(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn codi uchafswm ac isafswm y taliadau colli cartref sy'n daladwy o dan Ddeddf Iawndal Tir 1973 (“y Ddeddf”) i'r rhai sydd â buddiant perchennog mewn annedd. Maent hefyd yn codi swm y taliad colli cartref sy'n daladwy mewn unrhyw achos arall.
Mae gan berson sy'n cael ei ddisodli o annedd o ganlyniad i bryniant gorfodol neu o dan yr amgylchiadau eraill a nodir yn adran 29 o'r Ddeddf yr hawl i daliad colli cartref. Sefydlwyd y sail bresennol ar gyfer asesu maint taliad colli cartref gan ddiwygiadau i'r Ddeddf a wnaed gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.
Os digwydd i berson sy'n meddiannu annedd ar y dyddiad disodli fod â buddiant perchennog, mae adran 30(1) o'r Ddeddf yn darparu i swm y taliad colli cartref gael ei gyfrif fel canran o werth y buddiant hwnnw ar y farchnad, a'r swm hwnnw'n ddarostyngedig i uchafswm a lleiafswm.
Mae adran 30(2) yn rhagnodi maint y taliad colli cartref mewn unrhyw achos arall.
Yn sgil ymgynghoriad, mae rheoliad 2(a) o'r Rheoliadau hyn yn codi'r uchafswm sy'n daladwy o dan adran 30(1) o'r Ddeddf o £15,000 i £31,000 ac mae rheoliad 2(b) yn codi'r lleiafswm o £1,500 i £3,100. Mae rheoliad 2(c) yn codi'r taliad colli cartref sy'n daladwy o dan adran 30(2) o'r Ddeddf, mewn unrhyw achos arall, o £1,500 i £3,100.
Dim ond uchafswm a lleiafswn y taliadau colli cartref sy'n cael eu newid ac nid oes newid i'r ganran daladwy o werth ar y farchnad buddiant y person sy'n cael ei ddisodli.
Mae'r symiau diwygiedig yn gymwys pan fydd dyddiad y disodli yn digwydd ar 1 Medi 2003 neu wedi hynny.