- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig. Maent yn diwygio Rheoliadau Bwyd (Ffigys, Cnau Cyll a Chnau Pistasio o Dwrci) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (O.S.2002/2296) (Cy.225) (rheoliad 2) O.S. 2002/2296 (Cy.225) sy'n gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2002/2296/EC sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio ffigys, cnau cyll a chnau pistasio a chynhyrchion penodol sy'n deillio ohonynt ac sy'n tarddu o Dwrci neu'n cael eu traddodi oddi yno (OJ Rhif L34, 5.2.2002, t.26) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2002/233/EC (OJ Rhif L78, 21.3.2002, t.14) a Phenderfyniad y Comisiwn 2002/679/EC (Rhif OJ L229, 27.8.2002, t. 37).
Effaith y diwygio a wneir gan y Rheoliadau hyn yw bod O.S. 2002/2296 (Cy.225) yn awr yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2002/80/EC fel y'i diwygiwyd bellach gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/552/EC (Rhif OJ L187, 26.7.2003, t. 47). Pennir y categorïau o gynhyrchion sydd yn ddarostyngedig i'r amodau mewnforio arbennig y cyfeirir atynt uchod yn Erthygl 1 o Benderfyniad y Comisiwn 1/2002/EC fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/552/EC.
Dyma'r prif newidiadau sy'n cael eu hachosi gan y Rheoliadau hyn —
(a)mae'r diffiniad o “Penderfyniad y Comisiwn” yn rheoliad 2(1) o O.S. 2002/2296 (Cy.225) yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu'r diwygiad a wneir iddo gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/552/EC;
(b)mae diwygiad canlyniadol i'r diffiniad o “Turkish products” yn rheoliad 2(1) o O.S. 2002/2296 (Cy. 225); ac
(c)addaswyd y gofyniad blaenorol bod bob llwyth o gynhyrchion Twrcaidd o dan reolaeth yn ddarostyngedig i samplu a dadansoddi er mwyn sicrhau cydymffurfedd â Phenderfyniad y Comisiwn 2002/80/EC, fel y'i diwygiwyd, drwy ddarparu —
(i)bod samplu a dadansoddi mewn perthynas ag afflatocsin B1 a'r cyfanswm o lefelau afflatocsin yn digwydd mewn perthynas â llwythi o ffigys sychion, cnau cyll a chnau pistasio a chynhyrchion penodol sy'n deillio ohonynt,
(ii)bod rhaid i'r cyfnod cadw at ddibenion hapsamplu a hapddadansoddi beidio â bod yn hwy na 15 diwrnod gwaith, a
(iii)bod rhaid i gopi o'r dystysgrif iechyd a'r dogfennau sy'n mynd gyda hi fynd gyda phob rhan o lwyth hollt.
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: