- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
CAFFAEL TIR, CYMRU
Wedi'u gwneud
16 Gorffennaf 2003
Yn dod i rym
1 Medi 2003
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2003 ac maent yn dod i rym ar 1 Medi 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2. Pan fydd y dyddiad disodli ar y dydd y daw'r Rheoliadau i rym neu wedi hynny—
(a)yr uchafswm taliad colli cartref rhagnodedig at bwrpas adran 30(1) o'r Ddeddf yw £31,000;
(b)yr isafswm taliad colli cartref rhagnodedig at bwrpas adran 30(1) o'r Ddeddf yw £3,100; ac
(c)swm y taliad colli cartref rhagnodedig at bwrpas adran 30(2) o'r Ddeddf yw £3,100.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Gorffennaf 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn codi uchafswm ac isafswm y taliadau colli cartref sy'n daladwy o dan Ddeddf Iawndal Tir 1973 (“y Ddeddf”) i'r rhai sydd â buddiant perchennog mewn annedd. Maent hefyd yn codi swm y taliad colli cartref sy'n daladwy mewn unrhyw achos arall.
Mae gan berson sy'n cael ei ddisodli o annedd o ganlyniad i bryniant gorfodol neu o dan yr amgylchiadau eraill a nodir yn adran 29 o'r Ddeddf yr hawl i daliad colli cartref. Sefydlwyd y sail bresennol ar gyfer asesu maint taliad colli cartref gan ddiwygiadau i'r Ddeddf a wnaed gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.
Os digwydd i berson sy'n meddiannu annedd ar y dyddiad disodli fod â buddiant perchennog, mae adran 30(1) o'r Ddeddf yn darparu i swm y taliad colli cartref gael ei gyfrif fel canran o werth y buddiant hwnnw ar y farchnad, a'r swm hwnnw'n ddarostyngedig i uchafswm a lleiafswm.
Mae adran 30(2) yn rhagnodi maint y taliad colli cartref mewn unrhyw achos arall.
Yn sgil ymgynghoriad, mae rheoliad 2(a) o'r Rheoliadau hyn yn codi'r uchafswm sy'n daladwy o dan adran 30(1) o'r Ddeddf o £15,000 i £31,000 ac mae rheoliad 2(b) yn codi'r lleiafswm o £1,500 i £3,100. Mae rheoliad 2(c) yn codi'r taliad colli cartref sy'n daladwy o dan adran 30(2) o'r Ddeddf, mewn unrhyw achos arall, o £1,500 i £3,100.
Dim ond uchafswm a lleiafswn y taliadau colli cartref sy'n cael eu newid ac nid oes newid i'r ganran daladwy o werth ar y farchnad buddiant y person sy'n cael ei ddisodli.
Mae'r symiau diwygiedig yn gymwys pan fydd dyddiad y disodli yn digwydd ar 1 Medi 2003 neu wedi hynny.
1973 p.26; mewnosodwyd adran 30 gan adran 68(3) o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 p.34, a hynny'n effeithiol o 25 Medi 1991 (gweler O.S. 1991/2067, erthygl 3).
Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 30, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) erthygl 2 ac Atodlen 1.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: