(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio mewn perthynas â Chymru'n unig Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001 (O.S. 2001/343, fel y'i diwygiwyd eisoes), Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 (O.S. 1999/1663, fel y'i diwygiwyd eisoes) a Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 (O.S. 1999/2325, fel y'i diwygiwyd eisoes).
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith —
(a)Cyfarwyddeb 2002/2/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 79/373/EEC ar gylchredeg porthiant cyfansawdd ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 91/357/EEC (OJ Rhif L63, 6.3.2002, t.23); a
(b)Cyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwydydd anifeiliaid (OJ Rhif L140, 30.5.2002, t.10).
3. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliadau canlynol y Gymuned —
(a)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 261/2003 sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ffyrdd newydd o ddefnyddio ychwanegion mewn porthiant (OJ Rhif L37, 13.2.2003, t.12);
(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 316/2003 sy'n ymwneud ag awdurdodi'n barhaol ychwanegyn mewn porthiant ac awdurdodi dros dro ychwanegyn a awdurdodwyd eisoes mewn porthiant (OJ Rhif L46, 20.2.2003, t.15);
(c)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 666/2003 sy'n awdurdodi dros dro ddefnyddio rhai micro-organeddau mewn porthiant (OJ Rhif . L96, 12.4.2003, t.11); a
(ch)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 668/2003 sy'n ymwneud ag awdurdodi'n barhaol ychwanegyn mewn porthiant (OJ Rhif L96, 12.4.2003, t.14).
4. Mae'r Rheoliadau hyn —
(a)yn diwygio Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”)—
(i)yn rheoliad 2(1) (dehongli), drwy ddileu'r diffiniadau o'r termau “rhestr genedlaethol” a “trydedd wlad” ac unrhyw ddiffiniadau'n dechrau ag ymadroddion penodol, addasu'r diffiniadau o'r termau “porthiant cydategol”, “porthiant cyflawn”, “deunydd porthiant”, “porthiant” a “rhoi mewn cylchrediad”, rhoi diffiniad newydd o'r term “porthiant cyfansawdd” ac ychwanegu diffiniadau newydd ar gyfer y termau “cynnyrch y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwydydd anifeiliaid” a “sylweddau annymunol” (rheoliad 3(a)),
(ii)drwy roi yn ei le fersiwn wedi'i diwygio o reoliad 2(8) (sy'n rhagnodi sut y mae cyfeiriadau yn Rheoliadau 2001 at offerynnau'r Gymuned i'w dehongli) (rheoliad 3(b)),
(iii)drwy wneud diwygiadau canlyniadol i reoliadau 7(1), 24(1) a 24(2) (rheoliadau 4, 7ac 8),
(iv)rhoi yn lle rheoliad 12 (rheoli porthiant a deunyddiau porthiant sy'n cynnwys sylweddau annymunol), reoliad newydd wedi'i ailenwi—
(aa)sy'n hepgor y darpariaethau a gaiff eu cynnwys yn y rheoliad blaenorol a oedd yn rheoli rhoi deunyddiau porthiant sy'n cynnwys sylweddau annymunol dros ben y lefelau a ragnodwyd, a'i gwnâi'n ofynnol i'r sawl yr oedd ganddo yn ei feddiant, wrth gynnal busnes, gynnyrch nad oedd yn cydymffurfio, hysbysu'r Asiantaeth Safonau Bwyd a'r awdurdodau gorfodi o'r ffaith honno, ac a ddiffiniai ddeunydd porthiant at ddibenion rheoliad 12, a
(bb)sy'n ailddeddfu gweddill ddarpariaethau y rheoliad 12 blaenorol gydag addasiadau, yn arbennig trwy roi yn lle cyfeiriadau at y termau “porthiant” a “deunydd porthiant” gyfeiriadau at y term “cynnyrch y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwydydd anifeiliaid” (rheoliad 5);
(v)mewnosod rheoliad newydd, rheoliad 17A (darparu gwybodaeth mewn perthynas â phorthiant cyfansawdd ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid anwes), sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr bwydydd cyfansawdd ddarparu gwybodaeth benodedig yn ymwneud â'r porthiant os gofynnir iddynt wneud hynny gan y rhai y cyflenwir y bwydydd iddynt (rheoliad 6),
(vi)ychwanegu dau Reoliad y Comisiwn sy'n rheoliadau newydd at y rhestr o Reoliadau'r Comisiwn y rhoddwyd awdurdodiad i farchnata ychwanegion bwyd oddi tanynt, a hwnnw'n awdurdodiad a geir yn Rhan IX o'r Tabl i Atodlen 3 (rheoliad 9 a'r Atodlen),
(vii) yn Atodlen 4 (cynnwys y datganiad statudol neu ddatganiad arall (ac eithrio ar gyfer ychwanegion a rhag-gymysgeddau na chânt eu cynnwys mewn porthiant)) addasu'r materion sy'n ymwneud â phorthiant cyfansawdd y mae'n ofynnol eu cynnwys yn y datganiad statudol a ragnodir gan reoliad 4 neu a gaiff eu datgan fel arall (rheoliad 10),
(viii) yn Atodlen 7 (terfynau a ragnodwyd ar gyfer sylweddau annymunol), addasu'r penawdau i golofn 1 a cholofn 2 o Ran I (porthiant) a dileu Rhan II (deunydd porthiant) (rheoliad 11), a
(ix) dileu Rhan II o Atodlen 10 (sy'n cynnwys enwau'r categorïau o ddeunyddiau porthiant i'w defnyddio mewn perthynas â phorthiant cyfansawdd ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid anwes) a ganiatâi, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, ddatgelu'r porthiant cyfansawdd hwnnw yn y datganiad a ragnodir gan reoliad 4 (rheoliad 12); a
(b)gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 a Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 (rheoliadau 13 i 20).
5. Paratowyd asesiad effaith rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn ac fe'i gosodwyd yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi yn nodi sut mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2002/2/EC a 2002/32/EC yn cael eu trosi'n gyfraith ddomestig trwy gyfrwng y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau o Uned Bwydydd Anifeiliaid yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1af, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EN.