2003 Rhif 1850 (Cy.200)
Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Rheoliadau 1,2,3,4,5,7,8,9, ac 11 a 13 i 20
Rheoliadau 6,10 a 12
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 66(1), a 68(1) ac (1A), 69(1), 74A, 75(1), 76(1), ac 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 19701 (fel y'i darllenir ar y cyd â rheoliad 14 o Reoliadau Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (Darpariaethau ac Arbedion Trosiannol a Chanlyniadol) (Cymru a Lloegr) 20002 ac erthyglau 2 a 6 o Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 20023), ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan adran 84(1) o'r Ddeddf honno a chan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n nodi egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn nodi'r gweithdrefnau ym materion diogelwch bwyd4), ac yntau wedi'i ddynodi5 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, wrth arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran olaf hon (i'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn o dan Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 a nodir yn benodol uchod), yn gwneud y Rheoliadau canlynol: