(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio dwy ffurflen sydd wedi'u rhagnodi at ddibenion Atodlen 10 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (diogelwch deiliadaeth wrth derfynu tenantiaethau preswyl hir).
Mae'r ffurflenni y mae'r diwygio hwn yn effeithio arnynt i'w gweld yn yr Atodlen i Reoliadau Tenantiaethau Preswyl Hir (Prif Ffurflenni) 1997. Mae newidiadau yn cael eu gwneud i'r nodiadau ar ddiwedd Ffurflenni 1 a 2 yn dilyn y diwygiad i adran 16 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Prydlesi 1967 gan adran 143 o Ddeddf Cyd-ddeiliadaeth a Diwygio Cyfraith Prydlesi 2002 (a gafodd ei dwyn i rym yng Nghymru ar 1 Ionawr 2003 gan O.S. 2002/3012 (Cy.284)(C.96)). Mae yna newidiadau drafftio eraill.