Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi amryw faterion sy'n ymwneud â sefydlu fforymau ysgolion a'u swyddogaethau.
Mae rheoliad 2 yn darparu bod rhaid i bob awdurdod addysg lleol sefydlu fforwm ysgolion erbyn 30 Tachwedd 2003.
Mae rheoliad 3 yn pennu'r isafswm o aelodau'r fforwm ysgolion a chyfran uchaf yr aelodau sy'n dod o'r tu allan i'r ysgolion. Mae hefyd yn cynnwys darpariaethau ynghylch amodau aelodaeth ac ar gyfer dod ag aelodaeth i ben yn gynnar mewn amgylchiadau penodedig.
Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer penodi penaethiaid a llywodraethwyr ysgolion a gynhelir, sydd wedi cael eu hethol yn unol â'r gweithdrefnau y penderfynwyd arnynt gan yr awdurdod addysg lleol, i fod yn aelodau ysgolion, a hynny i sicrhau bod ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, ysgolion arbennig, a gwahanol gategorïau o ysgolion yn cael eu cynrychioli'n briodol.
Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth bod yr awdurdod addysg lleol yn penodi aelodau o'r tu allan i'r ysgolion a hynny i gynrychioli cyrff perthnasol, a allai gynnwys cyrff esgobaethol ac Undebau Llafur.
Mae rheoliad 6 yn darparu ar gyfer cyfarfodydd a thrafodion y fforymau.
Mae rheoliad 7 yn darparu i'r awdurdod ymgynghori â'r fforwm yn flynyddol ar arfer ei swyddogaethau o ran ei gyllideb ysgolion a newidiadau i'w gynllun ariannu.
Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth bod yr awdurdod addysg lleol yn ymgynghori â'r fforwm ysgolion ynghylch newidiadau i fformiwla ariannu ysgolion yr awdurdod.
Mae rheoliad 9 yn darparu yr ymgynghorir â'r fforwm ynghylch contractau cyflenwi a gwasanaethau cyhoeddus os yw'r pris yn mynd y tu hwnt i'r trothwy caffael a ragnodwyd ac ynghylch cytundebau lefel gwasanaeth ar gyfer cyflenwi nwyddau a gwasanaethau i'r ysgolion gan yr awdurdod.
Mae rheoliadau 10, 11 a 12 yn darparu bod y fforwm yn rhoi gwybod i'r ysgolion am bob ymgynghoriad a wnaethpwyd, bod costau'r fforwm yn cael eu talu o gyllideb yr AALl, a bod yr awdurdod addysg lleol yn talu costau rhesymol aelodau'r fforwm.