Search Legislation

Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio mewn perthynas â Chymru'n unig Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001 (O.S. 2001/343, fel y'i diwygiwyd eisoes), Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 (O.S. 1999/1663, fel y'i diwygiwyd eisoes) a Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 (O.S. 1999/2325, fel y'i diwygiwyd eisoes).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith —

(a)Cyfarwyddeb 2002/2/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 79/373/EEC ar gylchredeg porthiant cyfansawdd ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 91/357/EEC (OJ Rhif L63, 6.3.2002, t.23); a

(b)Cyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwydydd anifeiliaid (OJ Rhif L140, 30.5.2002, t.10).

3.  Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliadau canlynol y Gymuned —

(a)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 261/2003 sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ffyrdd newydd o ddefnyddio ychwanegion mewn porthiant (OJ Rhif L37, 13.2.2003, t.12);

(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 316/2003 sy'n ymwneud ag awdurdodi'n barhaol ychwanegyn mewn porthiant ac awdurdodi dros dro ychwanegyn a awdurdodwyd eisoes mewn porthiant (OJ Rhif L46, 20.2.2003, t.15);

(c)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 666/2003 sy'n awdurdodi dros dro ddefnyddio rhai micro-organeddau mewn porthiant (OJ Rhif . L96, 12.4.2003, t.11); a

(ch)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 668/2003 sy'n ymwneud ag awdurdodi'n barhaol ychwanegyn mewn porthiant (OJ Rhif L96, 12.4.2003, t.14).

4.  Mae'r Rheoliadau hyn —

(a)yn diwygio Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”)—

(i)yn rheoliad 2(1) (dehongli), drwy ddileu'r diffiniadau o'r termau “rhestr genedlaethol” a “trydedd wlad” ac unrhyw ddiffiniadau'n dechrau ag ymadroddion penodol, addasu'r diffiniadau o'r termau “porthiant cydategol”, “porthiant cyflawn”, “deunydd porthiant”, “porthiant” a “rhoi mewn cylchrediad”, rhoi diffiniad newydd o'r term “porthiant cyfansawdd” ac ychwanegu diffiniadau newydd ar gyfer y termau “cynnyrch y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwydydd anifeiliaid” a “sylweddau annymunol” (rheoliad 3(a)),

(ii)drwy roi yn ei le fersiwn wedi'i diwygio o reoliad 2(8) (sy'n rhagnodi sut y mae cyfeiriadau yn Rheoliadau 2001 at offerynnau'r Gymuned i'w dehongli) (rheoliad 3(b)),

(iii)drwy wneud diwygiadau canlyniadol i reoliadau 7(1), 24(1) a 24(2) (rheoliadau 4, 7ac 8),

(iv)rhoi yn lle rheoliad 12 (rheoli porthiant a deunyddiau porthiant sy'n cynnwys sylweddau annymunol), reoliad newydd wedi'i ailenwi—

(aa)sy'n hepgor y darpariaethau a gaiff eu cynnwys yn y rheoliad blaenorol a oedd yn rheoli rhoi deunyddiau porthiant sy'n cynnwys sylweddau annymunol dros ben y lefelau a ragnodwyd, a'i gwnâi'n ofynnol i'r sawl yr oedd ganddo yn ei feddiant, wrth gynnal busnes, gynnyrch nad oedd yn cydymffurfio, hysbysu'r Asiantaeth Safonau Bwyd a'r awdurdodau gorfodi o'r ffaith honno, ac a ddiffiniai ddeunydd porthiant at ddibenion rheoliad 12, a

(bb)sy'n ailddeddfu gweddill ddarpariaethau y rheoliad 12 blaenorol gydag addasiadau, yn arbennig trwy roi yn lle cyfeiriadau at y termau “porthiant” a “deunydd porthiant” gyfeiriadau at y term “cynnyrch y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwydydd anifeiliaid” (rheoliad 5);

(v)mewnosod rheoliad newydd, rheoliad 17A (darparu gwybodaeth mewn perthynas â phorthiant cyfansawdd ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid anwes), sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr bwydydd cyfansawdd ddarparu gwybodaeth benodedig yn ymwneud â'r porthiant os gofynnir iddynt wneud hynny gan y rhai y cyflenwir y bwydydd iddynt (rheoliad 6),

(vi)ychwanegu dau Reoliad y Comisiwn sy'n rheoliadau newydd at y rhestr o Reoliadau'r Comisiwn y rhoddwyd awdurdodiad i farchnata ychwanegion bwyd oddi tanynt, a hwnnw'n awdurdodiad a geir yn Rhan IX o'r Tabl i Atodlen 3 (rheoliad 9 a'r Atodlen),

(vii) yn Atodlen 4 (cynnwys y datganiad statudol neu ddatganiad arall (ac eithrio ar gyfer ychwanegion a rhag-gymysgeddau na chânt eu cynnwys mewn porthiant)) addasu'r materion sy'n ymwneud â phorthiant cyfansawdd y mae'n ofynnol eu cynnwys yn y datganiad statudol a ragnodir gan reoliad 4 neu a gaiff eu datgan fel arall (rheoliad 10),

(viii) yn Atodlen 7 (terfynau a ragnodwyd ar gyfer sylweddau annymunol), addasu'r penawdau i golofn 1 a cholofn 2 o Ran I (porthiant) a dileu Rhan II (deunydd porthiant) (rheoliad 11), a

(ix) dileu Rhan II o Atodlen 10 (sy'n cynnwys enwau'r categorïau o ddeunyddiau porthiant i'w defnyddio mewn perthynas â phorthiant cyfansawdd ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid anwes) a ganiatâi, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, ddatgelu'r porthiant cyfansawdd hwnnw yn y datganiad a ragnodir gan reoliad 4 (rheoliad 12); a

(b)gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 a Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 (rheoliadau 13 i 20).

5.  Paratowyd asesiad effaith rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn ac fe'i gosodwyd yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi yn nodi sut mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2002/2/EC a 2002/32/EC yn cael eu trosi'n gyfraith ddomestig trwy gyfrwng y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau o Uned Bwydydd Anifeiliaid yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1af, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EN.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources