ydyw'r awdurdodau esgobaethol priodol yn gallu cytuno, rhaid i bob awdurdod esgobaethol priodol enwebu un aelod, ac os oes mwy na thri enwebiad, rhaid i'r awdurdod benodi tri aelod o'r enwebiadau hynny.
4
Rhaid i aelodau sy'n dod o fewn paragraff (2)(c) gael eu henwebu gan awdurdod esgobaethol priodol esgobaeth yr Eglwys Gatholig sy'n cynnwys ardal yr awdurdod ac, os yw'r ardal yn dod o fewn mwy nag un esgobaeth o'r fath, mae paragraffau (3)(a) a (b) i fod yn gymwys —
a
gan roi cyfeiriad at awdurdod esgobaethol priodol esgobaeth yr Eglwys Gatholig yn lle'r cyfeiriad at awdurdod esgobaethol priodol yr Eglwys yng Nghymru; a
b
gan roi cyfeiriad at yr Eglwys Gatholig yn lle'r cyfeiriad at yr Eglwys yng Nghymru.
5
Rhaid i'r awdurdod benderfynu nifer aelodau y fforwm sy'n dod o fewn is-baragraffau (a), ac (ch) i (dd) o baragraff (2).
6
Rhaid penodi aelodau yn unol â pharagraff (1)(b) ar argymhelliad aelodau craidd y fforwm yn unig.
7
Yn ychwanegol, caiff yr aelodau craidd wahodd partïon eraill â buddiant i gyfarfod o'r fforwm os ydynt o'r farn bod hynny'n briodol ar ôl ystyried y materion sy'n codi i'w trafod.
Deiliadaeth aelodau6
1
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r rheoliad hwn, rhaid i'r personau a benodwyd yn aelodau craidd fforwm ddal swydd a'i gadael yn unol â thelerau eu penodiad phan beidiant â bod yn aelodau craidd o'r fforwm, maent i fod yn gymwys i gael eu hailbenodi.
2
Ni ddylid penodi neb yn aelod craidd am gyfnod penodedig sy'n hwy na phedair blynedd.
3
Rhaid i aelod craidd adael ei swydd —
a
os penodwyd y person o dan reoliad 5(2)(a), a'i fod yn peidio â bod yn aelod neu swyddog o'r awdurdod o dan sylw;
b
os penodwyd y person o dan reoliad 5(2)(ch), a'i fod yn peidio â bod yn bennaeth neu'n llywodraethwr ysgol mewn grŵ p o ysgolion;
c
os penodwyd y person o dan reoliad 5(2)(d), a'i fod yn peidio â bod yn gynrychiolydd sy'n rhiant-lywodraethwr;
ch
yn achos aelod sy'n dod o fewn is-baragraff (b) neu (c) o reoliad 5(2), os yw'r corff a enwebodd yr aelod o'r farn na ddylai'r aelod fod bellach yn aelod o'r fforwm ac yn hysbysu'r ysgrifennydd yn unol â hynny;
d
yn achos aelod sy'n dod o fewn is-baragraffau (a), (ch), (d) neu (dd) o reoliad 5(2), os yw'r awdurdod, yn dilyn argymhelliad gan yr aelodau craidd, o'r farn na ddylai'r aelod fod bellach yn aelod o'r fforwm.
4
O ran personau a benodir yn aelod arall —
a
rhaid iddo ddal swydd a'i gadael yn unol â thelerau ei benodiad fel y penderfynir arnynt gan yr aelodau craidd;
b
caiff ymddiswyddo fel aelod ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r ysgrifennydd.
5
Rhaid i bob aelod o fforwm adael ei swydd os caiff y fforwm ei ddiddymu yn unol â rheoliad 12(2).
Ethol i swydd7
1
Yng nghyfarfod cyntaf y fforwm a phob cyfarfod y cyfeirir ato ym mharagraff (2) rhaid i'r aelodau craidd ethol cadeirydd ac is-gadeirydd.
2
Mae'r cadeirydd a'r is-gadeirydd i ddal eu swyddi tan y cyfarfod nesaf ar ôl y dyddiad sydd flwyddyn ar ôl y cyfarfod pan etholwyd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd, a phan beidiant â dal swydd maent i fod yn gymwys i gael eu hailethol.
3
Os daw swydd cadeirydd neu is-gadeirydd yn wag yn achlysurol rhaid i'r aelodau craidd yn eu cyfarfod nesaf ethol un o'u haelodau i lenwi'r swydd wag honno a mae'r aelod a etholir i ddal y swydd tan ddyddiad y cyfarfod y byddai'r cadeirydd neu is-gadeirydd wedi peidio â'i dal pe na bai'r swydd wedi dod yn wag.
