xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 233 (Cy.33)

LANDLORD A THENANT

Rheoliadau Tenantiaethau Preswyl Hir (Prif Ffurflenni) (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

5 Chwefror 2003

Yn dod i rym

28 Chwefror 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan baragraff 4(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(1), a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tenantiaethau Preswyl Hir (Prif Ffurflenni) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio

2.—(1Mae Ffurflenni 1 a 2 yn yr Atodlen i Reoliadau Tenantiaethau Preswyl Hir (Prif Ffurflenni) 1997(2) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle nodiadau 2 a 3 ar ddiwedd pob ffurflen, rhowch—

Cymhwyso

3.  Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn effeithio ar ddilysrwydd hysbysiad a gyflwynwyd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Chwefror 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio dwy ffurflen sydd wedi'u rhagnodi at ddibenion Atodlen 10 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (diogelwch deiliadaeth wrth derfynu tenantiaethau preswyl hir).

Mae'r ffurflenni y mae'r diwygio hwn yn effeithio arnynt i'w gweld yn yr Atodlen i Reoliadau Tenantiaethau Preswyl Hir (Prif Ffurflenni) 1997. Mae newidiadau yn cael eu gwneud i'r nodiadau ar ddiwedd Ffurflenni 1 a 2 yn dilyn y diwygiad i adran 16 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Prydlesi 1967 gan adran 143 o Ddeddf Cyd-ddeiliadaeth a Diwygio Cyfraith Prydlesi 2002 (a gafodd ei dwyn i rym yng Nghymru ar 1 Ionawr 2003 gan O.S. 2002/3012 (Cy.284)(C.96)). Mae yna newidiadau drafftio eraill.

(1)

1989 p.42. Gweler y diffiniad o “prescribed” yn adran 45(1) o Ddeddf Tai 1988 (p.50), sy'n effeithiol yn rhinwedd paragraff 2(2) yn Atodlen 10 i Ddeddf 1989. Trosglwyddir Swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas a Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, erthygl 2, Atodlen 1.

(2)

.

(3)

Mewnosodwyd paragraff 1(2A) yn Atodlen 10 i Ddeddf 1989 a diwygiwyd is-baragraffau 2(4) a 2(5) o Atodlen 10 i Ddeddf 1989 gan reoliad 2 yn Rheoliadau Cyfeinadau at Ardreth (Tai) 1990 (O.S. 1990/434), a pharagraff 31 i'r Atodlen i'r Rheoliadau.