(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r person perthnasol (hynny yw rhiant disgybl, neu'r disgybl ei hun os ydyw'n 18) sy'n gallu apelio yn erbyn penderfyniad athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion i wahardd y disgybl yn barhaol. Mae'r hawl newydd hwn i apelio yn gymwys i unrhyw benderfyniad a wneir gan athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion i wahardd disgybl yn barhaol ar neu ar ôl 1 Medi 1994.
Mae Rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i'r athro neu athrawes sy'n gyfrifol hysbysu'r person perthnasol a'r awdurdod addysg lleol ar unwaith am y penderfyniad a'r rheswm drosto pan gaiff disgybl ei wahardd yn barhaol ar ôl dyddiad dod i rym y Rheoliadau hyn. Yn ogystal, rhaid hysbysu'r person perthnasol o'i hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad a sut y gall fynd ati i wneud apêl o'r fath.
Mae Rheoliad 5 yn gosod dyletswydd ar awdurdod addysg lleol i wneud trefniadau sy'n galluogi'r person perthnasol i wneud apêl. Fodd bynnag, rhaid i'r person perthnasol gydymffufio â'r terfynau amser ar gyfer hysbysu'r awdurdod addysg lleol o'i fwriad i apelio. Mewn perthynas â phenderfyniad perthnasol a wnaed ar y diwrnod pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl y diwrnod hwnnw, y terfyn amser yw 15 diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan dderbyniodd y person perthnasol hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 4(1). Mewn perthynas â phenderfyniad perthnasol a wnaed cyn y diwrnod pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym, y terfyn amser yw 30 diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod hwnnw.
Mae rheoliad 6 yn cymhwyso Atodlen 18 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, fel y caiff ei haddasu gan yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, ar gyfer unrhyw benderfyniad a wneir yn unol â rheoliad 5.
Mae rheoliadau 7 ac 8 yn ailadrodd y darpariaethau sydd eisoes yn bodoli yn adran 67(3) a (4) o Ddeddf 1998 ar gyfer unedau cyfeirio disgyblion, gan ychwanegu darpariaeth (yn rheoliad 8(b)) i'r panel apelau wneud penderfyniad y byddai adsefydlu wedi bod yn briodol mewn achos pan na fyddai fel arall mewn gwirionedd wedi bod yn ymarferol i roi cyfarwyddyd o'r fath.
Mae rheoliad 9 yn ei gwneud hi'n ofynnol i athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion, awdurdod addysg lleol neu banel apelau, barchu canllawiau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru wrth gyflawni swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.