4
Rhaid i gadeirydd neu is-gadeirydd beidio â dal swydd os yw'n ymddiswyddo drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r ysgrifennydd.
5
Caiff swydd cadeirydd ac is-gadeirydd eu dal gan berson a allai fod yn aelod o'r fforwm neu beidio.
Ysgrifennydd fforwm8
Rhaid i'r aelodau craidd benodi person, a enwebwyd gan yr awdurdod, nad yw'n aelod o'r fforwm, i weithredu yn ysgrifennydd y fforwm.
Cyfarfodydd fforwm9
1
Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Rheoliadau hyn, caiff yr aelodau craidd reoleiddio eu gweithdrefnau eu hunain.
2
Rhaid i fforwm gyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn.
Aelodau dirprwyol10
1
Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (7) caiff unrhyw aelod o'r fforwm enwebu aelod dirprwyol i fynychu cyfarfodydd y fforwm yn ei absenoldeb.
2
Rhaid i enwebiad o dan baragraff (1) gael ei wneud drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r ysgrifennydd, ac y mae i bara'n effeithiol hyd nes y caiff ei dynnu'n ôl.
3
Caiff aelod a benodir o dan reoliad 5(2)(a) ond enwebu aelod dirprwyol sydd ei hunan yn aelod neu swyddog o'r awdurdod.
4
Ni chaiff aelod a benodir o dan reoliad 5(2)(b) neu (c) enwebu aelod dirprwyol onid yw'r corff a enwebodd yr aelod hwnnw yn cydsynio â'r enwebiad a gynigir.
5
Caiff aelod a benodir o dan reoliad 5(2)(ch) enwebu aelod dirprwyol sydd yn bennaeth neu'n llywodraethwr (nad yw'n llywodraethwr wedi'i benodi gan yr awdurdod ac sy'n aelod o'r awdurdod) ysgol sydd yn yr un grŵ p o ysgolion â'r ysgol y mae'r aelod o dan sylw yn llywodraethwr neu'n bennaeth arni.
6
Caiff aelod a benodir o dan reoliad 5(2)(d) ond enwebu aelod dirprwyol sydd ei hunan yn gynrychiolydd sy'n rhiant-lywodraethwr.
7
Ni chaiff aelod a benodir o dan reoliad 5(2)(dd) enwebu aelod dirprwyol onid yw'r awdurdod yn cydsynio â'r enwebiad a gynigir.
Cyngor ac argymhellion fforwm11
Rhaid i fforwm ddosbarthu ei gyngor a'i argymhellion i bob awdurdod derbyn a phob ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod, a rhaid iddo drefnu bod cyfryw gyngor ac argymhellion ar gael i unrhyw berson arall sydd â buddiant.
Cyd-fforymau12
1
Caiff awdurdod sefydlu cyd-fforwm gydag un neu fwy o awdurdodau addysg lleol eraill.
2
Os bydd awdurdod, ar ôl iddo sefydlu fforwm, wedyn yn penderfynu sefydlu cyd-fforwm yn unol â pharagraff (1), rhaid diddymu'r fforwm sydd yn bodoli cyn ffurfio'r cyd-fforwm.
3
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gyd-fforwm gyda'r addasiadau a bennir yn yr Atodlen.
Is-bwyllgorau13
1
Os sefydlir is-bwyllgor, yn unol ag adran 85A(2) o'r Ddeddf, y fforwm sydd i fod yn gyfrifol am benderfynu'r calynol ar gyfer yr is -bwyllgor:
a
aelodaeth a chyfansoddiad;
b
y weithdrefn dros alw a chynnal cyfarfodydd;
c
lledaenu cyngor ac argymhellion.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985.
YR ATODLENADDASIADAU I'R RHEOLIADAU SY'N GYMWYS I GYD-FFORYMAU
1
Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at awdurdod i'w darllen, mewn perthynas â chyd-fforwm neu sefydlu cyd-fforwm, fel cyfeiriadau at yr awdurdodau addysg lleol dros yr ardal y mae'r cyd-fforwm wedi ei sefydlu neu i'w sefydlu ar ei chyfer.
2
Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at fforwm i'w darllen, mewn perthynas â chyd-fforwm, fel cyfeiriadau at gyd-fforwm a sefydlwyd yn unol â'r Rheoliadau hyn.
3
Rhaid i aelod dirprwyol, a enwebwyd o dan reoliad 10(3), fod yn aelod neu swyddog o'r un awdurdod addysg lleol â'r aelod neu'r swyddog sy'n enwebu.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)