Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwyd (Prysgnau o Tsieina) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2295 (Cy.224)) (rheoliad 2). Y diwygiad yw y caiff y diffiniad o “the Commission Decision” yn rheoliad 2(1) ei ddiweddaru i adlewyrchu diwygiad pellach a wnaed iddo gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/550/EC (OJ Rhif L187, 22.7.2003, t.39).

Mae O.S. 2002/2295 (Cy. 224) yn rhoi ar waith Benderfyniad y Comisiwn 2002/79/EC sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio prysgnau a chynhyrchion penodol sy'n deillio o brysgnau sy'n tarddu o Tsieina neu a anfonir oddi yno (OJ Rhif L34, 5.2.2002, t. 26) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2002/233/EC (OJ Rhif L78, 21.3.2002, t. 14) a Phenderfyniad y Comisiwn 2002/678/EC (OJ Rhif L229, 27.8.2002, t. 33). Effaith y diwygiad a wneir gan y Rheoliadau hyn yw bod O.S. 2002/2295 (Cy. 224) yn awr yn rhoi ar waith Benderfyniad y Comisiwn 2002/79/EC fel y'i diwygiwyd yn awr hefyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/550/EC. Pennir y categorïau o gynhyrchion sydd yn ddarostyngedig i'r amodau mewnforio arbennig y cyfeirir atynt uchod yn Erthygl 1 o Benderfyniad y Comisiwn 2002/79/EC fel y'i diwygiwyd.

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn.